Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol Mr A M Thomas yn gadeirydd ar gyfer
blwyddyn ddinesig 2016-2017. (Bu Mr A M Thomas yn llywyddu) |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd L James yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a
Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2016
fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: - Cofnod
Rhif 77 - Swyddfa Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe 2016 - Paragraff 2, brawddeg 2 - newid 'fy' i 'ei'. Adroddodd
y Prif Archwilydd fod manylion ynghylch datgeliadau troseddol AGPh ar gael ar wefan gov.uk. Nododd yn ystod 2015/16 y cafwyd gostyngiad
yn y gordaliadau Budd-dal Tai o 5.3% i 5.2% ond bod twyll wedi codi o 2.4% i
3%. Ychwanegodd nad oedd ganddo fanylion
am erlyniadau. |
|
Hyfforddiant y Pwyllgor Archwilio. Cofnodion: Dosbarthodd y Prif
Archwilydd y Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth i Gynghorwyr y Pwyllgor Archwilio
a gyhoeddwyd gan CIPFA. Amlinellodd fod
Pwyllgor y Gwasanaeth Democrataidd wedi penderfynu bod hyfforddiant ar gyfer
cynghorwyr ar y Pwyllgor Archwilio'n orfodol gan amlygu'r meysydd craidd
gwybodaeth fel a ganlyn: ·
Gwybodaeth
Drefniadol; ·
Rôl a
Swyddogaethau'r Pwyllgor Archwilio; ·
Archwilio
Mewnol; ·
Llywodraethu; ·
Rheoli
a Chyfrifo Ariannol; ·
Archwilio
Allanol; ·
Rheoli
Risgiau; ·
Gwrth-dwyll; ·
Gwerthoedd
Llywodraethu Da. Yn ogystal,
amlinellodd y sgiliau craidd canlynol sy'n angenrheidiol ar gyfer Cynghorwyr: - ·
Meddwl
Strategol a Deall Materoldeb; ·
Cwestiynu
a Herio'n Adeiladol; ·
Canolbwyntio
ar Welliant; ·
Gallu
cydbwyso ymarferoldeb yn erbyn theori; ·
Sgiliau
cyfathrebu clir a ffocws ar anghenion y defnyddiwr; ·
Gwrthrychedd; ·
Sgiliau
Rheoli Cyfarfodydd. Derbyniodd y
pwyllgor y cyflwyniadau canlynol: - ·
Archwilio
a Llywodraethu Mewnol - Paul Beynon, Prif Archwilydd; ·
Safonau
ym Mywyd Cyhoeddus - Tracey Meredith, Dirprwy Swyddog Monitro; ·
Rôl
Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Archwilio - Geraint Norman a David
Williams, Swyddfa Archwilio Cymru; ·
Rheolaeth
Ariannol a Chyfrifeg - Ben Smith, Pennaeth Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151. Gohiriwyd y
cyflwyniadau hyfforddi ar reoli risgiau a gwrth-dwyll i gyfarfod y Pwyllgor
Archwilio yn y dyfodol. |