Mater - cyfarfodydd

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2019/20

Cyfarfod: 21/11/2019 - Y Cabinet (Eitem 97)

97 Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2019/20 pdf eicon PDF 476 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2019/20 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain;

 

2)              Nodi cynlluniau'r Cyfarwyddwr i sicrhau'r Cabinet y gellir cysoni cyllidebau'r gwasanaeth yn gynaliadwy ar gyfer 2019-20 a'r dyfodol, a'u rhoi ar waith erbyn 1 Ebrill 2020, ac yn gynharach lle y bo'n bosib;

 

3)              Na all unrhyw swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario pellach o bwys nes bod y cynlluniau arbed hynny'n cael eu sicrhau a'u rhoi ar waith, fel y manylir yn yr adroddiad i fynd i'r afael â gorwario ar wasanaethau.