Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: - Y
Cynghorydd T M White – Eitem 9 yr Agenda – Adroddiad Ymchwiliad y Tîm Twyll
Corfforaethol – Aelod o Fwrdd LAWDAC – Personol. |
|
Cyflwyniad Hyfforddi - Rheoli Risgiau. Cofnodion: Rhoddodd Richard, y Rheolwr Perfformiad Busnes, hyfforddiant i'r pwyllgor ar reoli risgiau. Amlygwyd y canlynol gan yr hyfforddiant: - · Ystyr risg · Y cylch rheoli risgiau · Nodi risgiau · Gwerthuso risgiau · Ymateb i risgiau · Rheoli risgiau · Fframwaith Rheoli Risgiau ar dudalen · Rôl y Pwyllgor Archwilio Gofynnwyd cwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol: - · Y broses ar gyfer rheoli risgiau · Lefel risgiau · Cofrestrau risgiau · Adolygu cofrestrau risgiau a mynediad iddynt · Dadansoddi risgiau ar gontractau unigol · Risgiau'n gwaethygu · Ymwybyddiaeth o reoli risgiau a hyfforddiant · Dangosyddion perfformiad · System TGCh newydd · Amserlenni ar gyfer y fframwaith a'r system TGCh · Cynnwys y cyhoedd · Pennu a mesur targedau · Targedau mwy deallus sy'n seiliedig ar ganlyniadau Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Cyflwyno am yr hyfforddiant a'r diweddariad. PENDERFYNWYD: - 1) Nodi cynnwys yr hyfforddiant; 2) Cyflwyno diweddariad ar gynnydd rheoli risgiau ym mis Mawrth; 3) Dosbarthu'r cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Cyflwyniad Hyfforddi - Gwrth-dwyll. Cofnodion: Rhoddodd Tal Davies, Rheolwr y Tîm Twyll Corfforaethol, hyfforddiant i'r pwyllgor ar atal twyll. Amlygwyd y canlynol gan yr hyfforddiant: - · Cyfrifoldeb Corfforaethol: Dyletswydd Ddeddfwriaethol · Cyfrifoldeb Corfforaethol: Dyletswydd Gyfansoddiadol · Rheol Gweithdrefn Ariannol (RhGA) 1: Rôl a chwmpas y RhGA · RhGA 2: 2.1 Camau Rhesymol · RhGA 2: 2.2 Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth · RhGA 2: 2.3. Cydymffurfio · RhGA 3: Cyfrifoldebau Rheolaeth Ariannol · RhGA 12: Archwilio Mewnol · Strategaeth Atal Twyll · Nodau a chylch gwaith y Tîm Twyll Corfforaethol · Atgyfnerthu'r cylch gwaith a'r nodau · Manylion cyswllt y tîm Gofynnwyd cwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol: - · Y broses ar gyfer penderfynu ar erlyn · Gwneud y Tîm Twyll Corfforaethol yn barhaol ar ôl y cyfnod prawf · Gwerth gorau · Cyhoeddi achosion sydd wedi'u herlyn · Ardaloedd targed Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am yr hyfforddiant a'r sylwadau a nododd fod cynnydd da
wedi'i wneud. Ychwanegwyd bod rhwydwaith mewnol ardderchog a bod gwneud y tîm
yn barhaol yn newyddion cadarnhaol. PENDERFYNWYD: - 1) Nodi cynnwys yr hyfforddiant; 2) Dosbarthu'r cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Cyflwyniad Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol - Strategaeth Masnacheiddio. Cofnodion: Rhoddodd Chris Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol, gyflwyniad ar strategaeth fasnacheiddio. Amlygwyd y canlynol gan y cyflwyniad: - · Ymagwedd fasnachol · Pam mae angen newid arnom? · Nodau strategol Dinas a Sir Abertawe · Amcanion masnachol Dinas a Sir Abertawe · Masnacheiddio Gofynnwyd cwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol: - · Meini prawf ar gyfer dadansoddi dyfynbrisiau · Prisio mewnol · Gwaith yr Adran Addysg · Penderfynu ar gost darparu gwasanaethau · Gwerthu arbenigedd · Cydweithio ag ysgolion · Cytundebau Lefel Gwasanaeth - Ysgolion · Cyllidebau datganoledig Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Llywyddol am y cyflwyniad. PENDERFYNWYD 1) Nodi cynnwys y cyflwyniad; 2) Gwahodd aelodau'r pwyllgor i ddod i'r gweithdai i benaethiaid sydd ar ddod; 3) Dosbarthu'r cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 327 KB Cofnodion: Nodwyd Adroddiad
Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Craffu er gwybodaeth. Ceisiodd y pwyllgor
eglurder o ran Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2015/16, mynediad
aelodau i gronfa ddata Adran 106 a gweithdrefnau o ran archwiliadau sydd wedi
derbyn lefelau sicrwydd cyffredin. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 199 KB Cofnodion: Cyflwynwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 222 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Adroddiad Ymchwiliad y Tîm Twyll Corfforaethol. Cofnodion: Cyflwynodd Jeff Fish, y Swyddog Ymchwilio Twyll Corfforaethol, adroddiad a roddodd fanylion ymchwiliad gan y Tîm Twyll Corfforaethol i safle amwynderau dinesig. Gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddog Llywyddol, a ymatebodd yn briodol. Canolbwyntiodd y cwestiynau ar y camau a gymerwyd a'r gwersi a ddysgwyd ar ôl yr ymchwiliad. PENDERFYNWYD: - 1) Nodi cynnwys yr adroddiad; 2) Y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pennaeth Rheoli Gwastraff i ofyn am sicrwydd bod y gwasanaeth wedi mabwysiadu'r gwersi a ddysgwyd o'r ymchwiliad hwn. |