Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: - Datganodd y Cynghorwyr C Anderson a P R Hood-Williams gysylltiad personol â
chofnodion rhif 114 - Cynllun Archwilio Mewnol 2019/20 - Adroddiad Monitro
Chwarter 4 ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr 2020 i 31 Mawrth 2020. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a
gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 11 Chwefror, 10 Mawrth, 26 Mai ac 1 Mehefin 2020 fel
cofnodion cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: - Ychwanegu'r Cynghorwyr J W Jones a P K Jones at y rhestr o bobl a ddaeth ar
1 Mehefin 2020. |
|
Cyflwyniad - Y diweddaraf am Amgylchedd Rheoli Mewnol (Gan Gynnwys Rheoli Risgiau). (Adam Hill) Cofnodion: Roddodd y Dirprwy
Prif Weithredwr, Adam Hill, gyflwyniad i'r Pwyllgor a oedd yn rhoi'r diweddaraf
am yr Amgylchedd Rheoli Mewnol. Darparwyd manylion am yr isod: - ·
Diweddariad
am yr Amgylchedd Rheoli Mewnol - fframwaith llywodraethu, llywodraethu mewnol
ac allanol; ·
Rheoli
Risgiau - cyfrifoldebau'r Cynghorydd a'r Prif Swyddog ·
Fframwaith
Llywodraethu - Dwy egwyddor graidd a phum egwyddor gefnogol; ·
Llywodraethu
Mewnol; ·
Llywodraethu
Allanol; ·
Rheoli
Risgiau a Sicrhau - Fframwaith Sicrhau (edau aur); ·
Rheoli
Risgiau; ·
Llywodraethu; ·
Rheoli
Risgiau (Sicrwydd). Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog ac ymatebwyd yn briodol iddynt. Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys: - ·
Gwersi
a ddysgwyd o ran partneriaethau a'r angen i adolygu eu heffeithiolrwydd yn
barhaol; ·
Risgiau
a geir o ganlyniad i ddiffyg adnoddau Craffu a gwneud gwasanaethau'n addas at y
diben; ·
Datrys
problemau partneriaethau drwy Gyfansoddiad y Cyngor. Soniodd y
Cadeirydd hefyd am y risgiau a amlygwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys adnodd
gweithlu, deall blaenoriaethau presennol a'r cynnydd mewn adroddiadau Archwilio
Mewnol cymedrol. Ychwanegodd ei bod hi'n dechrau gweld gwendidau, fel a
amlygwyd yng ngwaith yr Archwiliad Mewnol ac Allanol. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad llafar; 2)
Cylchredeg
y cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Adolygiad o Bartneriaethau yn Ninas a Sir Abertawe. (Adam Hill) PDF 338 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o rai
o'r prif bartneriaethau, a disgrifiodd y trefniadau ar gyfer llywodraethu ac
asesu risgiau a phroblemau. Esboniwyd bod Cyngor Abertawe'n rhan o nifer mawr o bartneriaethau a grwpiau
cydweithredol, a oedd yn amrywio o ran eu graddfa, eu cwmpas a'u
strwythur. Roedd yr adroddiad yn
canolbwyntio ar y partneriaethau a sefydlwyd yn ffurfiol, a'r grwpiau hynny y
maent wedi cael effaith sylweddol ar waith y cyngor o ran gofynion adnoddau a
chanlyniadau i breswylwyr lleol. Ychwanegwyd bod
sefyllfa lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y bartneriaeth yn brysur ac yn
gymhleth, gyda llawer o ddyblygu a threfniadau gwahanol ar gyfer asesu rigiau a
chanlyniadau. Roedd trefniadau'r bartneriaeth o fewn y cyngor yn adlewyrchu
trefniadau cenedlaethol a rhanbarthol, wedi'u hysgogi gan ddeddfwriaeth
Llywodraeth Cymru a datblygiadau polisi newydd.
Roedd gweithgor llywodraeth leol yng Nghymru wedi
comisiynu adolygiad o Bartneriaethau Strategol yng Nghymru ym mis Gorffennaf
2019. Roedd yr adolygiad yn ceisio archwilio unrhyw gymhlethdod a dyblygiad
diangen, ac yn ceisio nodi cyfleoedd ar gyfer symleiddio a rhesymoli. Er bod yr
adolygiad yn barhaus, roedd adborth gan awdurdodau lleol, partneriaid ac
unigolion y gyfwelwyd â hwy yn cadarnhau bod trefniadau'r bartneriaeth yn
gymhleth ac yn llethol, a bod y pwysau ar uwch-arweinwyr (proffesiynol a
rheoli), yn ogystal â chefnogaeth partneriaeth gorfforaethol, yn sylweddol. Darparwyd manylion y canlynol: - · Partneriaethau yn Abertawe; · Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW (Ein Rhanbarth ar Waith); · Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg; · Bargen Ddinesig Bae Abertawe; · Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC); · Partneriaethau Allweddol Eraill yn Abertawe; · Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel; · Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol; · Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - · Trefniadau craffu o ran ERW; · Cynllun Trafnidiaeth Lleol newydd ar y cyd; · Cyngor Abertawe'n cymryd rhan
mewn dros 100 o bartneriaethau a'r angen parhaus i weithio gyda sefydliadau
eraill ac adolygu'r trefniadau hynny'n rheolaidd; · Y nifer mawr o bartneriaethau, dyblygu gwasanaethau,
cyfiawnhau gwerth ychwanegol pob partneriaeth ac a ydynt yn darparu gwerth am
arian; · Y gwerth ychwanegol a ddaw gan y BGC, yr adolygiad a
wnaed gan Lywodraeth Cymru / penderfyniad i roi'r gorau i ariannu BGC yn ystod
cyfyngiadau symud COVID-19 a'r perthnasoedd da â sefydliadau eraill e.e. yr
Heddlu, sydd wedi cyflwyno sawl budd heblaw am werth ariannol; · Adolygu pob partneriaeth a chydnabod cyfraniadau
sefydliadau llai o fewn partneriaethau; · Y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr awdurdod, drwy'r BGC, i
adolygiad Llywodraeth Cymru, a sut mae'r cyngor yn mynd i'r afael â'r
argymhellion. Nododd y Cadeirydd fod angen sicrhau'r pwyllgor fod
partneriaethau'r awdurdod yn effeithiol, yn cyflawni canlyniadau ac yn cynnig
gwerth am arian. Penderfynwyd: - 1)
Ychwanegu adroddiad
diweddaru am y cynnydd a wnaed ar argymhellion Llywodraeth Cymru at Adroddiad
Olrhain y Pwyllgor Archwilio, a ddarparwyd ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020; 2)
Ychwanegu adroddiad
diweddaru am Graffu ar ERW at Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio; 3)
Ychwanegu adroddiad
diweddaru am ddatblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Lleol newydd at Adroddiad
Olrhain y Pwyllgor Archwilio. |
|
Penodi Aelod Lleyg Ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio. (Adam Hill) PDF 347 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad a
oedd yn gofyn i'r pwyllgor ystyried penodi Aelod Lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor
Archwilio. Ychwanegwyd bod
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn mynnu bod pob cyngor yn penodi Pwyllgor
Archwilio yn unol â'r argymhelliad a wnaed gan CIPFA yn 2005. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu
canllawiau statudol ar gyfer swyddogaethau ac aelodaeth Pwyllgor Archwilio a
darparwyd copi o'r canllawiau yn Atodiad 1. Ar ben hynny, ar
ôl cwblhau ymarfer meincnodi i gymharu nifer yr aelodau lleyg a benodwyd i
Bwyllgorau Archwilio Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, cynigiwyd y dylai'r
cyngor benodi un aelod lleyg ychwanegol
i Bwyllgor Archwilio Dinas a Sir Abertawe.
Dywedwyd wrth aelodau y byddai ychwanegu aelod lleyg ychwanegol yn helpu
i sicrhau bod y pwyllgor mewn sefyllfa well i ymdopi â'r newidiadau
deddfwriaethol arfaethedig i strwythur y pwyllgor a gyflwynwyd gan Lywodraeth
Cymru, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o
bryd, a oedd yn y lle cyntaf yn awgrymu y byddai angen i draean o aelodau
pwyllgor fod yn aelodau lleyg. Nodwyd y
gofynnwyd i Aelodau'r Pwyllgor Archwilio ystyried y cynnig hwn am y tro cyntaf
ym mis Rhagfyr 2019. Trafododd yr
aelodau'r cynigion, a chytunwyd aildrafod y mater ar
ddyddiad hwyrach. Petai aelodau'n cytuno penodi Aelod Lleyg ychwanegol, byddai
argymhelliad y Pwyllgor Archwilio'n cael ei gyflwyno i'r cyngor, a fyddai'n
penderfynu yn y pen draw i ddechrau'r broses recriwtio neu beidio. Penderfynwyd: - 1)
y byddai'r
pwyllgor yn awgrymu i'r cyngor bod angen penodi Aelod Lleyg ychwanegol i'r
Pwyllgor Archwilio; 2)
nodi'r
cam gweithredu yn Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio - 2019/2020. (Simon Cockings) PDF 542 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Archwilio ar
gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019/20. Talodd deyrnged i ymdrechion staff y cyngor i gynnal
trefniadau llywodraethu cadarn, a'u hymdrech wych drwy gydol holl heriau
COVID-19. Diolchodd hefyd i Aelodau'r Pwyllgor, y Prif Archwilydd, Archwilio
Mewnol, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Cynghorydd L V Walton (cynrychiolydd y
Pwyllgor yn y Grŵp Llywodraethu) am eu gwaith a'r cynnydd a wnaed gan y
Pwyllgor. Ychwanegodd fod ganddi nifer o bryderon am y
gweithlu, rheoli risgiau, arbedion ac effaith COVID-19, ac y byddai'n eu codi
yn ei chyfarfod gyda'r Prif Weithredwr ym mis Gorffennaf 2020. Penderfynwyd: 1)
Cytuno
ar yr adroddiad drafft a'i anfon i'r cyngor i'w gymeradwyo; 2) nodi'r cam gweithredu yn Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr, Simon Cockings, adroddiad a oedd yn darparu'r archwiliadau terfynol
ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y
cyfnod o 1 Ionawr i 31 Mawrth 2020. Cwblhawyd
cyfanswm o 27 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Darparwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd
arnynt. Gwnaed cyfanswm o 165 o
argymhellion yn yr archwiliad, a chytunodd y rheolwyr i weithredu 163 ohonynt,
h.y. derbyniwyd 99% o'r argymhellion yn erbyn targed o 95%. Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas
yr adolygiadau terfynol yn ystod y cyfnod.
Darparwyd hefyd fanylion y grantiau a ardystiwyd ar gyfer y chwarter. Roedd Atodiad 3
yn dangos, erbyn diwedd mis Mawrth 2020, fod 84% o'r adolygiadau a gynlluniwyd
wedi'u cwblhau i o leiaf y cam adroddiad drafft, gyda 4% o'r archwiliadau
ychwanegol a gynlluniwyd ar waith. O
ganlyniad, roedd 88% o'r Cynllun Archwilio wedi'i gwblhau neu ar waith. Ar ddiwedd y flwyddyn, nodwyd nad oedd angen
8 o'r archwiliadau (5% o'r cynllun) mwyach oherwydd newidiadau gwasanaeth yn
ystod y flwyddyn. Gohiriwyd 11 o
archwiliadau eraill (7% o'r cynllun) i gynllun archwilio 2020/21. Ychwanegwyd bod
dau adroddiad cymedrol wedi'u cyflwyno yn ystod y chwarter a darparwyd manylion
cryno am y materion sylweddol a oedd wedi arwain at y canlyniadau
cymedrol. Roedd y rhain ar gyfer y
meysydd gwasanaeth canlynol, a darparwyd y diweddaraf am gynnydd yn y cyfarfod:
- ·
Tocynnau
Consesiynol 2019/20 ·
Ysgol
Gynradd Cwm Glas Darparwyd
gwybodaeth am waith dilynol a wnaed rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Mawrth 2020, gan
gynnwys y chwe adroddiad archwilio cymedrol a wnaed ar y meysydd canlynol: - ·
Blaendraethau
a Gosodiadau 2019/20 ·
Gwasanaethau
Glanhau 2019/20 ·
Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd 2019/20 ·
Ysgol
Gynradd Gwyrosydd 2019/20 ·
Ysgol
Arbennig Pen-y-bryn 2019/20 ·
Safle
Gwasanaethau Adeiladu (Heol y Gors) 2019/20 Cadarnhawyd hefyd
fod Cyngor Sir Penfro wedi cwblhau adolygiad mewnol o'r Fargen Ddinesig yn
ystod chwarter 4 2019/20, ar gais Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig. Gofynnodd y
Pwyllgor am ddau argymhelliad nas cytunwyd arnynt mewn perthynas ag Ysgol
Gynradd St Thomas, dirwyon PCN hir dymor heb eu talu, gyda thystiolaeth o
ddiffyg adolygu/cynnydd yn yr Adran Gorfodi Parcio Sifil, ac os oedd gan yr
ysgolion dan sylw drefniadau cytundeb lefel gwasanaeth yn y meysydd a amlygwyd
yn yr archwiliadau. Nododd y Prif
Archwiliwr y byddai'n mynd i'r afael â'r pryderon hyn yn unigol gyda'r Aelodau
a soniodd amdanynt, y tu allan i'r cyfarfod. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Tocynnau Consesiynol 2019/2020. PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cath Swain, Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig, a Barrie Gilbert,Arweinydd Tîm - Cludiant Cyhoeddus a Chludiant Ysgol, y
Diweddaraf am Ganfyddiadau Adroddiad Archwilio Mewnol Tocynnau Consesiynol
2019/20. Amlinellwyd bod y cyngor wedi cynnal archwiliad mewnol o'r hawliadau
tocynnau consesiynol a gyflwynwyd gan weithredwyr bysus ar gyfer refeniw 'a
ildiwyd'. Mae bysus First Cymru yn atebol am dros 90% o wariant y cyngor ac
felly roeddent bob amser yn cael eu cynnwys yn y sampl o weithredwyr. Yn dilyn yr archwiliad i hawliadau'r cwmni ar
gyfer blwyddyn ariannol 2018/2019, a gynhaliwyd yn haf 2019, rhoddwyd lefel
sicrwydd gymedrol. Datblygwyd
Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, i ddarparu
argymhellion ac i roi camau gweithredu priodol ar waith. Darparwyd yr eitemau risg uchel, risg canolig
a risg isel, y gweithredoedd cysylltiedig, ac arferion da yn yr Adroddiad
Archwilio yn Atodiad A. Roedd y Cynllun Gweithredu'n amlygu'r eitemau risg uchel a chanolig yn y
meysydd isod fel a ganlyn, ac yn rhoi'r cynnydd a wnaed ar bob un: - ·
Swyddogion
yr Uned Cludiant Integredig yn trafod â First Cymru i sefydlu'r rheswm
(rhesymau) dros y swyddi gwag (risgiau uchel); ·
Wrth
gywiro'r rheswm/rhesymau dros yr amrywiadau, dylai First Cymru ailgyfrifo'r holl hawliadau o fis Ebrill 2018 hyd heddiw
a'u hailgyflwyno (risg ganolig). Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog dan sylw mewn perthynas â'r adroddiad a
darparwyd ymatebion yn briodol. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Osgoi
hawliadau dwbl sy'n cynnwys Cynghorau Abertawe / Castell-nedd Port Talbot / Sir
Gâr, a thrafod rhwng cynghorau ynghylch yr amser Swyddogion sy'n berthnasol; ·
Cyfrifoldeb
First Cymru wrth ddarparu'r wybodaeth gywir drwy eu peiriannau tocynnau, pryder
ynghylch lleoli rhai o weithwyr First Cymru y tu allan i'r ardal / diffyg
gwybodaeth am ffiniau siroedd a'r wybodaeth / disgwyliadau a ddarperir i First
Cymru gan swyddogion y cyngor; ·
Sut
mae First Cymru'n seilio'u tocynnau consesiynol ar docyn oedolyn unigol
cyffredinol ar gyfer yr holl deithiau, y cytunwyd ar hyn gan Lywodraeth Cymru; ·
Gweithdrefnau
talu sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru'n ariannu'r awdurdod, ac yna'n
trosglwyddo'r arian i First Cymru; ·
Sut
roedd First Cymru wedi penodi eu harchwilwyr eu hunain i gyfrifo'r hawliadau
misol ar ran y cyngor wrth symud ymlaen; ·
Sut y
byddai newidiadau o dros 2% mewn hawliadau misol yn achosi pryder ac yn cael eu
harchwilio. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am ddarparu'r adroddiad diweddaru, a nododd y cafwyd
diffyg rheolaeth ariannol fewnol yn y broses, a oedd wedi methu i nodi'r gor-hawliadau, felly byddai'r Pwyllgor Archwilio Mewnol yn
gwneud gwaith dilynol ac yn adrodd am hwn i'r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn
ariannol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cyflogi Staff Asiantaeth - Adroddiad Archwiliad 2019/20 - Diweddariad. (Adrian Chard) PDF 586 KB Cofnodion: Cyflwynodd Adrian
Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol Strategol, adroddiad a
oedd yn rhoi'r diweddaraf am Graffu ar Gyflogi Staff Asiantaeth 2019/20. Nodwyd, yng
nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020, y gofynnwyd i'r
Swyddog roi'r diweddaraf am nifer y gweithwyr asiantaeth, lefelau o ddiffyg
cydymffurfio a'r gost i'r awdurdod ar gyfer cynnwys y manylion hyn yn Adroddiad
Olrhain y Pwyllgor Archwilio. Amlygwyd mai
cyfanswm y gweithwyr asiantaeth a gyflogwyd gan asiantaethau dan gontract
corfforaethol (Staffline ac RSD Social Care) ym mis
Mawrth 2020 oedd 161, gydag 157 ohonynt yn cael eu cyflogi yn y Gyfarwyddiaeth
Lleoedd a 4 ohonynt yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Ychwanegwyd mai
cyfanswm y gwariant/gost ar gyfer gweithwyr asiantaeth yn 2019/2020 oedd
£4,522,120. Roedd cyfanswm y gwariant ar
weithwyr asiantaeth yn cynnwys asiantaethau heblaw am Staffline
ac RSD, ac felly byddai nifer y gweithwyr asiantaeth yn uwch wrth ystyried
athrawon a staff cyflenwi, sy'n rhan fawr o'r gwariant ychwanegol. Esboniwyd y
cysylltwyd â Phenaethiaid Gwasanaeth i roi adborth am y mesurau cydymffurfio a
nodwyd yn yr Adroddiad Archwilio, a darparwyd manylion ynghylch meysydd
gwasanaeth unigol. Amlinellwyd rôl Staffline hefyd,
yn enwedig eu trefniadau gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod. Cyfeiriwyd hefyd
at y camau gweithredu canlynol a nodwyd ar gyfer y dyfodol; ·
Adolygu'r
polisi presennol ynghylch ymgysylltu â gweithwyr asiantaeth ynghyd ag adolygu'r
holl bolisïau Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, gan gynnwys esbonio rolau
a chyfrifoldebau; ·
Archwilio'r
gwariant "oddi ar gontract" yn fanylach a llywodraethu yn unol â'r
trefniadau hyn. Byddai angen gwneud hyn mewn cydweithrediad â chaffael oherwydd
nid oedd Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn ymwybodol o'r gweithwyr
asiantaeth hyn. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog dan sylw mewn perthynas â'r adroddiad a
darparwyd ymatebion yn briodol. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Cwblhau'r
gwaith o adolygu'r holl bolisïau Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn ystod
y flwyddyn ariannol bresennol. ·
Yr
angen i atgyfnerthu meysydd gwasanaeth i adlewyrchu polisi'r cyngor, yn enwedig
meysydd sy'n cyflogi niferoedd mawr o weithwyr asiantaeth, a sicrhau bod y
llywodraethu'n addas at y diben; ·
Lefelau
salwch mewn meysydd gwasanaeth sy'n cyflogi gweithwyr asiantaeth; ·
Yr
angen i gwblhau'r arolygiad yn brydlon oherwydd y swm mawr o arian dan sylw; ·
Y
broses / amserlenni ymgynghori sy'n cynnwys y Tîm Rheoli Corfforaethol,
Penaethiaid Gwasanaeth, y Cyd-bwyllgor Ymgynghori; ·
Cyflogi
staff yn uniongyrchol yn hytrach na staff asiantaeth; ·
Gweithio
gydag Undebau Llafur i sicrhau bod lefelau cyflogaeth y meysydd gwasanaeth yn
llawn, gan leihau costau i'r awdurdod. Mynegodd y
Cadeirydd bryder ynghylch y swm sylweddol o arian sy'n cael ei wario ar logi
gweithwyr asiantaeth a phwysleisiodd yr angen i adolygu'r polisi presennol cyn
gynted â phosib. Penderfynwyd: - 1)
Y
dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Y bydd
y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol Strategol yn darparu manylion
am lefelau salwch/absenoldeb y meysydd gwasanaeth sydd wedi llogi gweithwyr
asiantaeth; 3) Rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch adolygu'r polisi Gweithwyr Asiantaeth presennol. |
|
Swyddfa Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2020 - Dinas a Sir Abertawe. (Jason Garcia) PDF 316 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Jason
Garcia a Colin Davies Gynllun Archwilio 2020 Swyddfa Archwilio Cymru - Dinas a
Sir Abertawe, a oedd yn darparu manylion y gwaith archwiliad arfaethedig, pryd
y byddai'r gwaith yn cael ei wneud, faint byddai'n ei gostio, pwy fyddai'n ei
wneud ac effaith COVID-19 ar y cynllun.
Darparwyd hefyd adroddiad diweddaru am effaith COVID-19. Darparodd
Arddangosyn 1 risgiau archwilio'r datganiad ariannol a meysydd eraill yr oedd
angen eu harchwilio. Roedd Arddangosyn 2
yn dangos y rhaglen perfformiad archwilio ac roedd Arddangosyn 3 yn rhoi
crynodeb o'r gwaith ardystio hawliadau am grantiau. Amlinellwyd manylion y ffi
archwilio arfaethedig, y tîm archwilio a'r amserlen yn Arddangosion 4 a 5. Tynnwyd sylw at y ffaith mai'r gobaith oedd
cymeradwyo cyfrifon erbyn 15 Medi 2020, er gwaethaf yr amserlen ddiwygiedig. Cyfeiriwyd at y
newidiadau a wnaed i amserlen y rhaglen perfformiad archwilio a'r prif feysydd
ffocws. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am wariant cyfalaf Cam 1 Abertawe Ganolog a'r Fargen Ddinesig. Byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu o ran yr ymholiad ynghylch y Fargen Ddinesig oherwydd problemau cyfathrebu yn ystod y cyfarfod. |
|
Cofnodion: Darparwyd
Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd Cynllun
Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’. |