Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorwyr C Anderson a P R Hood-Williams gysylltiad personol â chofnodion rhif 114 - Cynllun Archwilio Mewnol 2019/20 - Adroddiad Monitro Chwarter 4 ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr 2020 i 31 Mawrth 2020.

109.

Cofnodion. pdf eicon PDF 257 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 11 Chwefror, 10 Mawrth, 26 Mai ac 1 Mehefin 2020 fel cofnodion cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: -

 

Ychwanegu'r Cynghorwyr J W Jones a P K Jones at y rhestr o bobl a ddaeth ar 1 Mehefin 2020.

110.

Cyflwyniad - Y diweddaraf am Amgylchedd Rheoli Mewnol (Gan Gynnwys Rheoli Risgiau). (Adam Hill)

Cofnodion:

Roddodd y Dirprwy Prif Weithredwr, Adam Hill, gyflwyniad i'r Pwyllgor a oedd yn rhoi'r diweddaraf am yr Amgylchedd Rheoli Mewnol. Darparwyd manylion am yr isod: -

 

·       Diweddariad am yr Amgylchedd Rheoli Mewnol - fframwaith llywodraethu, llywodraethu mewnol ac allanol;

·       Rheoli Risgiau - cyfrifoldebau'r Cynghorydd a'r Prif Swyddog

·       Fframwaith Llywodraethu - Dwy egwyddor graidd a phum egwyddor gefnogol;

·       Llywodraethu Mewnol;

·       Llywodraethu Allanol;

·       Rheoli Risgiau a Sicrhau - Fframwaith Sicrhau (edau aur);

·       Rheoli Risgiau;

·       Llywodraethu;

·       Rheoli Risgiau (Sicrwydd).

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog ac ymatebwyd yn briodol iddynt.  Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys: -

 

·       Gwersi a ddysgwyd o ran partneriaethau a'r angen i adolygu eu heffeithiolrwydd yn barhaol;

·       Risgiau a geir o ganlyniad i ddiffyg adnoddau Craffu a gwneud gwasanaethau'n addas at y diben;

·       Datrys problemau partneriaethau drwy Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Soniodd y Cadeirydd hefyd am y risgiau a amlygwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys adnodd gweithlu, deall blaenoriaethau presennol a'r cynnydd mewn adroddiadau Archwilio Mewnol cymedrol. Ychwanegodd ei bod hi'n dechrau gweld gwendidau, fel a amlygwyd yng ngwaith yr Archwiliad Mewnol ac Allanol.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad llafar;

2)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor.

111.

Adolygiad o Bartneriaethau yn Ninas a Sir Abertawe. (Adam Hill) pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o rai o'r prif bartneriaethau, a disgrifiodd y trefniadau ar gyfer llywodraethu ac asesu risgiau a phroblemau.

 

Esboniwyd bod Cyngor Abertawe'n rhan o nifer mawr o bartneriaethau a grwpiau cydweithredol, a oedd yn amrywio o ran eu graddfa, eu cwmpas a'u strwythur.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y partneriaethau a sefydlwyd yn ffurfiol, a'r grwpiau hynny y maent wedi cael effaith sylweddol ar waith y cyngor o ran gofynion adnoddau a chanlyniadau i breswylwyr lleol.

 

Ychwanegwyd bod sefyllfa lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y bartneriaeth yn brysur ac yn gymhleth, gyda llawer o ddyblygu a threfniadau gwahanol ar gyfer asesu rigiau a chanlyniadau. Roedd trefniadau'r bartneriaeth o fewn y cyngor yn adlewyrchu trefniadau cenedlaethol a rhanbarthol, wedi'u hysgogi gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru a datblygiadau polisi newydd. 

 

Roedd gweithgor llywodraeth leol yng Nghymru wedi comisiynu adolygiad o Bartneriaethau Strategol yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2019. Roedd yr adolygiad yn ceisio archwilio unrhyw gymhlethdod a dyblygiad diangen, ac yn ceisio nodi cyfleoedd ar gyfer symleiddio a rhesymoli. Er bod yr adolygiad yn barhaus, roedd adborth gan awdurdodau lleol, partneriaid ac unigolion y gyfwelwyd â hwy yn cadarnhau bod trefniadau'r bartneriaeth yn gymhleth ac yn llethol, a bod y pwysau ar uwch-arweinwyr (proffesiynol a rheoli), yn ogystal â chefnogaeth partneriaeth gorfforaethol, yn sylweddol.

 

Darparwyd manylion y canlynol: -

 

·       Partneriaethau yn Abertawe;

·       Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW (Ein Rhanbarth ar Waith);

·       Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg;

·       Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

·       Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC);

·       Partneriaethau Allweddol Eraill yn Abertawe;

·       Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel;

·       Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol;

·       Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Trefniadau craffu o ran ERW;

·       Cynllun Trafnidiaeth Lleol newydd ar y cyd;

·       Cyngor Abertawe'n cymryd rhan mewn dros 100 o bartneriaethau a'r angen parhaus i weithio gyda sefydliadau eraill ac adolygu'r trefniadau hynny'n rheolaidd;

·       Y nifer mawr o bartneriaethau, dyblygu gwasanaethau, cyfiawnhau gwerth ychwanegol pob partneriaeth ac a ydynt yn darparu gwerth am arian;

·       Y gwerth ychwanegol a ddaw gan y BGC, yr adolygiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru / penderfyniad i roi'r gorau i ariannu BGC yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19 a'r perthnasoedd da â sefydliadau eraill e.e. yr Heddlu, sydd wedi cyflwyno sawl budd heblaw am werth ariannol;

·       Adolygu pob partneriaeth a chydnabod cyfraniadau sefydliadau llai o fewn partneriaethau;

·       Y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr awdurdod, drwy'r BGC, i adolygiad Llywodraeth Cymru, a sut mae'r cyngor yn mynd i'r afael â'r argymhellion. 

 

Nododd y Cadeirydd fod angen sicrhau'r pwyllgor fod partneriaethau'r awdurdod yn effeithiol, yn cyflawni canlyniadau ac yn cynnig gwerth am arian. 

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Ychwanegu adroddiad diweddaru am y cynnydd a wnaed ar argymhellion Llywodraeth Cymru at Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio, a ddarparwyd ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020;

2)    Ychwanegu adroddiad diweddaru am Graffu ar ERW at Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio;

3)    Ychwanegu adroddiad diweddaru am ddatblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Lleol newydd at Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio.

112.

Penodi Aelod Lleyg Ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio. (Adam Hill) pdf eicon PDF 347 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad a oedd yn gofyn i'r pwyllgor ystyried penodi Aelod Lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio. 

 

Ychwanegwyd bod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn mynnu bod pob cyngor yn penodi Pwyllgor Archwilio yn unol â'r argymhelliad a wnaed gan CIPFA yn 2005.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau statudol ar gyfer swyddogaethau ac aelodaeth Pwyllgor Archwilio a darparwyd copi o'r canllawiau yn Atodiad 1.

 

Ar ben hynny, ar ôl cwblhau ymarfer meincnodi i gymharu nifer yr aelodau lleyg a benodwyd i Bwyllgorau Archwilio Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, cynigiwyd y dylai'r cyngor  benodi un aelod lleyg ychwanegol i Bwyllgor Archwilio Dinas a Sir Abertawe.  Dywedwyd wrth aelodau y byddai ychwanegu aelod lleyg ychwanegol yn helpu i sicrhau bod y pwyllgor mewn sefyllfa well i ymdopi â'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig i strwythur y pwyllgor a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n destun  ymgynghoriad ar hyn o bryd, a oedd yn y lle cyntaf yn awgrymu y byddai angen i draean o aelodau pwyllgor fod yn aelodau lleyg.

 

Nodwyd y gofynnwyd i Aelodau'r Pwyllgor Archwilio ystyried y cynnig hwn am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2019.  Trafododd yr aelodau'r cynigion, a chytunwyd aildrafod y mater ar ddyddiad hwyrach. Petai aelodau'n cytuno penodi Aelod Lleyg ychwanegol, byddai argymhelliad y Pwyllgor Archwilio'n cael ei gyflwyno i'r cyngor, a fyddai'n penderfynu yn y pen draw i ddechrau'r broses recriwtio neu beidio.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    y byddai'r pwyllgor yn awgrymu i'r cyngor bod angen penodi Aelod Lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio;

2)    nodi'r cam gweithredu yn Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio.

 

113.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio - 2019/2020. (Simon Cockings) pdf eicon PDF 542 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Archwilio ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019/20.

 

Talodd deyrnged i ymdrechion staff y cyngor i gynnal trefniadau llywodraethu cadarn, a'u hymdrech wych drwy gydol holl heriau COVID-19. Diolchodd hefyd i Aelodau'r Pwyllgor, y Prif Archwilydd, Archwilio Mewnol, Swyddfa Archwilio Cymru a'r Cynghorydd L V Walton (cynrychiolydd y Pwyllgor yn y Grŵp Llywodraethu) am eu gwaith a'r cynnydd a wnaed gan y Pwyllgor.  

 

Ychwanegodd fod ganddi nifer o bryderon am y gweithlu, rheoli risgiau, arbedion ac effaith COVID-19, ac y byddai'n eu codi yn ei chyfarfod gyda'r Prif Weithredwr ym mis Gorffennaf 2020.

 

Penderfynwyd:   

 

1)    Cytuno ar yr adroddiad drafft a'i anfon i'r cyngor i'w gymeradwyo;

2)    nodi'r cam gweithredu yn Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio.

114.

Cynllun Blynyddol Archwiliad Mewnol 20/2019 - Adroddiad Monitro Chwarter 4 ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2020 tan 31 March 2020. (Simon Cockings) pdf eicon PDF 270 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Simon Cockings, adroddiad a oedd yn darparu'r archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ionawr i 31 Mawrth 2020.

 

Cwblhawyd cyfanswm o 27 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Darparwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt.  Gwnaed cyfanswm o 165 o argymhellion yn yr archwiliad, a chytunodd y rheolwyr i weithredu 163 ohonynt, h.y. derbyniwyd 99% o'r argymhellion yn erbyn targed o 95%.  Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau terfynol yn ystod y cyfnod.  Darparwyd hefyd fanylion y grantiau a ardystiwyd ar gyfer y chwarter.

 

Roedd Atodiad 3 yn dangos, erbyn diwedd mis Mawrth 2020, fod 84% o'r adolygiadau a gynlluniwyd wedi'u cwblhau i o leiaf y cam adroddiad drafft, gyda 4% o'r archwiliadau ychwanegol a gynlluniwyd ar waith.  O ganlyniad, roedd 88% o'r Cynllun Archwilio wedi'i gwblhau neu ar waith.  Ar ddiwedd y flwyddyn, nodwyd nad oedd angen 8 o'r archwiliadau (5% o'r cynllun) mwyach oherwydd newidiadau gwasanaeth yn ystod y flwyddyn.  Gohiriwyd 11 o archwiliadau eraill (7% o'r cynllun) i gynllun archwilio 2020/21.

 

Ychwanegwyd bod dau adroddiad cymedrol wedi'u cyflwyno yn ystod y chwarter a darparwyd manylion cryno am y materion sylweddol a oedd wedi arwain at y canlyniadau cymedrol.  Roedd y rhain ar gyfer y meysydd gwasanaeth canlynol, a darparwyd y diweddaraf am gynnydd yn y cyfarfod: -

 

·       Tocynnau Consesiynol 2019/20

·       Ysgol Gynradd Cwm Glas

 

Darparwyd gwybodaeth am waith dilynol a wnaed rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Mawrth 2020, gan gynnwys y chwe adroddiad archwilio cymedrol a wnaed ar y meysydd canlynol: -

 

·       Blaendraethau a Gosodiadau 2019/20

·       Gwasanaethau Glanhau 2019/20

·       Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd 2019/20

·       Ysgol Gynradd Gwyrosydd 2019/20

·       Ysgol Arbennig Pen-y-bryn 2019/20

·       Safle Gwasanaethau Adeiladu (Heol y Gors) 2019/20

 

Cadarnhawyd hefyd fod Cyngor Sir Penfro wedi cwblhau adolygiad mewnol o'r Fargen Ddinesig yn ystod chwarter 4 2019/20, ar gais Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddau argymhelliad nas cytunwyd arnynt mewn perthynas ag Ysgol Gynradd St Thomas, dirwyon PCN hir dymor heb eu talu, gyda thystiolaeth o ddiffyg adolygu/cynnydd yn yr Adran Gorfodi Parcio Sifil, ac os oedd gan yr ysgolion dan sylw drefniadau cytundeb lefel gwasanaeth yn y meysydd a amlygwyd yn yr archwiliadau.

 

Nododd y Prif Archwiliwr y byddai'n mynd i'r afael â'r pryderon hyn yn unigol gyda'r Aelodau a soniodd amdanynt, y tu allan i'r cyfarfod.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

115.

Tocynnau Consesiynol 2019/2020. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cath Swain, Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig, a Barrie Gilbert,Arweinydd Tîm - Cludiant Cyhoeddus a Chludiant Ysgol, y Diweddaraf am Ganfyddiadau Adroddiad Archwilio Mewnol Tocynnau Consesiynol 2019/20.

 

Amlinellwyd bod y cyngor wedi cynnal archwiliad mewnol o'r hawliadau tocynnau consesiynol a gyflwynwyd gan weithredwyr bysus ar gyfer refeniw 'a ildiwyd'. Mae bysus First Cymru yn atebol am dros 90% o wariant y cyngor ac felly roeddent bob amser yn cael eu cynnwys yn y sampl o weithredwyr.  Yn dilyn yr archwiliad i hawliadau'r cwmni ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/2019, a gynhaliwyd yn haf 2019, rhoddwyd lefel sicrwydd gymedrol.

 

Datblygwyd Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, i ddarparu argymhellion ac i roi camau gweithredu priodol ar waith.  Darparwyd yr eitemau risg uchel, risg canolig a risg isel, y gweithredoedd cysylltiedig, ac arferion da yn yr Adroddiad Archwilio yn Atodiad A.

 

Roedd y Cynllun Gweithredu'n amlygu'r eitemau risg uchel a chanolig yn y meysydd isod fel a ganlyn, ac yn rhoi'r cynnydd a wnaed ar bob un: -

 

·       Swyddogion yr Uned Cludiant Integredig yn trafod â First Cymru i sefydlu'r rheswm (rhesymau) dros y swyddi gwag (risgiau uchel);

·       Wrth gywiro'r rheswm/rhesymau dros yr amrywiadau, dylai First Cymru ailgyfrifo'r holl hawliadau o fis Ebrill 2018 hyd heddiw a'u hailgyflwyno (risg ganolig).

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog dan sylw mewn perthynas â'r adroddiad a darparwyd ymatebion yn briodol.  Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·       Osgoi hawliadau dwbl sy'n cynnwys Cynghorau Abertawe / Castell-nedd Port Talbot / Sir Gâr, a thrafod rhwng cynghorau ynghylch yr amser Swyddogion sy'n berthnasol;

·       Cyfrifoldeb First Cymru wrth ddarparu'r wybodaeth gywir drwy eu peiriannau tocynnau, pryder ynghylch lleoli rhai o weithwyr First Cymru y tu allan i'r ardal / diffyg gwybodaeth am ffiniau siroedd a'r wybodaeth / disgwyliadau a ddarperir i First Cymru gan swyddogion y cyngor;

·       Sut mae First Cymru'n seilio'u tocynnau consesiynol ar docyn oedolyn unigol cyffredinol ar gyfer yr holl deithiau, y cytunwyd ar hyn gan Lywodraeth Cymru;

·       Gweithdrefnau talu sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru'n ariannu'r awdurdod, ac yna'n trosglwyddo'r arian i First Cymru;

·       Sut roedd First Cymru wedi penodi eu harchwilwyr eu hunain i gyfrifo'r hawliadau misol ar ran y cyngor wrth symud ymlaen;

·       Sut y byddai newidiadau o dros 2% mewn hawliadau misol yn achosi pryder ac yn cael eu harchwilio.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am ddarparu'r adroddiad diweddaru, a nododd y cafwyd diffyg rheolaeth ariannol fewnol yn y broses, a oedd wedi methu i nodi'r gor-hawliadau, felly byddai'r Pwyllgor Archwilio Mewnol yn gwneud gwaith dilynol ac yn adrodd am hwn i'r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

116.

Cyflogi Staff Asiantaeth - Adroddiad Archwiliad 2019/20 - Diweddariad. (Adrian Chard) pdf eicon PDF 586 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol Strategol, adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am Graffu ar Gyflogi Staff Asiantaeth 2019/20.

 

Nodwyd, yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020, y gofynnwyd i'r Swyddog roi'r diweddaraf am nifer y gweithwyr asiantaeth, lefelau o ddiffyg cydymffurfio a'r gost i'r awdurdod ar gyfer cynnwys y manylion hyn yn Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio.

 

Amlygwyd mai cyfanswm y gweithwyr asiantaeth a gyflogwyd gan asiantaethau dan gontract corfforaethol (Staffline ac RSD Social Care) ym mis Mawrth 2020 oedd 161, gydag 157 ohonynt yn cael eu cyflogi yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd a 4 ohonynt yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Ychwanegwyd mai cyfanswm y gwariant/gost ar gyfer gweithwyr asiantaeth yn 2019/2020 oedd £4,522,120.  Roedd cyfanswm y gwariant ar weithwyr asiantaeth yn cynnwys asiantaethau heblaw am Staffline ac RSD, ac felly byddai nifer y gweithwyr asiantaeth yn uwch wrth ystyried athrawon a staff cyflenwi, sy'n rhan fawr o'r gwariant ychwanegol.

 

Esboniwyd y cysylltwyd â Phenaethiaid Gwasanaeth i roi adborth am y mesurau cydymffurfio a nodwyd yn yr Adroddiad Archwilio, a darparwyd manylion ynghylch meysydd gwasanaeth unigol. Amlinellwyd rôl Staffline hefyd, yn enwedig eu trefniadau gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y camau gweithredu canlynol a nodwyd ar gyfer y dyfodol;

 

·       Adolygu'r polisi presennol ynghylch ymgysylltu â gweithwyr asiantaeth ynghyd ag adolygu'r holl bolisïau Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, gan gynnwys esbonio rolau a chyfrifoldebau;

·       Archwilio'r gwariant "oddi ar gontract" yn fanylach a llywodraethu yn unol â'r trefniadau hyn. Byddai angen gwneud hyn mewn cydweithrediad â chaffael oherwydd nid oedd Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn ymwybodol o'r gweithwyr asiantaeth hyn.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog dan sylw mewn perthynas â'r adroddiad a darparwyd ymatebion yn briodol.  Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·       Cwblhau'r gwaith o adolygu'r holl bolisïau Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

·       Yr angen i atgyfnerthu meysydd gwasanaeth i adlewyrchu polisi'r cyngor, yn enwedig meysydd sy'n cyflogi niferoedd mawr o weithwyr asiantaeth, a sicrhau bod y llywodraethu'n addas at y diben;

·       Lefelau salwch mewn meysydd gwasanaeth sy'n cyflogi gweithwyr asiantaeth;

·       Yr angen i gwblhau'r arolygiad yn brydlon oherwydd y swm mawr o arian dan sylw;

·       Y broses / amserlenni ymgynghori sy'n cynnwys y Tîm Rheoli Corfforaethol, Penaethiaid Gwasanaeth, y Cyd-bwyllgor Ymgynghori;

·       Cyflogi staff yn uniongyrchol yn hytrach na staff asiantaeth;

·       Gweithio gydag Undebau Llafur i sicrhau bod lefelau cyflogaeth y meysydd gwasanaeth yn llawn, gan leihau costau i'r awdurdod.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch y swm sylweddol o arian sy'n cael ei wario ar logi gweithwyr asiantaeth a phwysleisiodd yr angen i adolygu'r polisi presennol cyn gynted â phosib.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y bydd y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol Strategol yn darparu manylion am lefelau salwch/absenoldeb y meysydd gwasanaeth sydd wedi llogi gweithwyr asiantaeth;

3)    Rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch adolygu'r polisi Gweithwyr Asiantaeth presennol.

117.

Swyddfa Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2020 - Dinas a Sir Abertawe. (Jason Garcia) pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jason Garcia a Colin Davies Gynllun Archwilio 2020 Swyddfa Archwilio Cymru - Dinas a Sir Abertawe, a oedd yn darparu manylion y gwaith archwiliad arfaethedig, pryd y byddai'r gwaith yn cael ei wneud, faint byddai'n ei gostio, pwy fyddai'n ei wneud ac effaith COVID-19 ar y cynllun.  Darparwyd hefyd adroddiad diweddaru am effaith COVID-19.

 

Darparodd Arddangosyn 1 risgiau archwilio'r datganiad ariannol a meysydd eraill yr oedd angen eu harchwilio.  Roedd Arddangosyn 2 yn dangos y rhaglen perfformiad archwilio ac roedd Arddangosyn 3 yn rhoi crynodeb o'r gwaith ardystio hawliadau am grantiau. Amlinellwyd manylion y ffi archwilio arfaethedig, y tîm archwilio a'r amserlen yn Arddangosion 4 a 5.  Tynnwyd sylw at y ffaith mai'r gobaith oedd cymeradwyo cyfrifon erbyn 15 Medi 2020, er gwaethaf yr amserlen ddiwygiedig.

 

Cyfeiriwyd at y newidiadau a wnaed i amserlen y rhaglen perfformiad archwilio a'r prif feysydd ffocws.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am wariant cyfalaf Cam 1 Abertawe Ganolog a'r Fargen Ddinesig. Byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu o ran yr ymholiad ynghylch y Fargen Ddinesig oherwydd problemau cyfathrebu yn ystod y cyfarfod.

118.

Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) pdf eicon PDF 352 KB

Cofnodion:

Darparwyd Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth'.

119.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’.