Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Paul Beynon - Prif Archwiliwr. Cofnodion: Cyhoeddodd y
cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod olaf Paul Beynon, Prif Archwiliwr, a oedd yn
ymddeol ar ôl y Pasg 2017. Diolchodd
iddo am ei waith a'i ymroddiad gan ddymuno ymddeoliad iach a hapus iddo ar ran
y Pwyllgor Archwilio. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: - Y
Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 78 – Mae Cymunedau'n Gyntaf (Clwstwr y De)
yn fy Ward – personol, a Chofnod Rhif 80 – Rwy'n aelod o Gronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe – buddiannau personol. |
|
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu. PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd M H Jones, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, y
diweddaraf ar lafar am waith y tîm craffu. Amlygodd waith y tîm craffu a
chyfeirio at y ffaith fod y gwasanaeth wedi’i gynnwys ar restr fer gwobr y
Municipal Journal yn Llundain ym mis Gorffennaf. Canmolodd hefyd waith Dave
McKenna, Rheolwr Craffu, a fydd yn gadael yr awdurdod ym mis Gorffennaf 2017. Talodd deyrnged i
gynghorwyr a oedd yn ymwneud â gwaith craffu ac amlinellodd yn fyr y gwaith a
wnaed gan bob Panel Craffu. Ychwanegodd
fod angen i fwy o gynghorwyr ymwneud â'r broses a nododd feysydd gwella, gan
gynnwys y broses craffu cyn penderfynu, nad oedd yn caniatáu digon o amser
paratoi ar gyfer craffu effeithiol. Trafodwyd y
materion canlynol: - ·
Y
gefnogaeth a ddarperir gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad; ·
Oedi
i Adolygiadau Comisiynu a diffyg cyflawni mewn ambell faes; ·
Y
testunau a drafodwyd gan y tîm craffu yn ystod tymor y cyngor; ·
Cyfranogaeth
Aelod y Cabinet yn y broses graffu; ·
Gwaith partneriaeth parhaus rhwng Pwyllgor y Rhaglen
Graffu a'r Pwyllgor Archwilio; ·
Cynnwys
y cyhoedd yn y broses graffu. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi cynnwys y trafodaethau; 2)
Gwahodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn rhoi
adroddiad ar y diweddaraf.
|
|
Ardystio Grantiau a Ffurflenni 2015-16 - Dinas a Sir Abertawe. PDF 281 KB Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, yr Ardystiad o Grantiau a Ffurflenni ar
gyfer 2015/16. Crynhowyd bod yr
awdurdod, ar y cyfan, wedi rhoi trefniadau digonol ar waith ar gyfer llunio a chyflwyno'i
hawliadau grant ar gyfer 2015/16. Ychwanegwyd bod cyfle ar gyfer gwella yn
seiliedig ar y canlynol: - ·
bod y
cyngor yn gweithio'n agos gydag archwilwyr i sicrhau bod amserlen gywir a chyfoes o
grantiau 2015-16 ar gael drwy gydol y flwyddyn; a ·
bod cyfle
i wella trefniadau'r cyngor i gyflwyno ei hawliadau grant i'w harchwilio. Ar gyfer 2015-16, ardystiodd yr archwilwyr 17 o hawliadau
grant, gyda chyfanswm gwerth o £295,761,884, pum hawliad yn llai nag yn 2014-15
(£352,447,239). Cyflwynodd y cyngor 53%
o'i hawliadau grant yn 2015-2016 ar amser a chadarnhaodd yr archwilwyr eu bod
wedi ardystio'r holl hawliadau, am gyfanswm cost o oddeutu £76,000. Yn
gyffredinol, arweiniodd archwiliadau 2015-16 at ostyngiad o £693 y mae modd i'r
cyngor ei hawlio. Roedd un o bob pedwar
o hawliadau'r cyngor yn rhai cymwys, sy'n unol â chyfartaledd Cymru ar gyfer
2015-16. Roedd yr adroddiad yn darparu'r manylion canlynol: - ·
Derbyn
hawliadau mewn pryd - cyflwynwyd bron hanner o grantiau'r cyngor yn hwyr ar gyfer
archwiliad; ·
Canlyniadau'r
ardystio - cyflwynwyd tystysgrifau anghymwys ar gyfer 13 o grantiau a
ffurflenni, ond roedd angen addasiadau mewn 4 achos (24%); ·
Addasiadau
archwilio - roedd angen addasiadau i uno grantiau'r cyngor o ganlyniad i waith
ardystio archwiliwr eleni; ·
Trefniadau'r archwiliwr -
roedd gan y cyngor drefniadau digonol ar gyfer paratoi ei grantiau a'i
ffurflenni a chefnogi'r gwaith ardystio, ond roedd angen gwelliannau mewn rhai
meysydd. ·
Ffîoedd - y ffi gyffredinol ar gyfer ardystio grantiau a ffurflenni ar gyfer
2015-16 oedd £76,000, a oedd ymhell o fewn yr amcangyfrif gwreiddiol, sef
£100,000. Roedd y ffi is yn adlewyrchu'r
gostyngiad yn nifer y grantiau yr oedd angen eu hardystio. ·
Crynodeb - crynodeb o'r
gwaith ardystio ar grantiau a ffurflenni'r cyngor ar gyfer 2015-16, sy'n dangos
naill ai lle gwnaed addasiadau archwilio o ganlyniad i waith archwilio neu lle
bu'n rhaid i archwilwyr addasu'r dystysgrif archwilio. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i
gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru, a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol:
- ·
A oedd
gallu o fewn adrannau i ymgymryd â chontractau; ·
Glynu/diffyg
glynu wrth brosesau caffael; ·
Amlygu
eitemau unigol yn erbyn methiant systematig; ·
Proses
gaffael mewn ysgolion; ·
Gofynion
hyfforddi swyddogion a'r gefnogaeth a ddarperir; ·
Gwariant
a monitro trydydd parti, sy'n gysylltiedig yn arbennig ag unrhyw adfachu posib
gan ddarparwr y grant. ·
Y risg
fwyaf yn is nag a fu yn y blynyddoedd blaenorol; ·
Cofrestrau
risg a'r broses monitro cyllidebau; ·
Gweithdrefnau
caffael yn gysylltiedig â risg. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad. 2)
Ychwanegu
gweithdrefnau caffael sy'n gysylltiedig â risg at y Rhaglen Waith. |
|
Cynllun Archwilio 2017 - Dinas a Sir Abertawe. PDF 389 KB Cofnodion: Cyflwynodd Geraint Norman a Steve Barry, Swyddfa Archwilio Cymru, Gynllun
Archwilio 2017 a oedd yn darparu'r gwaith archwilio arfaethedig, pryd y câi ei
wneud, beth fyddai'r gost a phwy fyddai'n ymgymryd â'r gwaith. Roedd Atodiad 1 yn
nodi cyfrifoldebau'r Archwiliwr yn llawn ac roedd Arddangosyn 1 yn darparu tri
cham y dull archwilio. Darparwyd risgiau'r datganiadau ariannol yn Arddangosyn
2, y gwaith ardystio ar hawliadau a ffurflenni grant y cyngor yn Atodiad 2, a
nodwyd ffi'r archwiliad am y gwaith hwn yn Arddangosyn 2. Roedd Arddangosyn 3
yn crynhoi'r materion mwy arwyddocaol a/neu ailadroddol a nodwyd wrth wneud
gwaith ardystio grantiau yn 2015-16. Dangoswyd elfennau'r gwaith archwilio
perfformiad yn arddangosyn 4 a darparwyd amserlen yr archwiliadau arfaethedig
yn Arddangosyn 9. Byddai'r diweddaraf
am gynnydd y cynllun yn cael ei adrodd i'r pwyllgor. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Cyfrifiadau
dadansoddiadau costau/arbenigedd sydd ar gael yn yr awdurdod; ·
Cadernid
ariannol yr awdurdod; ·
Cyfranogaeth
cynghorwyr yn y broses; ·
Dadansoddiad
mwy rhagweithiol o feysydd risg gan y pwyllgor. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
Cynllun Archwilio 2017 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 168 KB Cofnodion: Cyflwynodd Geraint
Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio ar 2017 ar gyfer Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Nodwyd
cyfrifoldebau'r Archwilwyr, ynghyd â rhai'r rheolwyr
a'r rhai sy'n llywodraethu, yn Atodiad 1.
Roedd y dull archwilio'n cynnwys tri cham fel a nodir yn Arddangosyn
1. Dangoswyd y risgiau a nodwyd yn yr
archwiliad o'r datganiadau ariannol a'r cynllun gwaith yn Arddangosyn 2. Yn ogystal â
chynnwys datganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn yn y prif ddatganiadau ariannol,
roedd gofyn i awdurdodau gweinyddol gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y Gronfa
Bensiwn y mae'n rhaid iddo gynnwys cyfrifon y Gronfa Bensiwn. Roedd gofyn i'r
Archwilwyr ddarllen adroddiad blynyddol y Gronfa Bensiwn ac ystyried a oedd yr
wybodaeth ynddo'n gyson â datganiadau ariannol
archwiliedig y Gronfa Bensiwn a gynhwyswyd ym mhrif ddatganiadau ariannol y
cyngor. Roedd gofyn i
Archwilwyr gyflwyno datganiad archwilio i gadarnhau cysondeb y datganiadau
ariannol a gynhwyswyd yn yr adroddiad blynyddol gyda datganiadau ariannol
archwiliedig y Gronfa Bensiwn. Darparwyd
yr amserlen waith yn Arddangosyn 5. Byddai'r Archwilwyr
hefyd yn ymgymryd â'u darn cyntaf o waith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.
|
|
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2017/18. PDF 145 KB Cofnodion: Ynglŷn â Chofnod Rhif 70 cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd
ar 14 Mawrth 2017, cyflwynodd y Prif Archwiliwr Gynllun Blynyddol Archwilio
Mewnol a Strategaeth Archwilio Mewnol 2017/18 i'w cymeradwyo. Amlinellwyd bod yn rhaid i'r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol fod yn
gysylltiedig â neu gynnwys datganiad strategol neu lefel uchel am sut byddai'r
Archwiliad Mewnol yn cael ei gyflwyno a'i ddatblygu, yn unol â'r Siarter
Archwilio Mewnol a sut roedd yn gysylltiedig â nodau ac amcanion y cyngor.
Atodwyd Strategaeth Archwilio Mewnol 2017/18 yn Atodiad 1. Ar gyfer 2017/18, roedd yr Is-adran Archwilio Mewnol yn cynnwys 9.5 person
cyfwerth ag amser llawn ynghyd â'r Prif Archwiliwr, sef 1 swydd yn llai nag a
gafwyd yn 2016/17. Roedd hyn yn golygu bod cyfanswm o 2,470 o ddyddiau ar gael
h.y. 260 yn llai. Roedd 1 swydd yn llai
o ganlyniad i ymddeoliad cynnar y Prif Archwiliwr presennol. Yn sgîl
ailstrwythuro'r Is-adran Archwilio Mewnol, penodwyd yr Archwiliwr Grŵp yn
Brif Archwiliwr, a dilëwyd y swydd Archwiliwr Grŵp i arbed 1 swydd. Er
mwyn rheoli'r is-adran o ddydd i dydd, mae swydd Archwiliwr Arweiniol wedi'i
chreu, a cheisir mynegiannau o ddiddordeb gan yr Uwch-archwilwyr. Dangoswyd crynodeb o Gynllun Archwilio Mewnol 2017/18 yn Atodiad 2 a
dangoswyd rhestr o archwiliadau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn yn Atodiad 3,
ynghyd â'r nifer o ddiwrnodau arfaethedig a gynlluniwyd ar gyfer pob
archwiliad, yn ogystal â risg ganfyddedig pob
archwiliad sy'n codi o'r broses asesu risgiau. Roedd Cynllun
Archwilio Mewnol 2017/18 yn cynnwys unrhyw archwiliadau a ohiriwyd o Gynllun
2016/17 lle'r oedd y risg yn cyfiawnhau eu cynnwys. PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun a Strategaeth
Flynyddol Archwilio Mewnol 2016/17. |
|
Y Diweddaraf AM Y Tim Twyll Corfforaethol. PDF 66 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Twyll Corfforaethol y diweddaraf am y gwaith a gwblhawyd gan y Tîm
Twyll Corfforaethol yn ystod 6 mis cyntaf 2016/17. Roedd yr adroddiad yn
manylu ar waith y Tîm Twyll Corfforaethol yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi
2016, ac roedd Atodiad 1 yn cynnwys rhai ffigurau allweddol. Roedd y ffigurau'n dangos gwerth yr arbedion
a gyflawnwyd gan y tîm, wedi'u rhannu rhwng achosion yr ymchwiliwyd iddynt fel
rhan o'r cynllun peilot gweithio ar y cyd â'r Adran Gwaith a Phensiynau ac
achosion yr ymchwiliwyd iddynt gan y Tîm Twyll Corfforaethol yn unig. Roedd cyfanswm gwerth yr arbedion a
gyflawnwyd yn hanner cyntaf 2016/17 yn fwy na £322k, sy'n dangos cynnydd gwych
gan y tîm yn ail flwyddyn ei weithrediad. Roedd hefyd yn amlygu nifer yr
achosion yr oedd y tîm wedi ymchwilio iddynt, sef 159 ar ddiwedd mis Medi 2016. Yn ystod 2016/17, cyfeiriwyd 16 o achosion
gweithwyr i'r tîm ymchwilio iddynt ac roedd yn arwydd da bod gwaith y tîm yn
cael ei werthfawrogi ar draws y cyngor. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cynllun Blynyddol y Tîm Twyll Corfforaethol 2017/18. PDF 107 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Twyll Corfforaethol adroddiad a oedd yn darparu manylion ynghylch sut
lluniwyd Cynllun y Tîm Twyll Corfforaethol ac amlinellodd y cynllun ar gyfer
2017/18. Cyfeiriodd at restr wirio'r Comisiwn
Archwilio 'Protecting the Public Purse – Fighting Fraud Checklist' a dogfen y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg sef 'Code
of Practice on Managing the
Risk of Fraud and Corruption'. Dangoswyd Cynllun y Tîm Twyll
Corfforaethol ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo Cynllun y Tîm Twyll
Corfforaethol ar gyfer 2017/18. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Archwilio 2016/17. PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Archwilio ar gyfer
2016/17. Roedd yr adroddiad yn
amlinellu'r meysydd gwaith yr ymdriniodd y Pwyllgor Archwilio â hwy yn
2016/17. Nododd y cadeirydd
y caiff y fersiwn derfynol ei chyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2017 i'w
chymeradwyo. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Pwyllgor Archwilio - Materion Adolygu Llywodraethu Corfforaethol. PDF 102 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr adroddiad a oedd yn
amlygu rhai materion a oedd yn ymwneud â'r Adolygiad Llywodraethu Corfforaethol
a gwblhawyd gan CLlLC, y cânt eu cynnwys yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor
Archwilio. Ychwanegwyd bod yr argymhellion o'r Adolygiad
Llywodraethu Corfforaethol sy'n uniongyrchol gysylltiedig â materion yr oedd y
Pwyllgor Archwilio'n gyfrifol amdanynt yn cael eu dangos isod: - ·
Datblygu meini prawf i fesur
y 'gwerth ychwanegol' sy'n cael ei ddarparu gan Archwilio Mewnol fel modd o
ddangos ei gyfraniad corfforaethol; ·
Defnyddio'r meini prawf i
fesur 'y gwerth a ychwanegwyd' i werthuso cyfraniad Archwilio Mewnol a
chyfeirio cynlluniau yn y dyfodol; ·
Ehangu cylch gwaith y Pwyllgor
Archwilio i gynnwys, pethau megis goruchwylio ymateb y cyngor i argymhellion
rheolydd allanol/adolygiad cymheiriaid fel eitem agenda arwyddocaol ar gyfer
ail chwe mis y flwyddyn ddinesig; ·
Ehangu'r cyfraniad at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
(DLlB) drwy gynnull grŵp o gynrychiolwyr o bob
rhan o'r sefydliad i gwrdd bob chwarter i adolygu'r DLlB
yn barhaus; ·
Llunio dogfen DLlB fwy cryno sy'n cynnwys hyperddolenni
i'r dogfennau tystiolaeth perthnasol. Roedd yr
argymhellion a ddangosir uchod yn cynnwys 3 phrif fater h.y. gwerth ychwanegol
a ddarparwyd gan Archwilio Mewnol, cylch gwaith y Pwyllgor Archwilio a llunio’r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Trafodwyd pob mater fel a ganlyn: ·
Gwerth
Ychwanegol Archwilio Mewnol; ·
Cylch
Gwaith y Pwyllgor Archwilio; ·
Datganiad
Llywodraethu Blynyddol. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Darparu
sicrwydd; ·
Trefnu'r
Cynllun Archwilio Mewnol i fynd i'r afael â risg a darparu gwerth ychwanegol; ·
Pwysigrwydd
cael gwared ar wiriadau ar risgiau isel neu gael llai ohonynt; ·
Cylch
gwaith y Pwyllgor Archwilio; ·
Craffu
ar gyrff eraill; ·
Lefel
llywodraethu/proses foddhaol. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Pwyllgor Archwilio - Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. (Er Gwybodaeth) PDF 82 KB Cofnodion: Darparwyd Adroddiad
Olrhain y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 60 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |