75 Penodi Dirprwy Swyddog Canlyniadau 'Sefydlog' a Dirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol. PDF 227 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau adroddiad a oedd
yn ceisio penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Huw Evans, yn Ddirprwy
Swyddog Canlyniadau Sefydlog yn unol ag arfer da a'i benodi hefyd yn Ddirprwy
Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Penderfynwyd:
1)
Penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Huw Evans yn
Ddirprwy Swyddog Canlyniadau Parhaol er mwyn cyflawni holl swyddogaethau'r Swyddog
Canlyniadau a gyflawnir ar hyn o bryd gan y Prif Weithredwr;
2)
Caiff Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ei benodi'n
Ddirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol i gyflawni holl swyddogaethau'r Swyddog
Cofrestru Etholiadol a gyflawnir ar hyn o bryd gan y Prif Weithredwr;
3)
Gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gyfansoddiad y
Cyngor.