Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

61.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

62.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad Perfformiad y Pwyllgor Archwilio 2016/17. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Hwyluswyd sesiwn gan Gareth Lewis a Geraint Norman, o Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn galluogi'r Pwyllgor Archwilio i gwblhau adolygiad o'i berfformiad yn ystod 2016/17.

 

Gofynnwyd i aelodau ystyried y meysydd gwaith hynny yr oedd y Pwyllgor wedi gwneud yn dda ynddynt a'r meysydd hynny lle yr oeddent yn teimlo bod lle am welliant.  Seiliwyd y sesiwn ar 7 swyddogaeth graidd y pwyllgor archwilio a sefydlwyd gan CIPFA. Yr egwyddorion craidd a drafodwyd oedd: -

 

·       Datganiadau Sicrwydd, gan gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol,

·       Archwilio Mewnol,

·       Rheoli Risgiau,

·       Amgylchedd rheoli, gan gynnwys gwerth am arian ac atal twyll a llwgrwobrwyaeth,

·       Archwilio allanol ac asiantaethau arolygu eraill,

·       Perthynas rhwng archwiliad allanol, archwiliad mewnol, asiantaethau archwilio a chyrff perthnasol eraill,

·       Datganiadau Ariannol.

 

Byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r sesiwn er mwyn eu hystyried a'u cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2016/17.

 

Diolchodd y cadeirydd i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru am arwain y drafodaeth.   

63.

Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Darparwyd Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

 

Trafodwyd Cytundebau a Rheoli Risgiau Adran 106  gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad,

2)    Ailagor y mater ynghylch mynediad i gronfa ddata Adran 106 i gynghorwyr oherwydd diffyg gwybodaeth.

64.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i'r Prif Swyddog Addysg gael ei atgoffa bod ei bresenoldeb ym Mhwyllgor Archwilio Arbennig ar 28 Mawrth 2017 yn ofynnol.

 

Dywedodd Geraint Norman, o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), wrth y pwyllgor y byddai Adroddiad Grantiau terfynol SAC ar gyfer 2015/16 yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn ystod mis Mehefin 2017.