85 Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer adeilad newydd i YGG Tan-y-lan. PDF 444 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio:
i)
Cymeradwyaeth
ar gyfer cynllun yr adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan yn amodol ar
gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru;
ii)
Awdurdod
i ddyfarnu'r contract ar gyfer y gwaith i dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad
grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru;
iii)
Cymeradwyo'r
hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad
gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y prosiect.
Penderfynwyd:
1)
Cymeradwyo'r contract ar gyfer gweddill y dyluniad ac er
mwyn codi adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn
Heol Beaconsview, y Clâs i
dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru
2)
Cymeradwyo'r hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i
ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y
contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y
prosiect;
3)
Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd
â'r goblygiadau ariannol, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, a hynny'n
amodol ar gadarnhad grant a chytundeb gyda Llywodraeth Cymru.