Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a
Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad Perfformiad y Pwyllgor Archwilio 2016/17. PDF 111 KB Cofnodion: Hwyluswyd sesiwn
gan Gareth Lewis a Geraint Norman, o Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn
galluogi'r Pwyllgor Archwilio i gwblhau adolygiad o'i berfformiad yn ystod
2016/17. Gofynnwyd i aelodau
ystyried y meysydd gwaith hynny yr oedd y Pwyllgor wedi gwneud yn dda ynddynt
a'r meysydd hynny lle yr oeddent yn teimlo bod lle am welliant. Seiliwyd y sesiwn ar 7 swyddogaeth graidd y
pwyllgor archwilio a sefydlwyd gan CIPFA. Yr egwyddorion craidd a drafodwyd
oedd: - ·
Datganiadau
Sicrwydd, gan gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, ·
Archwilio
Mewnol, ·
Rheoli
Risgiau, ·
Amgylchedd
rheoli, gan gynnwys gwerth am arian ac atal twyll a llwgrwobrwyaeth, ·
Archwilio
allanol ac asiantaethau arolygu eraill, ·
Perthynas
rhwng archwiliad allanol, archwiliad mewnol, asiantaethau archwilio a chyrff
perthnasol eraill, ·
Datganiadau
Ariannol. Byddai Swyddfa
Archwilio Cymru yn adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r sesiwn er mwyn eu hystyried a'u
cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2016/17. Diolchodd y cadeirydd i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru am arwain y drafodaeth. |
|
Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 82 KB Cofnodion: Darparwyd Adroddiad
Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Trafodwyd
Cytundebau a Rheoli Risgiau Adran 106
gan y Pwyllgor. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad, 2) Ailagor y mater ynghylch mynediad i gronfa ddata Adran 106 i gynghorwyr oherwydd diffyg gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 60 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Gofynnodd
y Pwyllgor i'r Prif Swyddog Addysg gael ei atgoffa bod ei bresenoldeb ym
Mhwyllgor Archwilio Arbennig ar 28 Mawrth 2017 yn ofynnol. Dywedodd
Geraint Norman, o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), wrth y pwyllgor y byddai
Adroddiad Grantiau terfynol SAC ar gyfer 2015/16 yn cael eu cyflwyno i'r
Pwyllgor yn ystod mis Mehefin 2017. |