Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: -

 

Paula O’Connor – yr Agenda gyfan - Gweithiwr cyflogedig gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol fel Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Personol.
 

 

17.

Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad Perfformiad y Pwyllgor Archwilio 2017/18. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Hwyluswyd sesiwn gan Gareth Lewis a David Williams o Swyddfa Archwilio Cymru i ganiatáu i'r Pwyllgor Archwilio gwblhau adolygiad o'i berfformiad yn ystod 2017/18.

 

Gofynnwyd i aelodau ystyried y meysydd gwaith a gyflawnwyd yn llwyddiannus gan y pwyllgor, a'r rhai y mae angen eu gwella.  Roedd y sesiwn yn seiliedig ar 7 swyddogaeth graidd pwyllgor archwilio a sefydlwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Dyma'r swyddogaethau craidd y'u trafodwyd: -

 

1)    Bod yn fodlon bod datganiadau sicrwydd yr awdurdod, gan gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, yn adlewyrchu'r amgylchedd risg ac unrhyw gamau gweithredu eraill yn gywir sy'n angenrheidiol er mwyn ei wella, a dangos sut mae llywodraethu'n cefnogi cyflawniadau amcanion yr awdurdod.

2)    Mewn perthynas â swyddogaethau archwilio mewnol yr awdurdod:

 

  • goruchwylio'i annibyniaeth, ei wrthrychedd, ei berfformiad a'i broffesiynoldeb;
  • cefnogi effeithiolrwydd y broses archwilio mewnol; a
  • hyrwyddo'r defnydd effeithiol o ddefnyddio archwilio mewnol gyda'r fframwaith sicrwydd.

 

3)    Ystyried effeithiolrwydd trefniadau rheoli risgiau'r awdurdod a'r amgylchedd rheoli. Adolygu proffil risg y sefydliad a chael sicrwydd bod camau gweithredu'n cael eu dilyn o ran materion sy'n ymwneud â risgiau, gan gynnwys partneriaethau â sefydliadau eraill.

4)    Monitro effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli, gan gynnwys rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod gwerth am arian ac i reoli dod i gysylltiad â risgiau twyll a llwgrwobrwyo.

5)    Ystyried adroddiadau ac argymhellion awdit allanol ac asiantaethau arolygu a'u goblygiadau ar gyfer llywodraethu, rheoli risg neu reolaeth.

6)    Cefnogi perthnasoedd effeithiol rhwng awdit allanol ac archwilio mewnol, asiantaethau arolygu a chyrff perthnasol eraill, gan annog hyrwyddo gwerth y broses archwilio.

7)    Adolygu datganiadau ariannol, barn yr archwilydd allanol ac adroddiadau i aelodau, a monitro camau gweithredu rheoli mewn ymateb i'r materion y'u nodwyd gan archwilio allanol.

 

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru'n rhoi adborth ar ganlyniadau'r sesiwn er mwyn eu hystyried.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru am arwain y trafodaethau.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y trafodaethau;

2)    Bydd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyniad a Pherfformiad Strategol, yn rhoi dolen/mynediad at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol electronig er mwyn i'r Pwyllgor ddeall natur y 31 o risgiau lefel uchel a nodwyd;

3)    Bydd y Cadeirydd yn cwrdd â'r Prif Weithredwr i drafod effaith y 31 o risgiau lefel uchel a sut mae'r awdurdod yn rheoli'r risgiau hynny;

4)    Adrodd am y Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel eitem ar wahân i'r Datganiad o Gyfrifon;

5)    Bydd y Pwyllgor yn trafod ymhellach y posibilrwydd o ganiatáu i aelodau fod yn bresennol mewn cyfarfod Pwyllgor Archwilio corff cyhoeddus arall;

6)    Bydd aelodau'r Pwyllgor Archwilio'n cwrdd ag archwilwyr allanol heb fod swyddogion yn bresennol;

7)    Bydd y Pwyllgor Archwilio'n olrhain yr argymhellion a nodir gan Swyddfa Archwilio Cymru'n fanwl ac yn amserol;

8)    Rhoi gwybod i'r Pwyllgor Archwilio am ganfyddiadau allweddol y trafodaethau.