Mater - cyfarfodydd

Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer adeilad newydd i YGG Tan-y-lan.

Cyfarfod: 17/10/2019 - Y Cabinet (Eitem 85)

85 Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer adeilad newydd i YGG Tan-y-lan. pdf eicon PDF 444 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio:

 

i)                Cymeradwyaeth ar gyfer cynllun yr adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru;

 

ii)              Awdurdod i ddyfarnu'r contract ar gyfer y gwaith i dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru;

 

iii)             Cymeradwyo'r hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y prosiect.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r contract ar gyfer gweddill y dyluniad ac er mwyn codi adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Heol Beaconsview, y Clâs i dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru

 

2)              Cymeradwyo'r hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y prosiect;

 

3)              Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd â'r goblygiadau ariannol, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb gyda Llywodraeth Cymru.