Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddion canlynol: - Y
Cynghorydd C Anderson – Cofnod rhif 76 - Swyddfa Archwilio Cymru - Dinas a Sir
Abertawe 2016 - Cynllun Archwilio – Rwy'n aelod o'r Awdurdod Iechyd Porthladd
Bae Abertawe – personol. Y
Cynghorydd T M White – cofnodion rhif 76 a 77 - Swyddfa Archwilio Cymru - Dinas
a Sir Abertawe 2016 - Cynllun Archwilio a Chronfa Bensiwn – aelod o Awdurdod Iechyd
Porthladd Bae Abertawe a Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe – personol. Swyddogion P
Beynon – cofnod rhif 86 - Adroddiad Archwilio'r Tîm Twyll Corfforaethol – Roedd
fy ngwraig yn un o aelodau'r staff y cyfwelwyd â hwy fel rhan o'r archwiliad –
personol. |
|
Derbyn bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio'n gofnod
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 16
Chwefror a 22 Mawrth 2016, yn gofnodion cywir. Nodwyd y bydd y Cadeirydd/Prif Archwilydd yn cyflwyno adroddiad ynghylch ysgol
newydd YGG Lôn-las gerbron y Pwyllgor Archwilio ym mis Mehefin 2016. |
|
Adolygiad Cymheiriaid CLlLC - Y diweddaraf am y cynnydd. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gyflwyniad ar ddiweddariad cynnydd
manwl a llawn gwybodaeth ynghylch Adolygiad Cyfoedion CLlLC. Trafododd yr Adolygiad Cyfoedion - cefndir; Adolygiad Cyfoedion – penawdau
ac argymhellion; Cynllun Gweithredu –
cynnydd; Crynodeb o'r canlyniadau dymunol; Cysylltiadau Asesu Corfforaethol
Swyddfa Archwilio Cymru; Camau Nesaf. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau i'r cyfarwyddwr, ac ymatebwyd iddynt yn
briodol. Roedd y penderfyniadau'n
ymwneud â'r canlynol: - ·
Staff y cyngor yn meddu ar ymagwedd gadarnhaol a oedd yn
argymhelliad diweddar o adolygiad craffu oherwydd nad oedd rhai
cyfarwyddiaethau'n cydymffurfio gystal ag eraill; ·
Yr awdurdod yn ymgynghori'n gyson â chymunedau; ·
Mae newidiadau cadarnhaol eisoes wedi cael eu gwneud fel
yr Ystafell Borffor, Help Llaw a gwella cysylltiad ag aelodau; ·
Cynnydd ynghylch gwneud y cyngor yn awdurdod a arweinir
gan aelodau; ·
Cynnydd yr adroddiad Llywodraethu Corfforaethol; ·
Proses gwerthuso staff. Mynegodd y pwyllgor ei ddiolch a'i ddymuniadau da i Gyfarwyddwr y
Gwasanaethau Corfforaethol a fyddai'n gadael yr awdurdod yn fuan. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|
Swyddfa Archwilio Cymru - Dinas a Sir Abertawe 2016 - Cynllun Archwilio. PDF 442 KB Cofnodion: Cyflwynodd John
Herniman, Swyddfa Archwilio Cymru, y Cynllun Archwilio ar gyfer yr
Awdurdod. Esboniwyd y cyflwynwyd y
gwaith hwn o dan Ddeddf Archwiliad Cyhoeddus (Cymru) 2004, Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2009, Deddf Llywodraeth Leol 1999 a'r Côd Ymarfer Archwilio. Esboniwyd mai diben
y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig gan Swyddfa Archwilio Cymru, wrth ei
wneud, faint y bydd yn ei gostio a phwy fydd yn gwneud y gwaith. Ni chafwyd unrhyw gyfyngiadau ar yr
Archwilydd Cyffredinol wrth gynllunio cwmpas yr archwiliad hwn. Nodwyd cyfrifoldebau'r Archwilydd
Cyffredinol, ynghyd â rhai'r rheolwyr a'r rhai sy'n llywodraethu yn Atodiad
1. Ychwanegwyd mai
cyfrifoldeb yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno tystysgrif ac adrodd ar
ddatganiadau ariannol a oedd yn cynnwys barn ar eu "gwirionedd a'u
tegwch". Byddai'r Archwilydd
Cyffredinol hefyd yn ystyried a oedd Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud
trefniadau cywir i ddiogelu'r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth
ddefnyddio adnoddau ai peidio ac adrodd os nad oedd y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol yn cydymffurfio â'r gofynion.
Nododd Atodiad 1 gyfrifoldebau'r Archwilydd Cyffredinol yn llawn. Mae'r gwaith a
wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei gyfrifoldebau'n ymateb i'w
asesiad o risgiau. Caniataodd y
ddealltwriaeth hon i'r Archwilydd Cyffredinol ddatblygu ymagwedd archwilio a
oedd yn canolbwyntio ar gyfeirio at risgiau penodol gan roi sicrwydd i'r
datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd.
Roedd yr ymagwedd archwiliad yn cynnwys tri cham a nodwyd yn Arddangosyn
1. Darparwyd y risgiau archwilio
ariannol yn Arddangosyn 2. Nododd
Arddangosyn 4 rannau o'r gwaith archwilio perfformiad. Rhoddodd Arddangosyn 6 amcangyfrif o'r ffi
archwilio ar gyfer gwaith ac amserlen gwaith y Cynllun Archwilio a ddarparwyd
yn Arddangosyn 8. Nid oedd yn bosib
manylu ar y gwaith archwilio perfformiad i'w wneud yn 2016/2017 ar hyn o bryd
oherwydd ymgynghoriad parhaus â chyrff sector cyhoeddus ar sut gall yr
Archwilydd Cyffredinol ryddhau ei ddyletswyddau. Caiff rhaglen gwaith
perfformiad 2016/17 ei chadarnhau cyn gynted ag y bo modd. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i gynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru a ymatebodd yn
briodol. PENDERFYNWYD nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Swyddfa Archwilio Cymru - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Cynllun Archwilio 2016. PDF 296 KB Cofnodion: Cyflwynodd John Herniman, Swyddfa Archwilio Cymru, y Cynllun Archwilio ar
gyfer 2016 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Esboniwyd bod y gwaith hwn wedi'i gyflwyno
dan Gôd Ymarfer Archwilio i archwilio a chadarnhau a
oedd datganiadau cyfrifo Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (y Gronfa Bensiwn)
yn 'wir ac yn deg'. Ni chafwyd unrhyw
gyfyngiadau ar yr Archwilydd Cyffredinol wrth gynllunio cwmpas yr archwiliad
hwn. Nodwyd cyfrifoldebau'r Archwilydd
Cyffredinol, ynghyd â rhai'r rheolwyr a'r rhai sy'n
llywodraethu yn Atodiad 1. Ychwanegwyd mai cyfrifoldeb
yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno tystysgrif ac adrodd ar ddatganiadau
ariannol a oedd yn cynnwys barn ar eu "gwirionedd a'u tegwch". Roedd y gwaith archwilio y mae'r Archwilydd
Cyffredinol yn ei wneud i gyflawni ei gyfrifoldebau yn ymateb i'm hasesiad o
risgiau. Roedd y ddealltwriaeth hon wedi galluogi'r Archwilydd Cyffredinol i
ddatblygu ymagwedd archwiliad a oedd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â
risgiau penodol, gan roi sicrwydd i'r cyfrifon Cronfa Bensiwn yn eu cyfanrwydd.
Roedd yr ymagwedd archwiliad yn cynnwys tri cham a nodir yn Arddangosyn 1. Darparwyd y risgiau archwilio ariannol yn
Arddangosyn 2. Ychwanegwyd y
byddai'r lefelau y barnodd yr Archwilydd Cyffredinol gamddatganiadau o bwys ac
yn cael eu hadrodd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a'r Pwyllgor Archwilio ac i'r
rhai a oedd yn gyfrifol am lywodraethu (y cyngor) cyn cwblhau'r archwiliad. Yn ogystal â chynnwys datganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn yn y prif
ddatganiadau ariannol, roedd gofyn i awdurdodau gweinyddol gyhoeddi Adroddiad
Blynyddol ar y Gronfa Bensiwn y mae'n rhaid cynnwys cyfrifon y Gronfa Bensiwn. Mae gofyn i'r Archwilydd Cyffredinol ddarllen Adroddiad Blynyddol y Gronfa
Bensiwn ac ystyried a yw'r wybodaeth ynddo'n gyson
â'r cyfrifon Cronfa Bensiwn a archwiliwyd ym mhrif ddatganiadau cyfrifo'r
cyngor. Mae'r Archwilydd
Cyffredinol hefyd yn cyflwyno datganiad archwiliad yn cadarnhau cysondeb y
cyfrifon yn yr adroddiad blynyddol ynghyd â chyfrifon y Gronfa Bensiwn. Rhoddodd Arddangosyn 3 amcangyfrif o'r ffi archwilio ar gyfer gwaith ac
amserlen gwaith y Cynllun Archwilio a ddarparwyd yn Arddangosyn 5. PENDERFYNWYD nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Geraint
Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, ddiweddariad Ebrill 2016 i Bwyllgor Archwilio
Dinas a Sir Abertawe. Roedd y manylion a
ddarparwyd yn cynnwys Gwaith Archwilio Ariannol 2015-16 - Cronfa Bensiwn Dinas
a Sir Abertawe. Gwaith Archwilio Ariannol 2015-16 – Dinas a Sir Abertawe; a
gwaith perfformiad 2015-16. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Siarter Archwilio Mewnol 2016/17. PDF 34 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd adroddiad a oedd yn
amlinellu cefndir Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus a gyflwynwyd o 1
Ebrill 2013 a chyflwyno Siarter Archwilio Mewnol i'w chymeradwyo gan y
Pwyllgor. Dogfen ffurfiol yw'r Siarter Archwilio Mewnol sy'n diffinio diben, awdurdod
a chyfrifoldeb y gweithgaredd archwilio mewnol.
Roedd cynnwys disgwyliedig y Siarter Archwilio Mewnol fel a amlinellir
yn arweiniad y CIPFA ar roi'r PSIAS ar waith wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. Bellach mae gofyn
i'r Prif Archwilydd adolygu'r Siarter Archwilio Mewnol yn gyfnodol a'i
chyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgor Archwilio i'w chymeradwyo. Nododd
y PSIAS mai cymeradwyaeth derfynol y Siarter Archwilio Mewnol oedd cyfrifoldeb
y Pwyllgor Archwilio. Adolygwyd Siarter
Archwilio Mewnol Is-adran Archwilio Mewnol Dinas a Sir Abertawe ac amlygwyd y
newidiadau yn Atodiad 1. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol. Roedd y penderfyniadau'n ymwneud â'r
canlynol: - ·
Sicrhau
y cydymffurfiwyd â safonau; ·
Tîm
Twyll Corfforaethol; ·
Colli'r
Tîm Archwiliadau Budd-dal Tai i'r AGPh. PENDERFYNWYD ar y canlynol: - 1)
Cymeradwyo'r
Siarter Archwilio Mewnol ar gyfer 2016/17; 2)
Y Prif Archwilydd yn archwilio cyfradd lwyddiant
erlyniadau Budd-dal Tai ers trosglwyddo'r gwasanaeth i'r AGPh. |
|
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2016/17. PDF 51 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Archwilydd adroddiad a gyflwynwyd yng Nghynllun Blynyddol Archwilio Mewnol
2016/17. Adroddwyd am y fethodoleg a
ddefnyddiwyd i baratoi'r Cynllun Blynyddol i'r Pwyllgor mewn cyfarfod ar 16
Chwefror 2016. Ychwanegwyd, ar gyfer 2016/17, fod yr Is-adran Archwilio Mewnol yn cynnwys
10.5 aelod o staff ac eithrio'r Prif Archwilydd a oedd yn ostyngiad o 0.5
Archwilydd o gymharu â 2016/16. Roedd y swydd 0.5 hon yn wag yn ystod 2015/16
ac mae bellach wedi'i diddymu'n gyfan gwbl o'r sefydliad. Dangoswyd crynodeb
o Gynllun Archwilio Mewnol 2016/17 yn Atodiad 1 a dangoswyd rhestr o
archwiliadau ar gyfer y flwyddyn yn Atodiad 2 ynghyd â nifer y diwrnodau a
gynlluniwyd ar gyfer pob archwiliad. Cafwyd gostyngiad yn nifer y diwrnodau
sydd ar gael oherwydd gostyngiad 0.5 swydd, ond yn gyffredinol roedd nifer y
diwrnodau cynhyrchiol ar gael wedi cynyddu 70 fel a amlinellir yn Atodiad 1. Roedd Cynllun
Archwilio Mewnol 2016/17 yn cynnwys yr archwiliadau a ohiriwyd o 2015/16 o
oddeutu 450 o ddiwrnodau ac a oedd hefyd yn cynnwys archwiliadau newydd â
chyfanswm o 110 o ddiwrnodau. Er mwyn
cynnwys yr archwiliadau a ohiriwyd o 2015/16 a'r archwiliadau newydd a hefyd
gydweddu'r Asesiad o Anghenion Archwilio i'r adnoddau sydd ar gael, roedd
cyfanswm archwiliadau o 385 o ddiwrnodau a oedd fod cael archwiliad yn 2016/17
wedi'u gohirio i 2017/18. Roedd nifer yr archwiliadau a ohiriwyd yn parhau i ostwng o gymharu â blynyddoedd
blaenorol ac yn caniatáu i archwiliadau newydd gael eu cynnwys yn y cynllun.
Roedd hyn oherwydd effaith flwyddyn gyfan newidiadau a gyflwynwyd yn ystod
2015/16 megis y cynnydd yn nefnydd holiaduron hunanasesu a'r Tîm Twyll
Corfforaethol. Fel yn y
blynyddoedd cynt, adroddir ar gynnydd a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol
wrth gyflawni'r Cynllun Archwilio i'r Pwyllgor Archwilio yn chwarterol. Barn y
Prif Archwilydd oedd y byddai Cynllun Archwilio Mewnol 2016/17 yn darparu
gwybodaeth archwilio ddigonol ar gyfer y farn
flynyddol ar reolaeth fewnol i'w chyflwyno i'r cyngor drwy Swyddog Is-adran 151
a'r Pwyllgor Archwilio. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Archwilio Mewnol
Blynyddol 2016/17. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Archwilio 2015/16. PDF 93 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Archwilio ar gyfer Blwyddyn
Ddinesig 2015/16. Cyflwynwyd yr
adroddiad er mwyn i'r Pwyllgor Archwilio drafod, adolygu a chyfrannu at
Adroddiad Blynyddol 2015/16, cyn cyflwyno'r adroddiad gerbron y cyngor. Cyflwynir Adroddiad
Blynyddol terfynol y Pwyllgor Archwilio 2015/16 i'r Pwyllgor Archwilio ym mis
Mehefin, cyn ei gyflwyno i'r cyngor ym mis Gorffennaf/Awst 2016. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2015/16. (Er Gwybodaeth) PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd Rhaglen Waith
Craffu 2015/16 er gwybodaeth. |
|
Llythyrau'r Cadeirydd. (Er Gwybodaeth) PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd
llythyrau'r Cadeirydd er gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. PDF 52 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Nodwyd y byddai sesiwn hyfforddi'n cael ei
chynnal ym mis Mehefin 2016. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Adroddiad ymchwiliad y Tîm Twyll Corfforaethol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Ymchwilio Twyll Corfforaethol adroddiad a oedd yn nodi manylion
ymchwiliad gan y Tîm Twyll Corfforaethol i ymgais i dderbyn sieciau ffug yn
erbyn y cyngor ac ysgol gynradd. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |