71 Rhaglen Hunan-Adeiladu Llywodraeth Cymru yn Nghyngor Abertawe. PDF 253 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn amlinellu lansio'r cynllun
newydd ym mis Hydref 2019 gan Lywodraeth Cymru a sut roedd Cyngor Abertawe'n credu y gall gyfrannu at ei lwyddiant.
Penderfynwyd:
1)
Y bydd yr awdurdod yn gweithio
gyda'r Adran Tai yn Llywodraeth Cymru i dreialu prosiect peilot hunanadeiladu yn y sir trwy ei fenter Siop Plotiau a chaiff
ei lansio ym mis Hydref 2019;
2)
Bydd yr awdurdod yn ystyried cael benthyciad gan
Lywodraeth Cymru o ran ariannu'r prosiect.