Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-2021.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Paula O’Connor yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

2.

Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-2021.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P R Hood-Williams yn Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

 

(Y Cynghorydd P R Hood-Williams fu'n llywyddu)

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P M Black – Cofnod Rhif 142 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21, Adroddiad Monitro ar gyfer y Cyfnod o 1 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2020 - Llywodraethwr Ysgol Gyfun Pentrehafod - personol.

 

Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 142 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21, Adroddiad Monitro ar gyfer y Cyfnod o 1 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2020 - Llywodraethwr Ysgol Gyfun Pentrehafod ac aelod o'r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd - personol.

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 258 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio fel cofnod cywir.

5.

Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21 Adroddiad Monitro ar gyfer y Cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2020 a 30 Medi 2020. (Simon Cockings) pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Simon Cockings, adroddiad a oedd yn dangos yr archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2020.

 

Cwblhawyd cyfanswm o 14 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt. Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o'r cwmpas o'r adolygiadau terfynol yn ystod y cyfnod.

 

Rhoddwyd dadansoddiad o lefelau sicrwydd yr archwiliadau a gwblhawyd a gwnaed cyfanswm o 67 o argymhellion yn yr archwiliad, a chytunodd y rheolwyr i weithredu'r holl argymhellion. Ni chyflwynwyd unrhyw adroddiadau cymedrol yn ystod y chwarter.

 

Eglurwyd bod mynediad at holl wefannau'r cyngor wedi'i gyfyngu oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus. Cafodd hyn effaith sylweddol ar allu'r Tîm Archwilio i gwblhau profion ar y safle a bydd yn parhau i wneud hynny nes i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Eglurwyd hefyd nad oedd y Tîm yn gallu cynnal rhai ymweliadau dilynol oherwydd nad oedd staff yn gallu cael mynediad i rhai safleoedd, e.e. ysgolion.

 

Darparwyd manylion am waith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2020, gan gynnwys dau adroddiad archwilio cymedrol blaenorol ar Docynnau Consesiynol 2019/20 a Chynnal a Chadw'r Cerbydlu 2019/20. Roedd yr ail ddarn o waith dilynol ar y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd 2019/20 wedi cychwyn ac adroddir am hwnnw mewn cyfarfod yn y dyfodol. Trefnwyd yr ymweliadau dilynol ag Ysgol Gynradd Cwm Glas ac Ysgol Arbennig Pen y Bryn ar gyfer chwarter 3.

 

Rhoddodd y pwyllgor adborth cadarnhaol ynghylch y cynnydd a wnaed a llongyfarchodd y Prif Archwiliwr ar waith ei dîm mewn amgylchiadau anodd iawn.  Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Y defnydd o ddogfennau electronig a oedd yn sicrhau bod gwaith y Tîm Archwilio yn gallu parhau;

·       Problemau parhaus gyda chaffael mewn ysgolion a'r bwriad i ddarparu hyfforddiant ychwanegol i staff mewn ysgolion;

·       Yr angen i gyflwyno polisi caffael ar gyfer ysgolion a fyddai'n darparu canllawiau clir y byddent yn eu dilyn.

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i'r Prif Archwilydd a'i staff am y gwaith a'r cynnydd a wnaed.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

6.

Adroddiad Dilynol Argymhelliad yr Archwiliad Mewnol - Chwarter 2 2020/21. (Simon Cockings) pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr adroddiad a oedd yn dangos i'r pwyllgor statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle bu'n rhaid gwneud gwaith dilynol yn ystod Chwarter 2 2020/21, a oedd yn caniatáu i'r Pwyllgor Archwilio fonitro'r broses o weithredu'r argymhellion a wnaed gan Archwilio Mewnol.

 

Darparodd Atodiad 1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd ac a roddwyd ar waith a rhoddodd Atodiad 2 fanylion yr argymhellion na roddwyd ar waith.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y rhoddwyd 141 o'r 148 o argymhellion a wnaed ar waith. Roedd y 7 na roddwyd ar waith yn rhai risg isel/canolig ac ni rhoddwyd y rhan fwyaf ohonynt ar waith oherwydd COVID-19 yn bennaf.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

7.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2020/21. (Er Gwybodaeth) (Ben Smith) pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ben Smith, Swyddog Adran 151, adroddiad Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - y chwarter 1af ‘er gwybodaeth’.

 

Cyfeiriodd at y sefyllfa o ran grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru, trefniadau trosglwyddo arian, gan roi sicrwydd i'r pwyllgor ar lefelau micro a macro.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog Adran 151, a ymatebodd yn briodol.  Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y canlynol: -

 

·       Diffyg refeniw, yn enwedig yn Nhreth y Cyngor a gesglir, sut roedd y ffigurau yn yr adroddiad yn amcangyfrifon yn unig a'r colledion refeniw a ragwelir yn Abertawe/ar draws Cymru;

·       Rhagolwg o’r sefyllfa alldro refeniw yn seiliedig ar wariant yn y chwarter 1af, incwm a dderbynnir/y disgwylir iddo wrthbwyso'r colledion a ragwelir, yr ansicrwydd parhaus a'r disgwyliad parhaus i osod cyllideb cyn 11 Mawrth 2021;

·       Cynnydd mewn benthyca a pham ei bod yn rhatach o hyd i fenthyca o gronfeydd wrth gefn;

·       Y gweithdrefnau monitro cyllideb cyfredol, a fyddai modd cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yng nghyllideb 2020-2021 o ystyried y sefyllfa bresennol a'r rhwymedigaeth a roddir ar swyddogion i gyflawni cyllideb gytbwys, gan sicrhau yr aed i'r afael â gorwariant.

8.

Alldro Refeniw ac Olrhain Arbedion 2019/20. (Er Gwybodaeth) (Ben Smith) pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 yr adroddiad Refeniw ac Olrhain Arbedion 2019/20 'er gwybodaeth'.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at y tanwariant sylweddol a gyflawnwyd yn ystod 2019-2020.

9.

Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2019/20. (Er Gwybodaeth) (Ben Smith) pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2019/20 'er gwybodaeth'.

 

Rhoddwyd cadarnhad y cydymffurfiwyd â'r holl faterion yn ystod y flwyddyn.  Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       rhoddwyd esboniad ynghylch buddion y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn erbyn benthyciadau sydd ar gael yn y farchnad agored;

·       Cyfraddau llog a chynllunio ariannol Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus tan 2025-2026;

·       rhoddwyd esboniad ynghylch buddsoddiadau portffolio gwrthbarti ar 31 Mawrth 2020 a sicrwydd buddsoddiadau rhwng awdurdodau lleol.

 

10.

Archwilio Cymru - Datganiad i'r Wasg ar Gynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 406 KB

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Adran 151 ddatganiad i'r wasg Swyddfa Archwilio Cymru ar Gynaladwyedd Ariannol Llywodraeth Leol 'er gwybodaeth'.

11.

Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 371 KB

Cofnodion:

Darparwyd Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’.

 

Yn absenoldeb y Cadeirydd, dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai adroddiad ar risg yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf a drefnir ym mis Tachwedd 2020 a fyddai'n rhoi diweddariad sylweddol i'r pwyllgor.

12.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’.