Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod rhif 21 a 22 - Adroddiad Blynyddol Archwiliad Mewnol 2018/19 ac Adroddiad Monitro Cynllun Blynyddol Archwiliad Mewnol 2019/20 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill tan 30 Mehefin 2019 - Llywodraethwr Ysgol yn Ysgolion Cynradd Crwys a Chilâ - personol.

 

Paula O’Connor – yr Agenda yn ei chyfanrwydd - Gweithiwr cyflogedig gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol fel Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Personol.

 

Y Cynghorydd T M White - Cofnod rhif 16 - Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 - Dinas a Sir Abertawe - Aelod o'r Bwrdd Pensiwn Lleol, Aelod o Gwmni Gwaredu Gwastraff yr Awdurdod Lleol (LAWDC) ac Aelod o Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe - personol.

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 348 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

16.

Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 - Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ben Smith, Prif Swyddog Cyllid, y Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer 2018/19.

 

Paratowyd a llofnodwyd y Cyfrifon Drafft ar gyfer 2018/19 ar 20 Mai 2019. Darparwyd copi yn Atodiad A yr adroddiad. Diolchodd y Prif Swyddog Cyllid i'w dîm am ei waith caled.

 

Pwysleisiwyd y byddai adolygiadau bach i'r adroddiad i adlewyrchu'r datblygiadau parhaus o ran Brexit, y Fargen Ddinesig a dyfarniad pensiwn McCloud.

 

Amlygodd y Prif Swyddog Cyllid y canlynol o'r Datganiad o Gyfrifon: -

 

·                Cafwyd gorwariant net ar wasanaethau unwaith eto ac nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir

·                Mae'r cyngor wedi cymeradwyo newid yn y Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw (DLlR), a helpodd i ostwng ffioedd ad-dalu yn y tymor byr i ganolig

·                Gwariant cyfalaf yn 2018/2019

·                Ar ddiwedd y flwyddyn, cyfanswm gweddill refeniw wrth gefn yr awdurdod oedd £83.178m

·                Rhagolwg ariannol ar gyfer yr awdurdod - mae angen parhau i arbed mwy o arian

·                Dadansoddiad gwariant ac ariannu - nodi'r holl weithgareddau a chostau gwasanaethau

·                Datganiad newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn - roedd cyfanswm yr arian wrth gefn wedi gostwng yn bennaf oherwydd y gronfa wrth gefn dechnegol sy'n ymwneud â phensiynau a rhagwelir y byddai hyn yn gwaethygu. Cafwyd cynnydd yn yr arian wrth gefn y gellir ei ddefnyddio

·                Buddsoddiadau Tymor Byr - cafwyd cynnydd yn y buddsoddiadau tymor byr o £25,500 (mil) yn 2018 i £121,772 (mil) yn 2019

·                Roedd £100 miliwn yn cael ei gadw cyn gwario ar y Rhaglen Gyfalaf

·                Datganiad Llif Arian

·                Newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd

·                Costau cydnabyddiaeth a chostau gadael swyddogion trwy gynllun colli swyddi'n wirfoddol

·                Incwm grantiau

·                Rhwymedigaethau amodol - yn enwedig y rhai na wyddys eu heffaith

·                Cyfrif Refeniw Tai

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau mewn perthynas â Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop; gwariant/gorwariant; ad-dalu cyfalaf, Polisi DLlR a benthyca ychwanegol

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Prif Swyddog Cyllid a'i dîm am y cyfrifon cynhwysfawr.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

17.

Adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.

17a

Dinas a Sir Abertawe - Ymholiadau Archwilio i'r Rhai sy'n Gyfrifol am Lywodraethu a Rheoli. pdf eicon PDF 294 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Williams ac Anthony Veale, Swyddfa Archwilio Cymru, ohebiaeth ynghylch ymholiadau archwiliad i'r rhai â chyfrifoldeb am lywodraethu a rheoli.

17b

Adroddiad Drafft ISA 260. pdf eicon PDF 370 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Williams ac Anthony Veale, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad am 'Adroddiad am Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol - Dinas a Sir Abertawe 2018/19' lle tynnwyd sylw at y canlynol: -

 

·                Roedd yr adroddiad yn nodi barn gadarnhaol yn gyffredinol

·                Ymagwedd at yr archwiliad

·                Perthnasedd wedi'i osod ar £8.6 miliwn ar gyfer Dinas a Sir Abertawe

·                Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260

·                Darperir adroddiad ar wahân mewn perthynas â'r Gronfa Pensiwn ac adroddir am hwnnw i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn

·                Statws yr Archwiliad - roedd rhai materion heb eu datrys a chafwyd gohebiaeth barhaus gan etholwr. Nid oedd modd cymeradwyo'r adroddiad nes bod yr ohebiaeth yn dod i ben

·                Nodwyd Llythyr Sylwadau yn Atodiad 1 - disgwylir y byddai'n cael ei lofnodi'n dilyn cyfarfod y cyngor ar 29 Awst 2019

·                Amlinellodd Atodiad 3 yr adroddiad grynodeb o'r materion y mae angen eu cywiro

·                Atebolrwydd Pensiwn Ychwanegol - effaith dyfarniad McCloud ar gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus

·                Amlinellodd Atodiad 4 yr adroddiad yr argymhellion sy'n deillio o archwiliad ariannol 2018/19 - cynigiwyd tri argymhelliad a derbyniwyd ymatebion

 

Cyflwynir yr adroddiad terfynol i'r Cyngor ar 29 Awst 2019.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn hapus gyda chynnwys yr ISA 260 a gofynnodd i drosglwyddo'r argymhellion a wnaed i adroddiad olrhain allanol ar gyfer y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. 

18.

Trosolwg o'r Statws Risgiau Cyffredinol ar gyfer Chwarter 1 2019/20. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad, adroddiad 'Trosolwg o'r Statws Risgiau Cyffredinol ar gyfer Chwarter 1 2019/20’. Atodwyd crynodeb o statws risg cyffredinol y cyngor ar gyfer Chwarter 1 2019/20 yn Atodiad A.

 

Adroddwyd bod 97.4% o'r risgiau a nodwyd yn Chwarter 4 2018/19 wedi'u nodi fel risgiau a adolygwyd yn ystod Chwarter 1 2019/20. Roedd hynny'n welliant ar y sefyllfa yn Chwarter 4 2018/19 lle derbyniwyd 85.6% o risgiau ers Chwarter 3 2018/19.

 

Cofnodwyd rhesymau dros/sylwadau am y 25 o'r 28 o risgiau (89.3%) a gaewyd, o'u cymharu â 18% yn Chwarter 4 2018/19.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad blynyddol o Risgiau Corfforaethol ym mis Mai 2019 a nodwyd risg strategol newydd ar gyfer y Gofrestr Risgiau Corfforaethol o ran gallu'r isadeiledd priffyrdd a thrafnidiaeth i fodloni galw'r dyfodol.

 

Atodwyd Adroddiad Cofrestr Risgiau Corfforaethol 11/07/19 yn Atodiad B.

Amlygwyd Risg Gorfforaethol 81: Canol y Ddinas a Risg Gorfforaethol 90: Penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd (BREXIT).

 

Atodwyd Adroddiad Cofrestr Risgiau Corfforaethol 11/07/19 yn Atodiad C.

 

Adroddwyd bod y gwaith yn parhau mewn perthynas â datblygu Ap Cofrestr Risgiau.

 

Nododd y Cadeirydd fod ganddi rai pryderon ynghylch cynnwys y gofrestr risgiau. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau ynglŷn â'r risgiau nas adolygwyd yn ystod Chwarter 1 ac ystyr 'Risg Wedi'i Newid'. Nodwyd y jargon/talfyriadau hefyd a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad yn ogystal â'r risgiau hynny a gaewyd heb reswm wedi'i gofnodi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol a'i dîm am eu gwaith caled a'u hymdrech wrth gyflwyno'r gwaith hwn.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

19.

Alldro Ariannol Refeniw 2018/19 (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Ben Smith, Prif Swyddog Cyllid, adroddiad am 'Alldro Ariannol Refeniw 2018/19'.

 

Tynnodd sylw'n benodol ar orwariant arall mewn perthynas â gwasanaethau na ellid eu cynnal yn y tymor hir.

 

Trafododd y pwyllgor y sefyllfa/cam gweithredu posib o ran gorwariant parhaus ar wasanaethau. Gosodwyd tasg benodol i Gyfarwyddwyr sef dangos eu holl gynlluniau gweithredu llawn i'r pwyllgor, gan fanylu ar sut maent yn bwriadu cyflwyno arbedion credadwy i ailgydbwyso'r gyllideb fel mater brys.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch cyfalafu, y gronfa wrth gefn ac arian wrth gefn.

 

Penderfynwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio'n rhoi gwybod i'r cyngor am y pryderon ynghylch gorwariant a'r angen i gyfarwyddwyr ddangos cynlluniau cyflwyno llawn mewn perthynas ag arbedion.

20.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft. pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Tracey Meredith, y Prif Swyddog Cyfreithiol, yr adroddiad 'Datganiad Llywodraethu Drafft 2018/19' ac amlygodd egwyddorion 'Fframwaith ar gyfer Cyflwyno Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol 2016' a sefydlwyd gan CIPFA a SOLACE.

 

Seiliwyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar nifer o ffynonellau sicrwydd, yn fewnol ac yn allanol.

 

·                Ffynonellau Sicrwydd Mewnol

Cafwyd diwygiadau i Ddatganiadau Sicrwydd yr Uwch-reolwyr. Dangosodd y datganiadau sicrwydd y gweithredir llywodraethu da 'mewn modd cadarn' ar draws yr holl feysydd sicrwydd yn gyffredinol.

Nodwyd yr aeddfedrwydd gorau ym maes monitro cyllidebau, a nodwyd bod yr asesiad o aeddfedrwydd gwaethaf ym maes mesur a rheoli perfformiad. Cafwyd sicrwydd hefyd o'r tystiolaeth graidd a gafwyd gan y cyngor, y Cabinet a'r pwyllgorau, y Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151 a'r Prif Archwilydd Mewnol ac mae angen i farn y Pwyllgor Archwilio gael ei darparu.

 

·                Ffynonellau Sicrwydd Allanol - Archwilwyr Allanol (Swyddfa Archwilio Cymru), Rheoliad/Arolygiadau Allanol ac Arolygiadau Statudol. 

 

Amlygodd y Prif Swyddog Cyfreithiol hefyd y materion llywodraethu arwyddocaol a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr adolygiad o effeithiolrwydd yn ogystal â'r camau gweithredu a gymerwyd.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau ynghylch Egwyddorion B ac F, Datganiadau Sicrwydd yr Uwch-reolwyr a sylwadau gan y Pwyllgor Archwilio ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, gan gynnwys cwmpas y sylwadau hynny fel arsylwr. 

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw'r pwyllgor at y diffyg cysylltiad posib rhwng y meysydd hynny y nodwyd eu bod yn cael sgôr uchel yn yr hunanasesiad gan yr Uwch-reolwyr a phryderon y pwyllgor a fynegwyd trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig ynghylch gorwario ar wasanaethau (ac felly'r diffyg rheolaeth gyllidebol) ac aeddfedrwydd a chywirdeb yr ymagwedd at reoli risgiau. 

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. 

21.

Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2018/19. pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Simon Cockings, y Prif Archwilydd, adroddiad sy'n amlinellu ac yn adolygu gwaith yr Adran Archwilio Mewnol yn ystod 2018/19 ac sy'n cynnwys barn ofynnol y Prif Archwilydd am yr amgylchedd rheoli mewnol ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar y profion archwilio a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn.

 

Amlinellodd a manylodd ar gynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y meysydd allweddol canlynol:

·         Materion Staffio

·         Cwblhawyd 87% o archwiliadau o leiaf at y cam adroddiad drafft yn ystod y flwyddyn, ac roedd 5 archwiliad arall ar waith

·         Amlinellwyd yr amser a dreulir ar bob maes yn Atodiad 1

·         Amlinellwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn ystod 2018/19 yn llawn yn Atodiad 2

·         Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd 99% o'r argymhellion a wnaed gan gleientiaid

·         Grantiau a ardystiwyd ac a archwiliwyd yn 2018/19

·         Archwiliadau dilynol a gynhaliwyd

·         Dangosyddion Perfformiad - cyflawnwyd 10 allan o 11 o ddangosyddion, sy'n dangos gwelliant ar 2017/18. Amlinellwyd y rhain yn llawn yn Atodiad 3

·         Sicrhau Ansawdd a Rhaglen Gwella a Datganiad Cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus

·         Datganiad o Annibyniaeth Sefydliadau

·         Barn am Reoli Mewnol

 

Nododd yn swyddogol ei fod am ddiolch i'w dîm am eu gwaith ardderchog yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau ynghylch hyfforddiant, gosod targedau cyraeddadwy, a dangosyddion perfformiad y gellir eu cymharu, yn enwedig gydag awdurdodau nad ydynt yn defnyddio dangosyddion perfformiad. 

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi a'i gymeradwyo.

22.

Cynllun Blynyddol Archwiliad Mewnol 2019/20 - Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2019 i 30 Mehefin 2019 pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

23.

Adroddiad Dilynol ar Radd Gymedrol yr Archwiliad Mewnol - Gwasanaethau Pobl Ifanc 2019/20 (Llafar)

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

24.

Adroddiad Dilynol Argymhellion Archwilio Mewnol Chwarter 1 2019/20. pdf eicon PDF 42 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

25.

Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 244 KB

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

26.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon ond cafwyd trafodaeth ynghylch pryderon y pwyllgorau am hyd yr agenda. Trafododd y pwyllgor ohirio eitemau nad ydynt yn rhai brys (gan gynnwys eitemau 10-15 yr agenda) tan fis Medi a chyfarfod yn fwy cyson er mwyn osgoi cael agenda mor hir yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd gohirio eitemau 10-15.

27.

Adroddiadau Craffu/Swyddfa Archwilio Cymru (Er gwybodaeth):

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

27a

Cynnydd o ran Argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â Chomisiynu Gwasanaethau Llety ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu yn Strategol. (Er gwybodaeth) (For Information) pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

27b

Cynnydd wrth roi Argymhellion Adroddiad Addasiadau Tai yng Nghymru Swyddfa Archwilio Cymru ar waith (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

27c

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Gwasanaethau Llywodraeth Leol Cymunedau Gwledig. (Er gwybodaeth.) pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.

27d

Gwasanaethau Llywodraeth Leol Cymunedau Gwledig. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 339 KB

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26.