Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: - Y Cynghorydd J W Jones - Cofnod Rhif 20 - Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Drafft 2017/18 - Aelod o Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe - personol. Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 20 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Drafft 2017/18 - Aelod o Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe - personol a
Chofnod Rhif 22 – Swyddfa Archwilio Cymru - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
- 2017/2018 - Ymholiadau Archwilio i'r rheiny â chyfrifoldeb dros Lywodraethu a
Rheoli. - Aelod o'r Bwrdd Pensiwn Lleol a buddiolwr y Gronfa Bensiwn
Llywodraeth Leol - personol. Paula O’Connor – yr Agenda gyfan - Gweithiwr cyflogedig gydag
Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol fel
Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg -
Personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd
ar 12 Mehefin 2018 a chofnodion y Pwyllgor Archwilio Arbennig a gynhaliwyd ar
26 Mehefin 2018 fel cofnodion cywir. Cofnod 17 - Cadarnhaodd y Cadeirydd ei bod hi wedi gofyn am gyfarfod â'r
Prif Weithredwr i drafod effaith y 31 o risgiau lefel uchel a nodwyd a sut
mae'r awdurdod yn rheoli'r risgiau hynny. Adroddodd ei bod hi'n dal i aros am
gadarnhad o ran dyddiad cyfarfod. Cofnod 17 – Roedd y pwyllgor wedi penderfynu mynychu cyfarfod Pwyllgor
Archwilio corff cyhoeddus arall. Cynigiwyd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin
Cymru gan y pwyllgor a chytunwyd ar hyn. Cynigiwyd y byddai'r Cadeirydd a'r
Is-gadeirydd hefyd yn ymweld â Phwyllgor Archwilio awdurdod lleol arall, a
chynigiwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2017/18. PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Tracey Meredith, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes (Swyddog Monitro) y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol drafft ar gyfer 2017/18. O dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio
(Cymru) 2014, mae'n rhaid i'r cyngor gynnal adolygiad o'i drefniadau
llywodraethu o leiaf unwaith y flwyddyn. Bwriedir i'r adolygiad ddangos sut
mae'r cyngor wedi cydymffurfio â'i Gôd Llywodraethu
Corfforaethol. Amlinellwyd
egwyddorion fframwaith ‘Delivering Good Governance in Local Government' 2016 CIPFA a
SOLACE. Nodwyd yr ymddygiadau a'r
gweithredoedd sy'n arddangos llywodraethu da ar waith ar gyfer pob egwyddor,
ynghyd â thystiolaeth o gydymffurfiad y cyngor ag ymddygiadau a gweithredoedd
o'r fath. Adroddwyd am rai
newidiadau bach i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar lafar i'r pwyllgor.
Byddai fersiwn wedi'i diweddaru'n cael ei dosbarthu. Mewn perthynas â
chynnwys rhanddeiliaid, nodwyd bod Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2017/18 wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys cyd-gynhyrchiad.
Amlygodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes (Swyddog Monitro)
y canlynol hefyd: - ·
Adolygu
Effeithiolrwydd ·
Hunanasesiad
Rheoli Mewnol - Datganiad Sicrhau Uwch-reolwyr ·
Ffynonellau
Sicrhau Mewnol ·
Ffynonellau
Sicrhau Allanol ·
Materion
llywodraethu pwysig ynghyd â'r gweithredoedd a gymerwyd/gynigiwyd Trafododd y
pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad yn fanwl. Mynegwyd pryderon mewn
perthynas â chraffu hefyd i sicrhau ei fod yn gallu gweithredu'n effeithiol a
darparu llywodraethu da. Ychwanegwyd bod yna feysydd, yn benodol mewn perthynas
â thystiolaeth, lle y gellid bod wedi darparu mwy o fanylion yn yr adroddiad.
Gofynnwyd cwestiynau am ddigonolrwydd a chywirdeb y Datganiadau Sicrhau
Uwch-reolwyr yn ogystal ag addasrwydd y term 'arbedion cynaliadwy', sy'n
awgrymu bod yr arbedion yn amhenodol. Awgrymwyd y byddai term megis 'arbedion
cyraeddadwy' yn fwy priodol. Gofynnodd y
Cadeirydd am gymeradwyaeth y Pwyllgor a Swyddfa Archwilio Cymru i drafod y newidiadau/materion
a godwyd yn ogystal ag ambell i sylwad arall mewn perthynas â Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2017/18 yr oedd y Cadeirydd wedi sôn amdanynt gyda
Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes
(Swyddog Monitro). Byddai Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2017/18 a ddiwygiwyd yna’n cael ei ddosbarthu i'r
pwyllgor. Byddai Pwyllgor Archwilio Arbennig yn cael ei gynnal os oedd angen yn
unig. Byddai fersiwn derfynol Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18 yn cael
ei hadrodd i'r cyngor ym mis Medi. Penderfynwyd: - 1)
nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
y
byddai Cadeirydd y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes
(Swyddog Monitro) yn trafod y diwygiadau a wnaed i Ddatganiad Llywodraethu
Blynyddol 2017/18 a byddai'r fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i'r
Pwyllgor Archwilio; 3)
trefnu
cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Archwilio i gymeradwyo Datganiad Llywodraethu
Blynyddol diwygiedig 2017/18 os oedd angen yn unig; a 4)
byddai'r
Cadeirydd yn trafod defnyddio'r term 'arbedion cynaliadwy' gyda Phennaeth y
Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2017/18. PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Amanda
Thomas, Rheolwr Cyllid Strategol - Corfforaethol, y Datganiad o Gyfrifon Drafft
ar gyfer 2017/18. Amlinellwyd bod hi’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth i'r cyngor gyhoeddi
Datganiad o Gyfrifon blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol fel a
ganlyn:- - Erbyn 30 Mehefin gan ddilyn y flwyddyn y mae'r cyfrifon yn
berthnasol iddi - Swyddog Adran 151 i ddrafftio a llofnodi'r cyfrifon; -
Erbyn
30 Medi gan ddilyn y
flwyddyn y mae'r cyfrifon yn berthnasol iddi, gofynnir i gyfrifon gael eu
harchwilio a'u cymeradwyo gan y cyngor. Paratowyd a llofnodwyd cyfrifon drafft 2017/18 gan Swyddog Adran 151 ar 1
Mehefin 2018. Darparwyd copi yn Atodiad A yr adroddiad. Cyflwynwyd y cyfrifon yn ffurfiol i
archwilwyr y cyngor, sef Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd wedi dechrau
archwilio'r cyfrifon. Fel rhan o'r broses archwilio, byddai'r cyfrifon ar gael
i'w harchwilio gan y cyhoedd am gyfnod o bedair wythnos rhwng 23 Gorffennaf
2018 tan 17 Awst 2018. Nodwyd nad oedd angen cynnwys y Gronfa
Bensiwn yn y cyfrifon bellach, ac yr ymdrinnir â hyn ar wahân fel rhan o
gyfrifon y Gronfa Bensiwn. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau mewn perthynas
â chyfrifon CRT; cynnydd mewn gwariant/gorwariant; gwerthiannau Hawl i Brynu a
morgeisi; Cronfeydd Ymddiriedolaeth Elusennol a Chyfranddaliadau Cynlluniau
Ynni Cymunedol a Menter Gymunedol Abertawe. Nododd y
Cadeirydd a chynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru fod y Datganiad o Gyfrifon
wedi cael ei baratoi'n gynnar. Roedd hyn yn gadarnhaol iawn ac yn rhoi amser
ystyried i'r pwyllgor. Adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru y byddai ISO 260 yn
cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Medi. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
Byddai
Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol yn darparu crynodeb i'r Pwyllgor am
sefyllfa Cronfeydd Ymddiriedolaeth Elusennol er mwyn rhoi eglurhad o ran pam
nad oeddent wedi'u cynnwys yn y Datganiad o Gyfrifon. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, lythyr am ymholiadau archwilio i'r
rheiny â chyfrifoldeb dros lywodraethu a rheoli. Amlinellodd y
llythyr ddyletswyddau Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chaffael
sicrwydd rhesymol y byddai'r datganiadau ariannol cyffredinol yn rhydd o unrhyw
gamddywediadau, boed o ganlyniad i dwyll neu wall. Roedd y llythyr hefyd yn
amlinellu'r ymholiadau yn ogystal ag ymatebion a roddwyd i'r rheolwyr a'r
rheiny â chyfrifoldeb dros lywodraethu Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (y
Gronfa). Penderfynwyd nodi'r ymholiadau a'r ymatebion. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, lythyr am ymholiadau archwilio i'r
rheiny â chyfrifoldeb dros lywodraethu a rheoli. Mae'r llythyr yn
amlinellu dyletswyddau Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chaffael
sicrwydd rhesymol y byddai'r datganiadau ariannol cyffredinol yn rhydd o unrhyw
gamddywediadau, boed o ganlyniad i dwyll neu wall. Roedd y llythyr hefyd yn
amlinellu'r ymholiadau yn ogystal ag ymatebion a roddwyd i'r rheolwyr a'r
rheiny â chyfrifoldeb dros lywodraethu Dinas a Sir Abertawe. Nodwyd cywiriad i
dudalen 55 y pecyn agenda: - Atodiad 1-
Cefndir - Pwynt bwled 1 - Dylai hyn gyfeirio at AU (Awdurdod Unedol) yn hytrach
na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Trafododd y
pwyllgor yr ymatebion i'r ymholiadau. Nodwyd y cymeradwywyd y Cynllun Twyll
Corfforaethol ar sail adnoddau parhaus ac awgrymwyd bod hyn yn cael ei
adlewyrchu yn yr ymatebion. Amlygodd y pwyllgor
yr ymateb i Gwestiwn 9 hefyd a oedd yn nodi nad oedd y sefyllfa bresennol, mewn
perthynas â darparu arbedion cynlluniedig a defnyddio arian wrth gefn, yn
gynaliadwy yn y tymor hir. Penderfynwyd nodi'r ymholiadau a'r ymatebion. |
|
Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. PDF 116 KB Cofnodion: Darparodd y Prif Archwiliwr
adroddiad Olrhain Camau Gweithredu 'er gwybodaeth’. Nododd y
Cadeirydd nad oedd wedi gweld unrhyw risgiau sylweddol. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Soniodd y Prif Archwiliwr am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er
gwybodaeth’. Nododd fod y diweddaraf o ran contractau Gofal Cymdeithasol wedi'i
ychwanegu at 9 Ebrill 2019. |