Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorwyr T J Hennegan, P R Hood-Williams a T M White fuddiant personol fel llywodraethwyr ysgol yng Nghofnod Rhif 25 – Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2021-22.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorwyr T J Hennegan, P R Hood-Williams, J W Jones, K M Roberts a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 25 – Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2021-22, fel llywodraethwyr ysgol.

 

Datganodd A Hill gysylltiad personol â Chofnod Rhif 30 - Côd Llywodraethu Corfforaethol Lleol: Fframwaith Sicrwydd a Chofnod Rhif 31 - Trosolwg o drefniadau Llywodraethu a Sicrwydd Partneriaethau a Chydweithrediadau.

22.

Cofnodion. pdf eicon PDF 242 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir.

23.

Adroddiad Blynyddol ar Dwyll Corfforaethol. pdf eicon PDF 505 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Fish a Jonathan Rogers, Ymchwilwyr y Tîm Twyll Corfforaethol, grynodeb 'er gwybodaeth' o'r gwaith a gwblhawyd gan Swyddogaeth Twyll yr Archwilio Mewnol yn 2021/22.

 

Darparodd yr adroddiad grynodeb o weithgareddau'r Swyddogaeth Twyll ar gyfer 2021/2022 a gwerth y swyddogaeth, gwerth ataliol, gweithdrefnau cryfhau a pherthnasoedd y gweithlu ac adolygwyd cyflawniadau o'u cymharu â'r canlyniadau targed a gynhwyswyd yng Nghynllun Gwrth-dwyll y Swyddogaeth Twyll ar gyfer 2020/21.

 

Tynnodd y trosolwg o'r gwaith a wnaed sylw at y gweithdrefnau ataliol sy'n datblygu, asesiadau risg a gwiriadau ôl-sicrwydd yn ogystal ag ymchwilio i achosion posib o dwyll.

 

Roedd nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd gan y tîm yn ystod 2021/22 wedi cynyddu, dangoswyd manylion o hynny yn y tablau priodol yn yr adroddiad. Roedd y cynnydd hwn wedi parhau i adlewyrchu'r ymwybyddiaeth uwch a phroffil gweladwy'r tîm fel cronfa ar gyfer honiadau allanol a mewnol sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r cyngor.

 

Roedd gweithgareddau allweddol 2021/22 yn cynnwys y meysydd gwaith canlynol: -

 

·       Gwaith ar y cyd gyda Gwasanaeth Gwrth-dwyll, Cydymffurfio a Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau.

·       Menter Twyll Genedlaethol 2020.

·       Ymwybyddiaeth o Dwyll.

·       Gwaith rhwng asiantaethau a chyfnewid data.

·       Ymchwiliadau sy'n gysylltiedig â gweithwyr.

·       COVID-19.

 

Nododd yr adolygiad o ganlyniadau yn erbyn y Cynllun Swyddogaeth Twyll ar gyfer 2021/22 fod pedwar allan o wyth o'r gweithgaredd Swyddogaeth Twyll wedi'u cyflawni'n llawn ac roedd pedwar wedi'u cyflawni'n rhannol. Darparodd Atodiad 1 fanylion y gweithgareddau hyn.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·       Adnodd ychwanegol yn cael ei ychwanegu at yr Is-adran.

·       Cynnydd mewn ffigurau Swyddogaeth Twyll a'r rhesymau y tu ôl i'r ffigurau.

·       Y swm enfawr o waith a wnaed gan yr Is-adran heb adnoddau.

·       Canlyniadau gyda goblygiadau ariannol a rhesymau hanesyddol o ran pan nad oedd ffigurau wedi’u cynnwys.

·       Darparu ffigurau ar gyfer 2022-2023, yn enwedig y cyfnod chwe mis cyntaf.

·       Nifer yr adroddiadau/ceisiadau a dderbyniwyd a'r rhesymau pam nad oedd rhai achosion wedi’u datblygu.

·       Caffael/taliadau â cherdyn, yn enwedig mewn ysgolion.

·       Ymarfer cydweddu data a ddarperir gan Swyddfa’r Cabinet.

 

Diolchoch y Cadeirydd i'r Swyddog am ddarparu adroddiad cadarnhaol iawn.

24.

Adain Archwilio Mewnol - Swyddogaeth Twyll Cynllun Gwrth-dwyll ar gyfer 2022/23. pdf eicon PDF 740 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Fish a Jonathan Rogers, Ymchwilwyr y Tîm Twyll Corfforaethol, adroddiad a oedd yn amlinellu'r meysydd gweithgarwch arfaethedig ar gyfer Swyddogaeth Twyll yr Is-adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2022/23 a ddyluniwyd i ddarparu golwg strategol o'r meysydd a fyddai'n cael eu harchwilio.

 

Amlygodd yr adroddiad rwymedigaeth y cyngor i fynd i'r afael â thwyll ac egwyddorion mynd i'r afael â thwyll. Roedd y Cynllun Gwrth-dwyll (CGD) yn cynrychioli’r meysydd eang a fyddai'n cael eu cwmpasu ac yn ceisio darparu cydbwysedd rhwng gweithgarwch gwrth-dwyll rhagweithiol ac adweithiol. Mae'n cynnwys gweithgareddau'r cyngor yr oedd y Cyfarwyddwr Cyllid a’r Swyddog A151 a'r Prif Archwilydd yn eu hystyried yn fwyaf tebygol o fod yn destun twyll mewn rhyw ffurf, naill ai o fewn y sefydliad neu o ffynonellau allanol. Y gobaith oedd y byddai cynnydd mewn gweithgarwch rhagweithiol unwaith y byddai’r cynllun arfaethedig o ehangu adnoddau wedi'i roi ar waith.

 

Amlinellwyd mai nod y CGD oedd adeiladu ar y gweithgareddau a'r canlyniadau a nodwyd, a cheisio canolbwyntio ar ardaloedd 'risg uchel' lle gallai'r colledion mwyaf sylweddol ddigwydd. Roedd y risgiau twyll sy'n gysylltiedig â COVID-19 bellach wedi’u lleihau'n sylweddol a disgwylir byddai angen ailgyfeirio adnoddau rhagweithiol bach iawn yn ystod 2022/2023, yn wahanol i'r adnoddau hynny a ailgyfeiriwyd yn ystod y ddwy flynedd ariannol flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar fesur gwerth y Swyddogaeth Twyll a chanolbwyntio adnoddau'r Swyddogaeth Twyll.

 

Nod y cynllun yw dangos ymrwymiad parhaus y cyngor i fynd i'r afael â thwyll, hyrwyddo'r lefelau uchaf o onestrwydd, lleihau'r potensial ar gyfer difetha enw da a sicrhau tryloywder drwy 'gael ei weld yn cael trefn ar ei faterion ei hun'.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Adnoddau newydd yn gwneud y gwasanaeth yn fwy rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol.

·       Mesur yn erbyn argymhellion a wnaed yn adroddiad Archwilio Cymru a derbyn adroddiad diweddaru yn y dyfodol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol/dros dro.

·       Pa mor gyflym mae'r tîm yn gallu ymdrin ag achosion sydd heb eu datrys pan fo adnoddau ychwanegol ar gael.

·       Tynnu sylw at y paragraff sy'n ymwneud â goblygiadau'r Ddeddf Llwgrwobrwyo.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Gwrth-dwyll ar gyfer 2022/23 fel a ddarperir yn Atodiad 3.

25.

Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2021-22. pdf eicon PDF 625 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Nick Davies, y Prif Archwiliwr, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu crynodeb o'r archwiliadau a gynhaliwyd mewn ysgolion gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod 2021-22 a nododd rai materion cyffredinol a gododd yn ystod yr archwiliadau.

 

Amlinellwyd y cynhelir archwiliad ym mhob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig yn Abertawe bob 3 blynedd. Roedd rhaglen archwilio safonol ar gael ar gyfer pob sector ysgol.

 

Am nifer o flynyddoedd paratowyd adroddiad a oedd yn crynhoi'r archwiliadau a wnaed mewn ysgolion bob blwyddyn gan y Cyfarwyddwr Addysg a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r materion cyffredinol a ganfuwyd yn ystod yr archwiliadau.

 

Atodwyd Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2021-2022 yn Atodiad A.

 

Esboniodd yn ystod y flwyddyn, cwblhawyd dau adolygiad archwilio thematig yn llwyddiannus a oedd yn cynnwys incwm prydau ysgol (system sQuid) ar draws y 22 o ysgolion cynradd a oedd i’w harchwilio yn ystod y flwyddyn. Cwblhawyd ymarfer archwilio ar gyfer yr ysgolion hefyd i sicrhau bod gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) wedi'u cynnal ar gyfer yr holl staff.

 

Cwblhawyd yr archwiliad thematig o gronfeydd answyddogol hefyd ar gyfer y tair ysgol sy'n weddill nad oeddent wedi darparu archwiliad gyda'r wybodaeth a oedd yn ofynnol o adolygiad thematig y flwyddyn flaenorol.

 

Cynhaliwyd archwiliadau unigol hefyd gan y tîm ar gyfer un ysgol gynradd, un ysgol arbennig a phedair ysgol uwchradd o bell yn ystod y flwyddyn.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Defnydd ysgolion o staff asiantaeth a sicrwydd bod yr holl staff asiantaeth wedi derbyn gwiriad GDG.

·       Cynnwys rheoli risgiau a sicrwydd mewn adolygiadau archwilio a holiaduron hunanasesu ysgolion.

·       Rôl y Swyddog Cefnogi Cynradd yn y broses.

·       Trosglwyddo'r adroddiadau archwilio i'r Pennaeth/Cadeirydd y Llywodraethwyr ar ôl eu cwblhau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Addysg roi'r diweddaraf i'r Pwyllgor o ran risg/sicrwydd wrth iddi ddarparu ei hadroddiad blynyddol i'r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Diolchodd i'r Swyddogion am ddarparu adroddiad cadarnhaol.

26.

Adroddiad Diweddaru Cydbwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Martin Nicholls, Prif Weithredwr Dros Dro, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y statws a'r cynnydd presennol mewn perthynas â Chyd-bwyllgor Corfforedig newydd De-orllewin Cymru (CBC).

 

Amlinellwyd ers y diweddariad diwethaf i'r Pwyllgor hwn, cynhaliwyd 3 cyfarfod o'r CBC a chytunwyd ar nifer o gamau gweithredu a ddarparwyd yn yr adroddiad.

 

Ychwanegwyd bod angen i'r CBC sefydlu is-bwyllgor o’r enw’r Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cytunwyd ar enwebiadau ar gyfer y pwyllgor hwn yn ystod Cyfarfod Blynyddol y cyngor a gytunodd enwebu Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Abertawe, Paula O'Connor, y Cynghorydd J W Jones a'r Cynghorydd L V Walton fel cynrychiolwyr Cyngor Abertawe ar yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Byddai cyfarfod cyntaf yr Is-bwyllgor yn cael ei drefnu maes o law.

 

Yn ogystal â hyn, byddai'r rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn cael ei phennu yn ystod cyfarfod y CBC ar 26 Gorffennaf 2022. Byddai hyn yn ystyried pob un o feysydd y CBC sef Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, swyddogaeth cynllunio datblygiad strategol a darparu gweithgareddau sy'n cyfrannu at les economaidd.

 

At hynny, cynhaliwyd cyfarfod cyllideb y CBC ar 25 Ionawr 2022. Pennwyd y gyllideb bresennol y cytunwyd arni fel £575,000 ar gyfer 2022-2023. Roedd y CBC wedi pennu cyllideb ariannol o sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-2022 a chytunwyd na fyddai ardoll yn cael ei chodi yn erbyn cynghorau cyfansoddol ar gyfer y flwyddyn honno ond, er mwyn sicrhau tegwch ac ecwiti ar draws y rhanbarth, byddai cyllid rhanbarthol y CBC yn cael ei nodi trwy ddosraniad ardoll yn ôl maint poblogaeth. Mae cyfran Abertawe o hyn yn cyfateb i £200,000 a chyllidebwyd ar ei chyfer yn briodol.

 

Nodwyd nad oedd sefyllfa ariannol y Parciau Cenedlaethol wedi'i phennu eto ond roedd eu cyfraniad ariannol yn ymestyn i gefnogi agwedd cynllunio strategol y CJC yn unig.

 

Yn ystod 2022-2023, byddai'r blaenraglen waith ar gyfer 2023-2024 yn cael ei datblygu a byddai hon, yn ei thro, yn cysylltu'n uniongyrchol â gofynion y gyllideb yn y dyfodol.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Gofynion adrodd yn y dyfodol, yn enwedig pan gaiff Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r CBC ei sefydlu a chynnwys diweddariadau'r CBC yn y dyfodol yn adroddiadau diweddaru'r Bartneriaeth.

·       Y cynnydd yng nghostau cynnal y CBC, yr effaith ar gyllideb yr Awdurdod, goblygiadau ar y gyllideb yn y dyfodol.

·       Trefniadau gweithio Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r CBC a’r Pwyllgor Craffu.

27.

Adroddiad Archwilio Mewnol - Cynllun Gweithredu Cyfrifon Derbyniadwy. pdf eicon PDF 681 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rachael Davies, Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau a Michelle Davies, Rheolwr Rheoli Arian Parod a Chyfrifon Derbyniadwy adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu'r diweddaraf ynghylch swyddogaeth Cyfrifon Derbyniadwy y Ganolfan Wasanaethau.

Amlinellwyd bod Archwilio Mewnol Cyfrifon Derbyniadwy wedi’i gynnal yn Chwarter 1 2022 a dosbarthwyd yr adroddiad ym mis Mawrth 2022. Rhoddwyd lefel sicrwydd 'Cymedrol' unwaith eto. Roedd 1 pwynt gweithredu Risg Uchel a 2 Risg Canolig, ac roedd un ohonynt o'r archwiliadau blaenorol nad oedd wedi'u cwblhau o hyd. Adolygwyd yr holl gamau gweithredu archwilio ac maent wedi'u cynnwys yn y strategaeth CD. Rhoddwyd blaenoriaethau a thargedau i'r tîm CD a oedd yn cyd-fynd â'r strategaethau corfforaethol a'r cynllun gweithredu Archwilio Mewnol. Fodd bynnag, rhagwelwyd na fyddai'n bosib cwblhau'r holl gamau gweithredu hyn cyn yr adroddiad archwilio nesaf am resymau a amlinellwyd mewn adroddiadau blaenorol.

 

Rhoddwyd y diweddaraf i'r pwyllgor hefyd ynghylch pwyntiau gweithredu, cyfarfodydd gweithgareddau adennill dyledion, hen ddyledion sy'n ddyledus, dileu ôl-ddyledion, atgyfeiriadau i'r Gwasanaethau Cyfreithiol, cyswllt yr adran gwasanaeth, anfonebau amheus a chyswllt y Gwasanaethau Cyfreithiol. Darparwyd hefyd ymatebion i bwyntiau penodol a oedd yn codi o gyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022.

 

Ychwanegwyd y byddai adolygiad o'r fethodoleg adrodd yn cael ei hystyried i ganiatáu i rai agweddau a gofnodir ar hyn o bryd gael eu cofnodi'n well mewn ffordd wahanol. Roedd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethu newydd wedi dechrau yn ei swydd ym mis Mehefin 2022 a derbyniodd y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu a fyddai'n cael ei adrodd i'r Tîm Rheoli Corfforaethol (TRhC) yn rheolaidd.

 

At hynny, byddai opsiynau ar gyfer buddsoddi mewn adnodd ychwanegol yn y swyddogaeth CD yn cael eu harchwilio er mwyn gwella cyflymdra adferiad, gan ystyried y lefel bresennol o weithgarwch gydag adnoddau presennol. Byddai adroddiad pellach yn dangos cynnydd yn y dyfodol yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2023.

 

Diolchoch y Dirprwy Brif Weithredwr i'r Tîm Cyfrifon Derbyniadwy am ddarparu adroddiad proffesiynol gan ystyried y pwysau a oedd arnynt.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Lleihad yn nifer y staff yn y Tîm Cyfrifon Derbyniadwy ers 2009.

·       Canran y ddyled sydd heb ei chlirio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol.

·       Gwahaniaethu rhwng y rheini nad ydynt yn gallu talu a'r rheini nad ydynt am dalu.

·       Proses adennill dyledion.

·       Yr angen am adnoddau staff ychwanegol yn CD.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am adroddiad cynhwysfawr ac am ddarparu ymatebion i ymholiadau a godwyd yng nghyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n nodi y bydd swyddogion yn parhau i adrodd i'r Tîm Rheoli Corfforaethol bob chwarter fel diweddariad pellach ar y sefyllfa ddyled ar draws yr Awdurdod.

 

28.

Strategaeth Gweithlu - Diweddariad. pdf eicon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad 'er gwybodaeth' am y cynnydd o ran rhoi Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Cyngor Abertawe 2022 i 2027 ar waith.

 

Amlinellwyd, trwy ymgynghoriadau, y dylai'r Strategaeth gwmpasu cyfnod o bum mlynedd yn hytrach na'r tair blynedd wreiddiol.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r diweddaraf ar weithgareddau'r strategaeth a roddwyd cyngor ar y camau nesaf. Cynhwysir Strategaeth y Gweithlu yn Atodiad 1.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar grynodeb o Strategaeth 2022-2027, y broses ymgynghori, darpariaeth yn erbyn themâu allweddol a'r camau nesaf.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod darparu'r strategaeth wedi bod yn broses hir ac roedd yn cynnwys ymagwedd gweithlu cyfan.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Pwysigrwydd cymryd amser er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael pethau'n gywir.

·       Asesiadau gwrthrychol sy'n cael eu cynnal ar ôl cyfnodau o amser, e.e. cyfnodau o flwyddyn/2 flynedd/3 blynedd, naill ai'n fewnol neu'n allanol gan e.e. Swyddfa Archwilio Cymru.

·       Darparu manylion prentisiaethau i'r pwyllgor.

·       Sefydlu grŵp staff, monitro'r Strategaeth a'r camau nesaf.

29.

Adroddiad Cwynion Blynyddol - Diweddariad Chwe Mis. pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah Lackenby, Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu diweddariad 6 mis a sicrwydd ar y broses ymdrin â chwynion.

 

Cyflwynwyd Adroddiad Cwynion Blynyddol 2020-21 i'r pwyllgor ym mis Rhagfyr 2021 a darparwyd cynnydd ers yr adroddiad hwnnw.

 

Amlinellwyd bod y cyngor wedi bod i gyfarfod trafod syniadau blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ym mis Mawrth 2022 sy'n caniatáu i OGCC gasglu adborth o'r cyrff cyhoeddus ac yna addasu/newid ffyrdd o weithio. Trefnwyd hyfforddiant a ddarperir gan OGCC hefyd ar gyfer staff y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Hydref 2022 a fyddai'n cynnwys ymdrin â chwynion a sgiliau ymchwilio.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod yr holl gyflwyniadau i OGCC ar gyfer adran 40 ar amser, roedd cynnydd yn cael ei wneud ar y system TG newydd ar gyfer cwynion ac roedd yn rhestru'r dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) ynghylch cwynion Corfforaethol a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

30.

Cod Llywodraethu Corfforaethol Lleol: Fframwaith Sicrwydd. pdf eicon PDF 400 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu Côd Llywodraethu Corfforaethol Lleol a sut mae Cyngor Abertawe'n ei roi ar waith ac yn darparu sicrwydd yn ei gylch.

 

Amlinellwyd bod y Fframwaith Cyflawni Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan CIPFA a SOLACE yn 2007 ac a adolygwyd yn 2015, yn gosod y safon ar gyfer llywodraethu awdurdod lleol yn y DU. Er mwyn sicrhau llywodraethu da, dylai pob awdurdod lleol allu dangos bod ei strwythurau llywodraethu'n cydymffurfio â'r egwyddorion craidd a'r is-egwyddorion a gynhwysir yn y fframwaith.

 

Ychwanegwyd bod y cyngor wedi mabwysiadu Côd Llywodraethu Corfforaethol Lleol yn 2017. Roedd Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid cynnal adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu o leiaf unwaith y flwyddyn ac adrodd arno o fewn yr Awdurdod e.e. i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Mae'r cyngor wedi cyhoeddi Datganiad Llywodraethu Blynyddol i'r perwyl hwn ac mae'r Is-adran Archwilio Mewnol yn adolygu trefniadau llywodraethu'r cyngor yn flynyddol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y Côd Llywodraethu Corfforaethol Lleol a sut mae Cyngor Abertawe wedi'i roi ar waith ac yn darparu sicrwydd bod trefniadau yn parhau i fod yn gadarn ac yn addas at y diben.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y Côd Llywodraethu Corfforaethol Lleol ac yn dangos yr egwyddorion allweddol, gan nodi sut roedd yr Awdurdod wedi cyflawni ei nodau. Yn ogystal â hyn, roedd yn nodi'r sicrwydd a ddarperir gan y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, gan gynnwys ffynonellau sicrwydd mewnol ac allanol.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn darparu sicrwydd ychwanegol ynghylch gweithgareddau'r cyngor.

31.

Trosolwg o drefniadau Llywodraethu a Sicrwydd Partneriaethau a Chydweithrediadau. pdf eicon PDF 366 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu trosolwg o drefniadau Llywodraethu a Sicrwydd Partneriaethau a Chydweithrediadau arwyddocaol.

 

Darparwyd diffiniad o lywodraethu da, fel yr amlinellir yn 'Fframwaith Cyflawni Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol 2016', a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol (SOLACE), gan gynnwys egwyddorion llywodraethu da.

 

Amlygwyd y dylai'r cyngor allu dangos bod ei strwythurau llywodraethu yn cydymffurfio â'r egwyddorion craidd a'r is-egwyddorion yn y Fframwaith er mwyn sicrhau llywodraethu da.   Adolygodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB) y cyngor ar 31 Mai 2022 i asesu sut y mae wedi cydymffurfio â'i Gôd Llywodraethu Corfforaethol (wedi'i lywio gan Fframwaith CIPFA/SOLACE 2016). Penderfynodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gymeradwyo'r DLlB yn amodol ar nifer o ddiwygiadau.

 

Amlinellwyd cymhlethdod trefniadau'r partneriaethau yng Nghymru a nodwyd bod Adolygiad o Bartneriaethau Strategol yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a'r CLlLC ym mis Mehefin 2022 wedi dod i'r casgliad, er gwaethaf adolygiadau ac argymhellion niferus a oedd yn canolbwyntio ar wella aliniad a rhesymoli partneriaethau, roedd y rhagolygon yn parhau i fod yn gyfyng ac yn gymhleth. Codwyd nifer o bryderon a oedd yn ymwneud â threfniadau llywodraethu ac atebolrwydd hefyd.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu trosolwg o drefniadau Llywodraethu a Sicrwydd o 5 partneriaeth a chydweithrediad allweddol fel a ganlyn:

 

·       Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) Rhanbarthol De-orllewin Cymru;

·       Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC);

·       Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ranbarthol Gorllewin Morgannwg;

·       Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA); a

·       Phartneriaeth/ERW.

32.

Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. pdf eicon PDF 454 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddwyd am Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er gwybodaeth'.

33.

Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Cynllun Gwaith 2022/23. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’.

 

Nodwyd gan nad oedd busnes i'w trafod yn ystod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 10 Awst 2022, y byddai'r cyfarfod yn cael ei ganslo.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd y trefnwyd i Bwyllgor y Rhaglen Graffu gyfarfod ar 19 Gorffennaf 2022 ac y byddai ei raglen waith yn cael ei chynnwys gydag adroddiadau Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol.