Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r côd ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|||||
Rhwymedigaethau Cynllunio Adran 106 - y diweddaraf. Cofnodion: Darparodd y Rheolwr
Rheoli Cynllunio adroddiad diweddaru am rwymedigaethau Adran 106 a nododd bod
cynnydd da wedi cael ei wneud. Meddai gan fod
adroddiad Archwilio Mewnol mis Mawrth 2016 wedi rhoi sicrwydd cyfyngedig, datblygwyd
cynllun gweithredu er mwyn rhoi ffocws ar y broses fusnes. Roedd hwn yn cael ei
fonitro a'i adolygu, ond byddai'r broses hon yn un araf oherwydd y nifer
cymharol fach o gytundebau a chyfraniadau sy'n cael eu derbyn ar hyn o bryd, yn
enwedig ar ôl y cwymp yn y farchnad ers 2007. Roedd y broses o gyd-drafod a
monitro cyfraniadau Adran 106 wedi cael ei fapio ac roedd system ar waith a
oedd ar gael i aelodau. Hefyd trefnwyd sesiwn hyfforddiant ar gyfer aelodau a
bu oddeutu 20 yn bresennol. Yn ychwanegol,
sefydlwyd Grŵp Swyddogion er mwyn cyd-drafod a rheoli cytundebau Adran
106, a phwysleisiwyd bod rheoliadau wedi cael eu tynhau'n sylweddol ers
cyflwyno Rheoliadau CIL yn 2010, gan arwain at unrhyw gais am gyfraniadau'n
gorfod diwallu profion clir er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol
datblygiad penodol. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau i'r swyddog, ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn
bennaf: - ·
Manylion
a gynhwysir yng Nghofrestr Adran 106; ·
Nifer
y cymeradwyaethau cynllunio a oedd wedi cynnwys yn benodol dai fforddiadwy fel
amod, a nifer y tai; ·
Y
broses cyfraniadau oddi ar y safle; ·
Olrhain
cytundebau Adran 106 a monitro taliadau; ·
Ymgymryd
â’r broses archwilio gan y Gwasanaethau Cynllunio; ·
Nifer
y cytundebau Adran 106 ers mis Mai 2008; ·
Datblygwyd
y broses i gyd-drafod a monitro cytundebau Adran 106 gan ddilyn trafodaethau
Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, a chyfraniad yr aelodau yn y broses; ·
Cynnal
gwiriadau blynyddol ar bob safle sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru a datblygwyr,
a’r gwirio rheolaidd gan y Gwasanaethau Cynllunio; ·
Gan fod y mater wedi cael ei drafod gan y Pwyllgor
Archwilio a Phwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, cwestiynodd y Pwyllgor
yr angen i Graffu cynnal ymchwiliad. Nododd y Cadeirydd
sylwadau'r Pwyllgor ynglŷn ag adroddiadau llafar a ddarparwyd yn y
Pwyllgor, a chynhelir archwiliad mewnol pellach o ran
y Gwasanaeth Cynllunio cyn hir. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||
Datganiad Drafft o Gyfrifon 2015/16. PDF 267 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 Ddatganiad Drafft o Gyfrifon ar gyfer 2015/16 i'r Pwyllgor 'er
gwybodaeth' ac er mwyn ei adolygu. Amlinellwyd bod y ddeddfwriaeth yn gofyn i'r cyngor
gyflwyno Datganiad Cyfrifon blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol
fel a ganlyn:- - Erbyn 30 Mehefin gan ddilyn y flwyddyn y
mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi - Cyfrifon i gael eu drafftio a'u llofnodi gan
Swyddog Adran 151; - Erbyn 30 Medi gan ddilyn y flwyddyn y
mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi, mae angen i'r cyfrifon gael eu harchwilio a'u
cymeradwyo gan y cyngor. Roedd y Cyfrifon Drafft ar gyfer 2015/16 wedi cael eu paratoi, ac wedi cael
eu llofnodi gan Swyddog Adran 151 ar 24 Mehefin 2016. Darparwyd copi yn Atodiad
A. Roedd y cyfrifon wedi cael eu cyflwyno'n swyddogol i archwilwyr y cyngor - Swyddfa
Archwilio Cymru - a oedd wedi dechrau archwilio'r cyfrifon. Fel rhan o'r broses
archwilio, byddai'r cyfrifon ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am gyfnod o
bedair wythnos yn ystod mis Awst/dechrau mis Medi 2016. Roedd ffurf a
chynnwys yr adroddiad wedi eu nodi yng nghôd ymarfer
CIPFA a oedd yn sail arfer gorau yn unol â deddfwriaeth. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau i Swyddog Adran 151 a ymatebodd yn briodol. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Gwariant/incwm
gros Tai Awdurdod Lleol (CRT); ·
Cronfeydd
wrth gefn na ellir eu defnyddio yn cael eu defnyddio fel mesur cyfrifeg yn
unig; ·
Defnyddio
cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi/sy'n ddefnyddiol; ·
Cyllid
i wella isadeiledd er mwyn lleihau hawliadau yn erbyn yr awdurdod; ·
Cyllid
i dalu am gostau hawliadau cyflog a graddio a nifer yr hawliadau sy'n weddill; ·
Defnydd
o gronfeydd wrth gefn cyffredinol; ·
Effaith
bosibl Brexit ar brisiadau; ·
Dosbarth
newydd o asedau'n cael ei gyflwyno. Cadarnhaodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y byddai'r archwilwyr allanol yn chwilio
am unrhyw beth sy'n faterol anghywir. Fodd bynnag, nid oedd yr awdurdod wedi
cael barn gymwys am gryn dipyn o amser. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2015/16. PDF 424 KB Cofnodion: Darparodd y Prif Archwilydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar
gyfer 2015/16. Roedd yn ofynnol yn ôl Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio
(Cymru) 2014 i'r Cyngor gynnal adolygiad o'i drefniadau llywodraethu, o leiaf bob blwyddyn. Bwriad
yr adolygiad oedd dangos sut oedd y cyngor wedi cydymffurfio â'i Gôd Llywodraethu Corfforaethol. Amlinellwyd 6 egwyddor graidd y Fframwaith ar gyfer Cyflwyno Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol a sefydlwyd gan CIPFA a SOLACE. Gwnaeth yr
Adroddiad ar yr Adolygiad Llywodraethu Corfforaethol a Gynhyrchwyd gan y CLlLC, a adroddwyd yng nghyfarfod
diwethaf y pwyllgor, yr awgrymiadau canlynol o ran y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB):
Byddai camau gweithredu ar waith yn ystod
2016/17 er mwyn rhoi'r argymhellion ar waith a bwriadwyd hefyd y
byddai'r grŵp ymgynnull newydd yn llunio adroddiad chwarterol i'r
pwyllgor er mwyn darparu cymorth pellach o ran llywodraethu
corfforaethol fel sy'n ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Atodwyd y DLlB drafft ar gyfer 2015/16 i Atodiad 1 ac roedd yn destun ymgynghoriad gyda'r Tîm Rheolaeth Gorfforaethol cyn adrodd i'r Pwyllgor Archwilio. Byddai fersiwn derfynol y DLlB yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi er mwyn ei chymeradwyo cyn cael ei llofnodi gan y Prif Weithredwr a'r Arweinydd, a'i chyhoeddi gyda'r datganiad o gyfrifon a archwiliwyd ar gyfer 2015/16. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||
Adroddiad Monitro Archwiliad Mewnol Chwarter 4 2015/16. PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd adroddiad a oedd yn darparu'r archwiliadau
terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr isadran Archwilio Mewnol yn ystod
y cyfnod 1 Ionawr 2016 i 31 Mawrth 2016. Cwblhawyd
cyfanswm o 25 archwiliad yn ystod Chwarter 4. Darparwyd yr archwiliadau
terfynol yn Atodiad 1, a ddangosodd hefyd lefel y sicrwydd a roddwyd
ar ddiwedd yr archwiliad, a nifer yr argymhellion a wnaed a chytuno
arnynt. Gwnaed cyfanswm
o 212 o argymhellion archwilio, a chytunodd y rheolaeth i roi
206 o argymhellion ar waith, h.y. 97.2% yn erbyn y targed o 98%. Roedd yr argymhellion na chytunwyd arnynt naill
ai'n risg isel neu'n arfer da, a dangoswyd gan y rheolaeth
bod dulliau rheoli ad-dalu ar waith. Dangosodd Atodiad 2 bob archwiliad sydd
wedi'i gynnwys yn y cynllun a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ym mis Ebrill
2015, ac mae'n nodi’r sefyllfa o 31 Mawrth 2016 ar gyfer pob archwiliad.
Dangosodd Atodiad 3 fanylion cryno’r materion
sylweddol a arweiniodd at ystyried y 4 archwiliad terfynol yn Chwarter 4 fel rhai cymedrol. Roedd Cynllun
Gweithredu Rheoli a oedd yn cynnwys cyfres o argymhellion i fynd i'r afael â
materion a gafwyd ym mhob archwiliad a oedd yn derbyn lefel negyddol o sicrwydd
wedi cael ei gytuno gyda'r rheolwyr. Roedd unrhyw archwiliad a oedd yn derbyn
lefel cymedrol neu isel o sicrwydd hefyd yn cael ei adrodd i'r cyfarfod
Cyfarwyddiaeth MPC perthnasol ac roedd camau gweithredu’n cael eu monitro gan y
Cyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaeth priodol. Darparwyd manylion am waith yr isadran Archwilio Mewnol yn ystod Chwarter 4
a gwybodaeth am y lefelau uchel o salwch yn yr isadran. Yn ychwanegol,
amlinellwyd y camau dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2016. Trafododd y
pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD ar y canlynol: - 1)
Dylid
nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Yn y
dyfodol, bydd angen adrodd i'r Pwyllgor am unrhyw oedi o ran derbyn ymateb gan
wasanaeth i adroddiad Archwilio Mewnol drafft. 3)
Mae'r
Prif Archwiliwr yn cysylltu â Phennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol
er mwyn trafod y weithdrefn o ran atal cardiau amser hyblyg pan fydd gweithiwr
yn terfynu cyflogaeth gyda'r awdurdod. 4)
Mae'r
Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaeth pan fydd archwiliad yn derbyn
lefel gymedrol o sicrwydd am ail archwiliad i fynegi pryder y Pwyllgor nad oes
unrhyw welliant wedi ei wneud o ran y camau gweithredu sydd ar waith. |
|||||
Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. PDF 309 KB Cofnodion: Darparodd y Prif Archwilydd adroddiad 'er gwybodaeth a oedd yn cynnwys
manylion am y camau gweithredu a gofnodwyd gan y Pwyllgor Archwilio, a'r
ymatebion i'r camau gweithredu. |
|||||
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 205 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |