Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: - Y Cynghorydd P M Black - Cofnod Rhif 89 - Cynllun Blynyddol Archwiliad
Mewnol Drafft 2020/21 - Llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gyfun Pentrehafod -
personol. Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod Rhif 83 - Cynllun Blynyddol
Archwiliad Mewnol 2019/20 - Adroddiad Monitro Chwarter 3 ar gyfer y Cyfnod o 1
Hydref 2019 tan 31 Rhagfyr 2019 - Llywodraethwr yn Ysgolion Cynradd y Crwys a Chilâ - personol. Y Cynghorydd J W Jones – Cofnod Rhif 83 - Cynllun Blynyddol Archwiliad
Mewnol 2019/20 - Adroddiad Monitro Chwarter 3 ar gyfer y cyfnod o 1 Hydref 2019
i 31 Rhagfyr 2019 – Llywodraethwr Ysgol Gyfun yr Olchfa – personol. Y Cynghorydd M B Lewis - Cofnod Rhif 89 - Cynllun Blynyddol Archwiliad
Mewnol Drafft 2020/21 - Aelod o Awdurdod Iechyd Porthladd - personol. Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 89 - Cynllun Blynyddol Archwiliad
Mewnol 2020/21 - Aelod o Awdurdod Iechyd Porthladd, Llywodraethwr Ysgol yn
Ysgol Gyfun Pentrehafod a Chostau a Lwfansau Cynghorwyr - personol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Simon Cockings,
adroddiad a oedd yn darparu'r archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a
wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Hydref 2019 i 31
Rhagfyr 2019. Cwblhawyd cyfanswm o 39 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Darparwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt. Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau terfynol yn ystod y cyfnod. Gwnaed cyfanswm o 482 o argymhellion, a chytunodd y rheolwyr i weithredu 480 ohonynt, h.y. derbyniwyd 99% o'r argymhellion yn erbyn targed o 95%. Darparwyd manylion am yr argymhellion a wrthodwyd yn Atodiad 3. Darparwyd manylion y grantiau a gymeradwywyd yn ystod y chwarter hefyd. Roedd Atodiad 3 yn dangos erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019 fod 59% o'r adolygiadau a gynlluniwyd wedi'u cwblhau i o leiaf y cam adroddiad drafft, gyda 33% o'r archwiliadau a gynlluniwyd ar waith. O ganlyniad, roedd oddeutu 92% o'r Cynllun Archwilio wedi'i gwblhau neu ar waith. Ychwanegwyd bod pum adroddiad cymedrol wedi'u cyflwyno yn ystod y chwarter a darparwyd manylion cryno am y materion sylweddol a oedd wedi arwain at y canlyniadau cymedrol. Roedd y rhain yn ymwneud â'r meysydd gwasanaeth canlynol a darparwyd y diweddaraf am gynnydd yn y cyfarfod: - ·
Ysgol Gynradd Gwyrosydd; ·
Ysgol Pen y Bryn; ·
Cynnal a Chadw'r Cerbydlu; ·
Safle'r Gwasanaethau Adeiladu (Heol y Gors); ·
Cyflogi Staff Asiantaeth. Darparwyd gwybodaeth am y gwaith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Hydref 2019 a 31 Rhagfyr 2019, gan gynnwys yr ail archwiliad i'r Gwasanaethau Pobl Ifanc a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2019, lle daethpwyd i'r casgliad bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud i roi'r argymhellion nad oeddent wedi'u gweithredu ar waith. Gwnaed gwaith dilynol mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd. Mynegodd y Cadeirydd a'r Prif Swyddog Cyllid bryder ynghylch y themâu cyffredin sef caffael, prynu, diffyg rheolaeth, diffyg cydymffurfio, diffyg adnoddau, diffyg rheoli rheolaeth a diffyg cynnydd o ran TG. Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai'n hoffi gweld y rheini sy'n gyfrifol yn atebol er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion hyn. Penderfynwyd nodi cynnwys
yr adroddiad. |
|
Adroddiad Archwilio Ysgol Gynradd Gwyrosydd 2019/20. PDF 300 KB Cofnodion: Cyflwynodd Jonathan Atter a Viv Dodd, Pennaeth a
Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gwyrosydd, adroddiad a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am Adroddiad Archwiliad Ysgol Gynradd Gwyrosydd 2019/2020. Amlinellwyd, o ganlyniad i archwiliad mewnol o'r ardal wasanaeth yn 2019, y
rhoddwyd lefel sicrwydd gymedrol. Yn
dilyn hyn, datblygwyd cynllun gweithredu, a ddarparwyd yn Atodiad A, i fynd i'r
afael â'r problemau a nodwyd ac i roi camau gweithredu priodol ar waith. Roedd yr archwiliad dilynol yn Ionawr 2020 yn cydnabod bod 18 o 21 o
argymhellion yn cael eu gweithredu'n llawn.
Nid oedd 3 o'r argymhellion risg isel wedi'u gweithredu'n llawn a
byddant yn cael eu hadolygu yn yr adolygiad archwilio nesaf. Roedd y rhain bellach wedi'u rhoi ar waith o
safbwynt yr ysgol. Roedd y Cynllun Gweithredu'n amlygu'r eitemau risg uchel/canolig, cynnydd
hyd yn hyn/y diweddaraf am y camau gweithredu yn y meysydd uchod fel a ganlyn:
- ·
Gweithdrefnau bancio ·
Cronfeydd answyddogol ·
Incwm prydau ysgol ·
Gwariant ·
Stoc ·
Diogelwch cyfrifiaduron Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr mewn perthynas
â'r adroddiad a darparwyd ymatebion yn briodol.
Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Diffyg
gweithdrefnau ariannol gan yr ysgol/corff llywodraethu/diffyg ymwybyddiaeth o
weithdrefnau ariannol; ·
Sut roedd eitemau mwy (dros £5 mil) yn cael eu cyfeirio
at y Corff Llywodraethu, toriadau o ganlyniad i wariant cronnus ar staff
cyflenwi / talu biliau cyfleustodau, diffyg gwneud archebion swyddogol drwy
ddefnyddio SIMS a sut nad oedd unrhyw wariannau dros £5mil yn cael eu gwneud
heb i'r Pennaeth fod yn ymwybodol ohonynt; ·
Archwilio
cronfa'r ysgol, sut roedd popeth yn glir ac yn dryloyw ac amlygwyd materion
TAW; ·
Diffyg
cyngor ar gaffael i ysgolion a diffyg derbyn esgeulustod mewn perthynas â
gwariant cronnus; ·
Sut
roedd yr holl wariannau a wnaed er budd yr ysgol a'i disgyblion; ·
Sut
roedd y Pennaeth yn rhoi'r diweddaraf i'r Corff Llywodraethu am wariant, a sut
lwyddodd i gaffael eitemau heb ddilyn y broses archebu ffurfiol e.e. sawl bwrdd
gwyn am £150, gan arbed swm sylweddol o arian i'r ysgol; Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr am ddod i'r cyfarfod ac am
roi sicrhad. Ychwanegodd ei fod yn
hollbwysig i reoli'r gwariant cronnus, a bod cyngor ar gaffael ar gael i
ysgolion yr oedd angen eu cryfhau, yn enwedig o ran diffyg gorchmynion
swyddogol, a oedd wedi dod yn thema reolaidd. Penderfynwyd: - 1)
Y dylid
nodi cynnwys yr adroddiad; 2) Byddai'r Prif Archwiliwr yn nodi'r diffyg archebion swyddogol rheolaidd drwy SIMS ar archwiliadau'r ysgol yn y dyfodol. |
|
Diweddariad Adroddiad Archwilio Ysgol Pen y Bryn 2019/20. PDF 314 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Gethin Sutton, Pennaeth Ysgol Pen y Bryn, adroddiad a oedd yn
rhoi'r diweddaraf am Adroddiad Archwiliad Ysgol Pen y Bryn ar gyfer 2019/20. Amlinellwyd, o ganlyniad i archwiliad mewnol o'r ardal wasanaeth yn 2019, y
rhoddwyd lefel sicrwydd gymedrol. Roedd
yr adroddiad yn amlinellu pum eitem risg ganolig yn unig gan nad oedd unrhyw
risgiau uchel i'w nodi. Rhestrwyd yr holl eitemau yn y Cynllun Gweithredu
Rheolaeth yn Atodiad A, a oedd yn manylu ar yr holl argymhellion, risgiau canolig,
risgiau isel ac arferion da a argymhellwyd, yn ogystal â'r camau gweithredu
perthnasol a gymerwyd i gael gwared arnynt. Yn dilyn
ymweliad dilynol ym mis Ionawr, nodwyd y gwnaed cynnydd da, er nad oedd 7 o'r
25 o argymhellion wedi'u gweithredu'n llawn, gan gynnwys 2 risg ganolig, 4 risg
isel ac 1 arfer da. Darparodd y Pennaeth
adroddiad cynnydd mewn perthynas â'r gweithredoedd a oedd yn weddill ac
esboniodd y cafwyd oedi oherwydd bu'n rhaid iddo gymryd amser i ffwrdd o'r
gwaith i wella ar ôl cael llawdriniaeth.
Cadarnhaodd mai 1 weithred yn unig a oedd heb ei chyflawni'n llawn. Roedd y Cynllun Gweithredu'n amlygu'r eitemau risg uchel/canolig, cynnydd
hyd yn hyn/y diweddaraf am y camau gweithredu yn y meysydd uchod fel a ganlyn:
- ·
Cronfeydd answyddogol ·
Gwariant ·
Rheoli adnoddau dirprwyedig ·
Cymodi gyda'r banc ·
Rhestr adnoddau ·
Bysus mini ·
Diogelwch cyfrifiaduron Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Pennaeth dan sylw mewn perthynas â'r
adroddiad a darparwyd ymatebion yn briodol.
Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Cau'r cyfrif cynilion hyblyg heb ei ddefnyddio a amlygwyd
yn yr archwiliad; ·
Codi archebion swyddogol ymlaen llaw ar gyfer yr holl
wariant i sicrhau bod caniatâd / caniatáu taliadau heb archebion yn cael eu
cyfyngu i anfonebau cyfleustodau/athrawon cyflenwi yn unig; ·
Monitro cyllideb yr ysgol wrth fynd ymlaen; ·
Presenoldeb mewn cynhadledd yn Abertawe a gynhaliwyd gan
gynrychiolwyr yr ysgol, y budd sylweddol yr oedd hwn wedi'i roi i'r uwch dîm; ·
Pryder ynghylch cost presenoldeb / llety dros nos gyda'r
athrawon yn gweithio yn Abertawe, penderfyniad gan y Pennaeth i beidio â mynd i
gynadleddau'r dyfodol, a phryder y Cadeirydd am bresenoldeb yr ysgol yn y
gorffennol / cyfiawnhau'r gost o fynd; ·
Sut roedd yr holl wariannau a wnaed er budd yr ysgol a'i
disgyblion. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth am ddod i'r cyfarfod ac am roi sicrhad. Pwysleisiodd bwysigrwydd cydymffurfio â
systemau rheoli mewnol i ddiogelu'r ysgol a'i staff addysgu. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Archwilio Cynnal a Chadw Fflyd 2019/20. PDF 346 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant a Mark Barrow,
Rheolwr y Cerbydlu, adroddiad a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am Adroddiad Archwiliad Cynnal a Chadw'r Cerbydlu
ar gyfer 2019/20. Amlinellwyd, o ganlyniad i archwiliad mewnol o'r ardal wasanaeth yn 2019, y
rhoddwyd lefel sicrwydd gymedrol. Roedd
yr adroddiad yn nodi 1 risg uchel ac 1 risg ganolig yn yr Adroddiad Archwiliad
Mewnol Terfynol a ddarparwyd yn Atodiad A.
Roedd pob risg arall naill ai'n risg uchel neu'n arfer da. Datblygwyd Cynllun Gweithredu a darparwyd hyn
yn Atodiad B. Roedd y Cynllun Gweithredu'n amlygu'r holl risgiau uchel, risgiau canolig,
risgiau isel ac arfer da a chynnydd hyd yn hyn / y diweddaraf am y camau
gweithredu yn y meysydd isod fel a ganlyn: - ·
Cardiau
prynu (Cardiau-P) ·
Storfeydd
- olew, offer a theiars ·
Gwariant ·
Ailgodi
taliadau/incwm gan drydydd partïon ·
Rhestr
adnoddau ·
Arian
parod Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog dan sylw mewn perthynas â'r adroddiad a
darparwyd ymatebion yn briodol. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Cydymffurfio
â Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor (RhGC),
yn benodol sicrhau bod yr holl wariant cymwys unigol neu a chydgasglwyd yn
destun tendr cystadleuol neu ddyfynbrisiau neu gaffael eithriad 20 RhGC os nad oedd hyn yn bosib; ·
Rhoi
holl gamau gweithredu'r Cynllun Gweithredu ar waith erbyn mis Mawrth 2021; ·
Gweithio
mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot mewn
meysydd arbenigol erbyn 2021; ·
Anallu,
oherwydd prinder adnoddau, i gyflwyno system adolygu annibynnol / gwiriadau
dirybudd i gadarnhau a oedd offer / olew a gafwyd o'r storfeydd wedi'i roi yn y
cerbyd perthnasol, yr angen parhaus i ymddiried mewn gweithwyr medrus a chymwys
i sicrhau bod yr holl gerbydau'n addas ar gyfer y ffordd ac yn gyfreithiol, a'r
opsiwn o gyflwyno gwiriadau bob chwe mis; ·
Risg
perthnasedd mewn perthynas â nwyddau a dulliau rheoli; ·
Goruchwylio
gwaith / gweithdrefnau llawr y siop a ddilynwyd; ·
Mesurau
rheoli archwiliad / stoc / contractau wedi'u dyfarnu ar gyfer darpariaeth
teiars dan RhGC priodol / posibilrwydd o gyflwyno
codau bar er mwyn rheoli stoc; ·
Gwaith
sylweddol parhaus i reoli'r cerbydlu; ·
Gwariant
is-gontract / heb gontract / diffyg rheolaeth wrth archebu cyflenwadau /
cyflwyno system storfeydd newydd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am ddarparu diweddariad ac am roi sicrwydd. Amlygodd y diffyg rheolaeth, yn enwedig mewn
perthynas â storfeydd / archebu ac ychwanegodd, yn seiliedig ar berthnasedd
gwariant, fod angen ystyried gwneud gwiriadau ôl-weithredol o ran defnydd /
costau. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai
Swyddogion geisio cyngor pellach gan y Prif Archwiliwr er mwyn cyflwyno lefelau
rheoli priodol. Penderfynwyd: - 1)
Y
dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2) Y byddai'r Swyddogion yn trafod gyda'r
Prif Archwiliwr ynghylch y natur ôl-weithredol o wneud gwiriadau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Nigel Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Adeiladu a Rob Myerscough,
Rheolwr Cefnogaeth Ardal - Trafnidiaeth, y diweddaraf am Safle'r Gwasanaethau
Adeiladau - Y Diweddaraf am Ganfyddiadau Adroddiad Archwilio Mewnol 2019/20. O ganlyniad i archwiliad mewnol ar swyddogaeth Safle'r Gwasanaethau
Adeiladau a gynhaliwyd yn 2019, rhoddwyd lefel sicrwydd gymedrol. Yn dilyn hyn, datblygwyd cynllun gweithredu,
a ddarparwyd yn Atodiad A, i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd ac i roi camau
gweithredu priodol ar waith. Darparodd
Atodiad B graff o eitemau'r safle. Roedd y Cynllun Gweithredu a ddarparwyd yn Atodiad A yn amlygu'r eitemau
risg uchel, canolig ac isel, cynnydd hyd yn hyn / y diweddaraf am y camau
gweithredu yn y meysydd isod fel a ganlyn: - ·
Cofnodion y safle ·
Symudiad y safle ·
Archebion a thalu anfonebau ·
Ailgodi taliadau ·
Diesel coch Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog dan sylw mewn perthynas â'r
adroddiad a darparwyd ymatebion yn briodol.
Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Profi samplau stoc yn rheolaidd i gadarnhau bod y
cofnodion a oedd yn cael eu cynnal a'u cadw'n gywir, cynnydd a wnaed a phrofi
ddwywaith y flwyddyn; ·
Rheoli /codio eitemau’r safle/storfa; ·
Y gwasanaeth yn herio'i hun i wneud gwelliannau / darparu
sicrwydd; ·
Gwnaed gwelliannau sylweddol gan y gwasanaeth; ·
Profi'r holl eitemau trydanol ar sail chwarterol a
chynnal a chadw cofrestr o'r stoc; ·
Posibilrwydd o gyflwyno darllenydd codau bar ar gyfer
eitemau'r safle. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am gyflwyno'r adroddiad diweddaru ac
am ddarparu sicrwydd drwy nodi'r gwelliannau sylweddol a wnaed, yn enwedig mewn
perthynas â rheoli stoc/safle. Penderfynwyd: - 1)
Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Byddai'r maes gwasanaeth yn ymchwilio ymhellach i
gyflwyno darllenydd codau bar er mwyn rheoli stoc. |
|
Cyflogi Staff Asiantaeth - Adroddiad Archwilio 2019/20. PDF 300 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Adrian
Chard, Rheolwr Strategol AD a DS, a Ben Smith, Prif Swyddog Cyllid, adroddiad a
oedd yn amlinellu'r gweithredoedd yn codi o'r Adroddiad Archwiliad Cyflogi
Staff Asiantaeth ar gyfer 2019/2020 O ganlyniad i
archwiliad mewnol ar gyflogaeth staff asiantaeth a gynhaliwyd yn 2019, rhoddwyd
lefel sicrwydd gymedrol. Cymerwyd camau
gweithredu i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd a rhoddwyd camau gweithredu
priodol ar waith. Darparwyd Cynllun Gweithredu a oedd yn amlygu'r holl eitemau risg ganolig
yn unig (nid oedd unrhyw weithredoedd risg uchel), cynnydd hyd yn hyn / y
diweddaraf am y camau gweithredu.
Darparwyd y polisi gweithwyr asiantaeth cyfredol yn Atodiad A. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog mewn perthynas â'r adroddiad a darparwyd
ymatebion yn briodol. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod y cyfnod rhwng mis
Ebrill a mis Tachwedd 2018 wedi'i adolygu, ond ni adolygwyd unrhyw gyfnod mwy
diweddar; ·
Diffyg cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau drwy'r
awdurdod, o bosib yn ystod y 12 mis diwethaf; ·
Yr oedi wrth gaffael gwybodaeth berthnasol gan adrannau; ·
Diffyg gwybodaeth gyfoes ynghylch peidio â chydymffurfio
a gwariant; ·
Gweithwyr asiantaeth yn cael eu cyflogi mewn adrannau
penodol am dros flwyddyn / peidio â llenwi swyddi gwag a gweithwyr asiantaeth
yn cael eu cyflogi o hyd; ·
Roedd oddeutu 150 o weithwyr asiantaeth yn yr awdurdod,
ac roedd hyn yn costio swm sylweddol; ·
Diffyg rheolaeth fewnol a chyflwyno sbardunau i sicrhau y
cydymffurfir â gweithdrefnau; ·
Disgwylir i brofi manwl ddigwydd yn ystod yr archwiliad
sy'n dilyn y chwarter 1af. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am gyflwyno'r adroddiad a mynegwyd
pryder ynghylch y diffyg atebolrwydd a rheolaeth drwy'r awdurdod o ran
cyflogaeth a gweithwyr asiantaeth. Penderfynwyd: - 1)
Nodi cynnwys yr adroddiad; 2) Y byddai'r
Rheolwr AD a DS Strategol yn darparu'r diweddaraf ynghylch nifer y gweithwyr
asiantaeth sy'n gweithio, lefelau diffyg cydymffurfio a chostau i'r awdurdod, a
byddai'r manylion hyn yn cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf, yn adroddiad
olrhain y Pwyllgor Archwilio. |
|
Cynllun Blynyddol Archwiliad Mewnol Drafft 2020/21. PDF 265 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr y Cynllun Blynyddol
Archwiliad Mewnol Drafft ar gyfer 2020/21 i'w ystyried, cyn cyflwyno'r cynllun
terfynol i'r pwyllgor ym mis Ebrill 2020 i'w gymeradwyo. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r
Cynllun Blynyddol Archwiliad Mewnol Drafft ar gyfer
2020/21 (crynodeb) ac Atodiad 2 yn
darparu'r Cynllun Blynyddol Archwiliad
Mewnol Drafft ar gyfer 2020/21. Nododd y Cadeirydd, yn dilyn trafodaethau gyda'r
Prif Archwiliwr, y byddai materion hanfodol megis llywodraethu, rheoli risgiau,
partneriaethau a gwneud penderfyniadau dirprwyedig yn cael eu cynnwys yn y
cynllun. Ailadroddodd hefyd fod ganddi
bryderon ynghylch gweithdrefnau a diffyg cydymffurfio ar raddfa eang. Sylwodd y Pwyllgor hefyd ar batrwm o ddiffyg
cydymffurfio a gweithio seilo. Penderfynwyd: - 1) Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Amlygu unrhyw eitemau
ychwanegol posib i'r Prif Archwiliwr. |
|
Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. PDF 458 KB Cofnodion: Darparwyd
Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth'. Nododd y Cadeirydd ei bod yn bwriadu cwrdd â'r Prif Weithredwr ar 16 Mawrth 2020 i drafod rhai materion a oedd yn weddill. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |