Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiant a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorydd LV Walton fuddiant personol fel llywodraethwr ysgol yng Nghofnod Rhif 36 – Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol Chwarter 1 2022/23.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd L V Walton gysylltiad personol fel llywodraethwr ysgol â Chofnod rhif 36 - Adroddiad Monitro Archwiliad Mewnol Chwarter Cyntaf 2022/23.

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 275 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir.

36.

Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol Ch1 2022/23. pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Nick Davies, adroddiad 'er gwybodaeth' manwl a oedd yn darparu'r archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2022.

 

Cwblhawyd cyfanswm o 18 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt. Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau a gwblhawyd yn ystod y cyfnod.

 

Gwnaed cyfanswm o 84 o argymhellion, a chytunodd y rheolwyr i roi pob un o'r 84 o argymhellion ar waith, h.y. derbyniwyd 100% o'r argymhellion yn erbyn targed o 95%. Cafodd yr holl argymhellion a wnaed eu dosbarthu’n rhai risg uchel, risg ganolig, risg isel neu’n arfer da. Darparwyd dadansoddiad o'r argymhellion y cytunwyd arnynt yn ystod y chwarter.

 

Ychwanegwyd bod peth o amser y tîm Archwilio Mewnol yn ystod y chwarter wedi cael ei dreulio’n helpu gyda'r broses o symud swyddfa o fewn Neuadd y Ddinas. Mae’r tîm bellach yn gallu defnyddio ardal gweithio ystwyth a rennir o fewn Neuadd y Ddinas, am hyd at dridiau’r wythnos.

 

Mae salwch staff o fewn y Tîm Archwilio Mewnol wedi bod yn sylweddol yn ystod y chwarter, gyda chyfanswm o 32 o ddiwrnodau o absenoldeb wedi'u cofnodi. Mae dau aelod o staff yn parhau i fod yn absennol o ganlyniad i salwch tymor hir. Yn ogystal â'r absenoldeb salwch, gadawodd 2 archwilydd y tîm yn ystod y chwarter. Roedd un wedi ymddeol ac mae’r llall wedi symud i swydd arall o fewn y cyngor.

 

Ni chyflwynwyd unrhyw adroddiadau archwilio gyda lefel sicrwydd "cymedrol" yn y chwarter.

 

Darparwyd manylion i'r pwyllgor ynghylch y gwaith dilynol a gwblhawyd rhwng

1 Ebrill 2022 a 30 Mehefin 2022.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Disgwyliadau o adolygiadau cymedrol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

·       Cynnydd o ran llenwi swyddi Archwilio Mewnol gwag.

·       Effaith salwch tymor hir ar adnoddau.

·       Gwaith a wnaed wrth gyflwyno adroddiadau cymedrol a rhoi'r cyfle a'r amser i adrannau roi'r argymhellion a restrwyd ar waith.

·       Y posibilrwydd o beidio â chyflawni'r Cynllun Archwilio o ganlyniad i'r absenoldeb salwch.

·       Archwiliad o Orsaf Fysus Abertawe a diffyg cyfranogaeth y Rheolwr.

·       Diogelwch data o fewn swyddfeydd gweithio ystwyth a rennir, yn benodol sut mae Archwilio Mewnol yn diogelu ffeiliau o fewn ardaloedd sydd wedi'u cloi.

 

Nododd y Cadeirydd hefyd y byddai Jeff Fish, Swyddog Twyll Corfforaethol, yn gadael yr is-adran yn fuan i ddechrau rôl newydd o fewn yr Awdurdod. Cynigodd ei dymuniadau gorau a’i diolch i'r Swyddog ar ran y Pwyllgor am y gefnogaeth yr oedd wedi’i darparu dros nifer o flynyddoedd.

37.

Adroddiad Dilynol ar Argymhellion Archwilio Mewnol ar gyfer Ch1 2022/23. pdf eicon PDF 753 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr adroddiad 'er gwybodaeth yn unig' i'r pwyllgor, a oedd yn darparu statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle y gwnaethpwyd gwaith dilynol yn Chwarter 1 2022/23, a oedd yn caniatáu i'r Pwyllgor Archwilio fonitro'r broses o weithredu argymhellion a wnaed gan Archwilio Mewnol. Darparwyd manylion olrhain argymhellion Archwilio Allanol hefyd.

 

Darparodd Atodiad 1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd ac a rhoddwyd ar waith. Darparodd Atodiad 2 fanylion argymhellion na roddwyd ar waith.

 

Nodwyd y byddai system Olrhain Argymhellion Electronig Swyddfa Archwilio Cymru sy'n cael ei datblygu yn cael ei chyflwyno unwaith y bydd yn barod.

38.

Trosolwg o Risgiau Corfforaethol 2022/23 - Chwarter 1. pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol, adroddiad Chwarter 1 2022/23 a oedd yn darparu trosolwg o statws Risgiau Corfforaethol yn y cyngor i roi sicrwydd i'r Pwyllgor bod risgiau allweddol yn cael eu rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli risgiau'r cyngor.

 

Roedd y canlynol yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y

Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn Chwarter 1 2022/23:

 

Roedd 6 risg statws coch yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol

ar ddiwedd Chwarter 1 2022/23:

 

·       Rhif Adnabod Risg 153. Diogelu.

·       Rhif Adnabod Risg 159. Rheolaeth Ariannol: Agweddau CATC ar Abertawe Gynaliadwy.

·       Rhif Adnabod Risg 221 Argaeledd Gofal Cartref.

·       Rhif Adnabod Risg 222. Digidol, Data a Seiberddiogelwch.

·       Rhif Adnabod Risg 309. Oracle Fusion.

·       Rhif Adnabod Risg 319. Costau Darparu Cynyddol.

 

·       Cofnodwyd bod yr holl risgiau wedi'u hadolygu o leiaf unwaith yn ystod Chwarter 1.

·       Ychwanegwyd 2 risg newydd at y gofrestr Risgiau Corfforaethol.

·       Rhif Adnabod Risg 319. Costau Darparu Cynyddol.

·       Rhif Adnabod Risg 320. Hyfforddiant Diogelu Gorfodol.

·       Cafodd 1 risg gorfforaethol ei hanactifadu yn ystod Chwarter 1

·       Rhif Adnabod Risg 196. Strategaeth y Gweithlu

·       Uwch-gyfeiriwyd 1 risg corfforaethol i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

·       Rhif Adnabod Risg 290. Effaith Tlodi.

·       Ni chafodd unrhyw risgiau corfforaethol eu tynnu oddi ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

·       Newidiwyd 2 risg gorfforaethol o ddim statws GOC i statws Oren yn ystod Chwarter 1:

·       Rhif Adnabod Risg 235. Cynllunio rhag Argyfyngau, Cydnerthedd a Pharhad Busnes.

·       Rhif Adnabod Risg 236. Iechyd a Diogelwch.

 

Roedd yr adroddiad yn Atodiad A yn cynnwys y risgiau ar 30/06/22 a gofnodwyd yng Nghofrestr Risgiau Corfforaethol y cyngor. Roedd yr adroddiadau ar gyfer pob risg yn cynnwys gwybodaeth esboniadol gyffredinol yn ymwneud â'u dosbarthiad.

 

Amlinellwyd gwybodaeth ynghylch mesurau rheoli a'r amgylchedd rheoli mewnol ac adrodd am risgiau.

 

Trafodwyd y canlynol: -

 

·       Rhif Adnabod 269 - Economi ac Isadeiledd Lleol - pryder bod yr adolygiad ym mis Mehefin 2022 a sut y byddai'r adolygiad o'r holl risgiau'n cael ei adlewyrchu yn adroddiad Chwarter 2.

·       Rhif Adnabod 196 - Strategaeth y Gweithlu’n cael ei hanactifadu.

·       Darparwyd cyngor di-flewyn-ar-dafod a ffurfiol gan Swyddog Adran 151.

·       Adolygiad blynyddol a gynhaliwyd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol.

·       Risg ddiogelu ac yn aros am adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

39.

Cyfarwyddiaeth Addysg: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2022/2023. pdf eicon PDF 742 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg a Kelly Small, Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno amgylchedd rheoli'r Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gynnwys rheoli risgiau sydd ar waith i sicrhau: bod swyddogaethau'n cael eu harfer yn effeithiol; bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac effeithiol ac yn economaidd a; bod llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn.

 

Amlinellwyd dadansoddiad bras o gyllideb y Portffolio Addysg, pwyntiau allweddol i'w nodi, elfennau allweddol o'r fframwaith sicrhau, elfennau allweddol o drosolwg yr Awdurdod o drefniadau ariannol ysgolion, manylion trefniadau archwilio ysgolion ac agweddau allweddol ar drefniadau'r Gyfarwyddiaeth Addysg.

 

Darparwyd manylion rheoli risgiau, parhad busnes, rheoli perfformiad/DPA, cynllunio, gwneud penderfyniadau, cyllideb, twyll ac amhriodoldeb, cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolau a gofynion rheoleiddio a rheoli adnoddau.

 

Ychwanegwyd bod y Risgiau o fewn Addysg wedi'u nodi'n brydlon a'u rheoli ar lefelau priodol (corfforaethol, cyfarwyddiaeth, gwasanaeth, rhaglen/prosiect), ac wedi’u lliniaru gyhyd ag y bo modd, fel rhan o'r adolygiad o wasanaethau a phrosesau'r cylch cynllunio a hunanwerthusiad parhaus. Aethpwyd ati i fonitro drwy reoli perfformiad y Gyfarwyddiaeth ac adrodd am fecanweithiau yn MPA, BAS a chyfarfodydd a rhaglen yr UDAA/byrddau prosiect gyda risgiau'n cael eu huwch-gyfeirio fel y bo'n briodol (gan ganolbwyntio'n benodol ar risgiau 'coch').

 

Rheolwyd risgiau ar lefel  rhaglenni a phrosiectau sy'n gysylltiedig ag Addysg o Safon (AoS)/Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu trwy raglen aeddfed a phrosesau rheoli risgiau prosiect yn unol â gofynion corfforaethol ac amodau grant Llywodraeth Cymru ac argymhellion adolygiad Gateway.

 

Amlygodd yr adroddiad hefyd nodweddion allweddol dulliau rheoli mewnol, diogelu data a llywodraethu partneriaethau/cydweithio.

 

Darparodd Atodiad A (Cyfarwyddiaeth) Risgiau Corfforaethol a’r Gyfarwyddiaeth a darparodd Atodiad B y Map Sicrwydd (Cyfarwyddiaeth) diweddaraf.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Yr arolygiad llwyddiannus diweddar gan Estyn.

·       Mae rheoli risgiau mewn ysgolion ac adolygiadau thematig Archwilio Mewnol yn cael eu cwblhau.

·       Contract SIMS newydd gydag ysgolion.

·       Darperir hyfforddiant i ysgolion, yn enwedig hyfforddiant ariannol/caffael.

·       Cyflawni targed 2010.

·       Mae'r adran yn canolbwyntio ar risgiau’r Gyfarwyddiaeth a  rhai Corfforaethol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am ddarparu adolygiad manwl o'r Gyfarwyddiaeth Addysg.

40.

Diweddariad ar Reoli Absenoldebau. pdf eicon PDF 451 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf am yr Adroddiad Archwilio Rheoli Absenoldeb.

 

Nododd y cynllun gweithredu gamau gweithredu Risg Uchel a Risg Ganolig ac fel yr adroddwyd yn flaenorol i'r pwyllgor ym mis Medi 2021, roedd yr holl argymhellion wedi'u rhoi ar waith, ac eithrio'r canlynol;

 

“Dylid ystyried cael trafodaeth gyda darparwr y system Interflex i ddarparu adroddiadau yn amlygu achosion o 'absenoldebau anawdurdodedig' – ystyriwyd nad oedd hyn yn gost-effeithiol.’

 

Esboniwyd, yn unol â phrosiect Oracle Fusion, fod dangosfwrdd i reolwyr yn cael ei ddatblygu ac roedd yn agos at fod yn barod i’w brofi gan ddefnyddwyr. Byddai hyn yn darparu gwybodaeth gyfredol i bob rheolwr â chyfrifoldeb rheoli absenoldeb ac yn rhoi gwybodaeth iddo am y canlynol:-

 

·       Absenoldeb staff oherwydd salwch (o fewn ei ardal yn unig) a dyddiau a gollwyd

·       Cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith sydd heb eu cyflawni

·       Cyfarfodydd cofnod o gamau gweithredu sydd heb eu cyflawni

 

Byddai'r wybodaeth hon hefyd ar gael i reolwr y "rheolwr", gan ddarparu data a gwybodaeth ychwanegol i wella Rheoli Absenoldeb ar draws yr Awdurdod. Tynnwyd sylw at effaith gadarnhaol nodiadau atgoffa misol i reolwyr a phenodi Ymgynghorwyr Rheoli Absenoldeb yn y Cyfarwyddiaethau Addysg, Lleoedd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Amlinellodd yr adroddiad hefyd y gwaith partneriaeth sy'n digwydd gydag Undebau Llafur ac mae arweiniad diweddaredig wedi’i ddatblygu mewn perthynas â'r Siarter 'Dying to Work'. Roedd absenoldebau a oedd yn ymwneud â straen a'r Coronafeirws yn cael eu monitro ac roeddent yn dechrau lleihau. Manylwyd ar adborth y Cyfarwyddiaethau Addysg, Lleoedd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Nodwyd ffigurau mewn perthynas ag absenoldeb salwch yn 2019/20, gan gynnwys crynodeb o resymau dros salwch yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol a’r cynnydd a wnaed gan Iechyd Galwedigaethol.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Data salwch mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol gyfredol, y goblygiadau ariannol posib os yw'r ffigurau'n parhau i fod yn uchel tan ddiwedd y flwyddyn ariannol a sut byddai'n rhaid i Gyfarwyddiaethau fod yn gyfrifol am y costau o'r gyllideb

·       Darperir cylch gwaith Ymgynghorwyr Rheoli Absenoldeb a darpariaeth hyfforddiant.

·       Sicrwydd bod rheolwyr rheng flaen yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau'r cyngor.

·       Ymgynghorwyr Rheoli Absenoldeb yn gweithio ar draws pob Cyfarwyddiaeth.

·       Manylion ychwanegol yn cael eu darparu gan gynnwys rhesymau mewn perthynas â salwch o fewn Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol.

·       Effaith hyfforddiant, cefnogaeth ac iechyd galwedigaethol wrth leihau'r ffigurau cyffredinol.

 

Gofynnodd y cadeirydd am werthusiad o effeithlonrwydd Iechyd Galwedigaethol.

41.

Cyflog Staff Asiantaeth. pdf eicon PDF 613 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Reolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad 'er gwybodaeth' ar gamau gweithredu sy'n deillio o'r adroddiad Archwilio Cyflogi Staff Asiantaeth.

 

Mewn perthynas â’r adroddiad a wnaed i'r Pwyllgor ym mis Hydref 2021, darparwyd diweddariad cynnydd ar nifer o feysydd.

 

Darparwyd cyfanswm nifer y Gweithwyr Asiantaeth a gyflogwyd drwy asiantaethau dan gontract corfforaethol (Staffline a RSD Social Care). Mae'r niferoedd wedi bod yn gyson yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd, wedi lleihau'n gyffredinol yn yr adran Gwastraff, Parciau a Glanhau ac wedi cynyddu yn y Gwasanaethau i Oedolion er mwyn helpu i ateb yr heriau o ran adnoddau sy'n wynebu'r maes gwasanaeth hwn. Nodwyd hefyd fod y rhain yn weithwyr rhan-amser yn bennaf ac roedd rhai yn gweithio mewn amryfal rolau.

 

Cyfanswm y gwariant/cost gweithwyr asiantaeth ar gyfer 2021/22 oedd £5,879,140. Darparwyd y gwariant misol ar gyfer 2022/23 hyd yma hefyd. Cafwyd y cyfanswm gwariant mwyaf eleni gyda Staffline (tua £1.36 miliwn) a gofal cymdeithasol RSD (tua £373 mil). Roedd y ffigurau uchod hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith ymgynghori, yn bennaf yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a darparu Bonws Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

 

Esboniwyd bod dadansoddiad pellach o'r costau hyn wedi nodi nifer bach o weithwyr asiantaeth sy'n rhan o asiantaethau dan gontract nad ydynt yn gorfforaethol.

 

Rhoddodd yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am gydymffurfiaeth, Gwasanaethau Cymdeithasol, Lleoedd ac adborth y Gyfarwyddiaeth Addysg.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Nifer y Gweithwyr Asiantaeth sy'n cael eu cyflogi yn yr adran Gwastraff, yr angen parhaus i gynnal gwasanaethau rheng flaen yn y maes gwasanaeth hwnnw a recriwtio diweddar a wnaed gan y gwasanaeth.

·       Darparu manylion gweithwyr asiantaeth a gyflogwyd am fwy na 12 mis mewn adroddiad yn y dyfodol.

·       Darparu manylion defnydd uchel o weithwyr asiantaeth yn erbyn lefelau salwch uchel mewn adroddiad yn y dyfodol.

·       Darparu ffigurau gweithwyr asiantaeth o'r gwasanaethau Parciau a Glanhau sydd wedi'u huno.

·       Defnydd o gontractwyr yn hytrach na gweithwyr asiantaeth.

·       Yr angen i gyflogi gweithwyr asiantaeth i gwblhau swyddi tymhorol oherwydd diffyg ymgeiswyr.

42.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r cyngor ar gyfer y cyfnod 2021-22. pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah Lackenby, Pennaeth Digidol a Gwasanaethau Cwsmeriaid adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu llythyr blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, a oedd yn cynnwys perfformiad cwynion Cyngor Abertawe ac ar draws Cymru gyfan.

 

Ychwanegwyd bod y cyngor yn cydnabod, er mwyn diwallu anghenion ac ymateb i bryderon aelodau'r cyhoedd, fod monitro cwynion yn adnodd gwerthfawr yn ei ofyniad i wella gwasanaethau'n barhaus. Cymerir pob cwyn o ddifri ac maent yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i gwsmeriaid.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at y cynnydd da a wnaed gan y cyngor gan gynnwys system TG newydd sy'n cael ei datblygu ar gyfer Cwynion Corfforaethol a fydd yn gwneud y broses yn haws i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i staff gyda nodweddion adrodd gwell.

 

Darparwyd y llythyr blynyddol yn Atodiad A ac mae'n tynnu sylw at y gweithgareddau a wnaed gan swyddfa'r Ombwdsmon yn ystod y flwyddyn a pherfformiad y cyngor. Mae hefyd yn cynnwys ceisiadau gan yr Ombwdsmon i'r cyngor gymryd camau gweithredu penodol mewn perthynas â'r llythyr.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Y cais gan yr Ombwdsmon i ddweud wrth y Cabinet a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y llythyr.

·       Rôl Craffu yn y broses, yn benodol monitro perfformiad y cyngor mewn perthynas â chwynion.

·       Cynnydd ynghylch y system TG newydd.

 

Nododd y Cadeirydd a'r Pwyllgor yr adroddiad ac ychwanegwyd ei bod yn bwysig i'r Pwyllgor weld y darlun llawn ynghylch cwynion, yn enwedig ar ôl archwiliad gan Archwilio Mewnol a Chraffu er mwyn cael sicrwydd a chyflwyno sylwadau’n briodol.

43.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021-22. pdf eicon PDF 475 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohiriedig.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan gyfarfod yn y dyfodol.

44.

Archwilio Cymru - Llythyr i roi'r diweddaraf ar gynnydd yr Asesiad Sicrwydd a Risgiau. pdf eicon PDF 207 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Non Jenkins, Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad 'er gwybodaeth' ar lythyr yn rhoi’r diweddaraf ar yr Asesiad Sicrwydd a Risg. Darparodd y llythyr y diweddaraf am y cynnydd o ran trefniadau'r cyngor ar gyfer ymateb i ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Darparwyd diweddariadau ar y canlynol: -

 

·       Trefniadau ar gyfer hunanasesiad ac asesiad panel

·       Trefniadau ar gyfer y ddyletswydd ymgynghori a'r Strategaeth Cyfranogiad

·       Trefniadau ar gyfer y newidiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

·       Trefniadau ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC)

·       Defnyddio Pŵer Cymhwysedd

 

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed gan y cyngor, strategaethau cyfranogiad awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, swyddogaeth CBC ar draws Cymru, gan gynnwys eu sefyllfa, rôl sefydliadau partner a diweddariadau yn y dyfodol ar y meysydd a drafodwyd.

45.

Rhaglen ac Amserlen Waith Archwilio Cymru - Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 207 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Non Jenkins, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru – Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: -

 

·       Crynodeb Archwilio Blynyddol

·       Gwaith Archwilio Ariannol

·       Gwaith Archwilio Perfformiad

·       Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol sydd wedi'u cynllunio/ar y gweill

·       Estyn

·       Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

·       Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill a Gyhoeddwyd ers mis Ionawr 2022

·       Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill i'w Cyhoeddi (a gwaith arall sydd ar waith/wedi'i gynllunio)

·       Adnoddau Cyfnewid Arfer Da

·       Blogiau Archwilio Diweddar

46.

Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. pdf eicon PDF 493 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddwyd am Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er gwybodaeth'.

47.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’.

 

Rhoddodd Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus. Ychwanegodd fod y Strategaeth yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus 4 wythnos ac yr adroddir amdano wrth y cyngor ac mewn cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol.