Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: - Y
Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 55 - Swyddfa Archwilio Cymru - Llythyr
Archwilio Blynyddol 2015/16 - Aelod a Noddwr Cynllun Pensiwn y Cyngor -
personol. Y
Cynghorydd R V Smith - Cofnod Rhif 57 - Adroddiad Monitro Archwiliad Mewnol -
Ail Chwarter 2016/17 - Llywodraethwr Ysgol yn YGG Pontybrenin ac YG Gŵyr -
personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2016
a'r Pwyllgor Archwilio Arbennig a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.
Rhoddodd
Paul Beynon, Prif Archwiliwr, y diweddaraf am y gofyniad i gynghorwyr gael
mynediad i Gofrestr Risgiau a Chronfa Ddata Adran 106.
|
|
Pwyllgorau Cynghori'r Cabinet - Y Diweddaraf. (Llafar) Cofnodion: Bu'r Cynghorydd R C
Stewart, yr Arweinydd, yn rhoi'r diweddaraf ynghylch Pwyllgorau Cynghori'r
Cabinet a'u diben. Amlinellodd mai
diben Pwyllgorau Cynghori'r Cabinet yw galluogi aelodau i gyfrannu'n fwy o ran
llunio polisïau. Pwysleisiodd ei bod yn swyddogaeth ar wahân i graffu. Roedd
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: - ·
Prosiect
Oceana; ·
A
oedd Pwyllgorau Cynghori'r Cabinet wedi arwain at welliant o ran llunio
polisïau; ·
Yr
angen i sicrhau nad oedd gorgyffyrddiadau rhwng Pwyllgorau Cynghori'r Cabinet a
Chraffu er mwyn osgoi dyblygu gwaith ac amser swyddog. ·
Rhoddodd
Pwyllgorau Cynghori'r Cabinet wybodaeth sylweddol i'r aelodau; ·
System
ddeuoliaeth ·
Cynnwys
yr aelodau'n well ym Mhwyllgorau Cynghori'r Cabinet ·
Cylch
gorchwyl a'r angen/gofyn am unrhyw newidiadau
·
Gwaith
a dderbyniwyd gan Bwyllgorau Cynghori'r Cabinet Diolchodd yr
arweinydd i'r aelodau am y gwaith a wnaed gan Bwyllgorau Cynghori'r Cabinet. Diolchodd y
cadeirydd i'r arweinydd am roi'r diweddaraf i'r pwyllgor am Bwyllgorau
Cynghori'r Cabinet. |
|
Swyddfa Archwilio Cymru - Llythyr Archwiliad Blynyddol 2015/16. PDF 79 KB Cofnodion: Rhoddodd Geraint Norman,
Swyddfa Archwilio Cymru, grynodeb i'r pwyllgor am Lythyr Archwilio Blynyddol
2015/16 gan amlygu'r meysydd i'w gwella. Cadarnhawyd bod gwaith ar hawliadau
grant yn parhau, a byddai adroddiad manwl yn cael ei ddarparu ar ddechrau 2017.
Nodwyd y derbyniwyd
cwestiynau gan y cyhoedd, a'u bod bellach wedi'u datrys. Roedd Swyddfa
Archwilio Cymru wedi llwyddo i gynnal y Ffi Archwilio a gyflwynwyd eisoes. Holodd y pwyllgor
am bynciau'r cwestiynau a ofynnwyd gan y cyhoedd. Cadarnhawyd bod y cwestiynau
a ofynnwyd yn trafod Ysgol Gynradd Gorseinon, Oceana
a chyflog diswyddo ar gyfer uwch-aelod o staff. Gofynnwyd cwestiwn arall yn ddiweddar hefyd
ynglŷn â Stadiwm Liberty, ac roedd yn y broses o
gael ei ateb. Gofynnwyd a oedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi edrych ar y defnydd o
Bwyllgorau Cynghori'r Cabinet. Cadarnhaodd Steve Barry,
Swyddfa Archwilio Cymru, fod y cylch gorchwyl a'r rolau'n glir, ac nad oedd
unrhyw achos pryder. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y llythyr a'r wybodaeth
ddiweddaraf. |
|
Adroddiad Diweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru. PDF 262 KB Cofnodion: Cyflwynodd Steve Barry,
Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad diweddaraf ar y gwaith archwilio a wnaed gan
Swyddfa Archwilio Cymru. Rhoddodd yr
adroddiad fanylion Gwaith Archwilio Ariannol 2015-16 - Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe a Gwaith Archwilio Ariannol 2015-16 - Dinas a Sir Abertawe. Roedd yr adroddiad
hefyd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am Waith Archwilio Perfformiad - Dinas
a Sir Abertawe. Roedd hyn yn cynnwys
gwaith ar y meysydd canlynol: - • 2015-16 Asesiad Gwelliant; • 2015-16 Astudiaethau Llywodraeth Leol; • 2016-17 Asesiad Gwelliant; • 2016-17 Astudiaethau Llywodraeth
Leol. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru a ymatebodd yn
briodol. Roedd trafodaethau'n amlinellu ymagwedd
strategol cynghorwyr o ran creu incwm a chodi tâl am wasanaethau, llywodraethu
a'r Consortia Addysg Ranbarthol, ac yn benodol yr argymhellion a wnaed yn sgîl arolwg ERW gan Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwerth am
arian. Caiff adroddiad arall ei roi i'r pwyllgor maes o law. PENDERFYNWYD: - 1) Nodi cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf; 2)
Dosbarthu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru o ran egwyddorion allweddol
ymagwedd strategol at osod, cynyddu neu gyflwyno taliadau ar gyfer
gwasanaethau'r awdurdod lleol. |
|
Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol - Ail Chwarter 2 2016/17. PDF 77 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr yr Adroddiad Monitro Archwiliad Mewnol ar gyfer Ail Chwarter
2016/17. Adroddodd nad oedd
unrhyw swyddi gwag yn yr Is-adran Archwilio Mewnol bellach. Fodd bynnag, roedd
aelod o staff ar absenoldeb salwch tymor hir o hyd, ond byddai'n dychwelyd i'r
gwaith yn fuan. Cwblhawyd cyfanswm
o 25 archwiliad yn yr Ail Chwarter a dywedodd y Prif Archwiliwr fod nifer mawr
o archwiliadau wedi derbyn lefel sicrwydd uchel. Ychwanegodd nad oedd un o'r
archwiliadau wedi derbyn lefel sicrwydd cymedrol neu gyfyngedig, a oedd yn
newyddion da. Nodwyd hefyd y rhagorwyd ar y targedau y cytunwyd arnynt ar gyfer
argymhellion archwiliad. Rhoddwyd y diweddaraf am Hunanasesiadau Ysgolion Cynradd. Cyhoeddwyd 28
holiadur yn ystod y Chwarter Cyntaf, ac roedd 22 ohonynt wedi'u cwblhau a'u
dychwelyd. Byddai'r Prif Archwiliwr yn parhau i ddilyn yr holiaduron rhagorol
ac ystyried unrhyw welliannau er mwyn
gwella'r broses ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn ystod yr Ail
Chwarter, cafwyd 2 ymweliad dilynol. Dangosodd y ddau ymweliad fod argymhellion
i'w rhoi ar waith o hyd, felly byddai ymweliadau pellach yn cael eu trefnu. Nododd y Cadeirydd
fod y chwarter wedi bod yn un llwyddiannus. PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
Adroddiad Olrhain Argymhellion 2015/16. PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr Adroddiad Olrhain Argymhelliad 2015/16 i'r pwyllgor. Nododd fod y duedd
gyffredinol yn gadarnhaol gyda llai o argymhellion yn cael eu cynnig, a nifer
yr argymhellion a roddwyd ar waith yn cynyddu. Byddai'r Prif Archwiliwr yn
parhau i adolygu'r argymhellion nad ydynt ar waith neu sydd ar waith yn
rhannol. PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 78 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 55 KB Cofnodion: Cyflwynwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |