Mater - cyfarfodydd

Adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Lleol Cymru o Drefniadau Etholiadol Dinas a Sir Abertawe

Cyfarfod: 26/09/2019 - Y Cyngor (Eitem 74)

74 Adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Lleol Cymru o Drefniadau Etholiadol Dinas a Sir Abertawe pdf eicon PDF 918 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd, a oedd yn darparu ymateb i Gynigion Drafft Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â'u Hadolygiad o'r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei ystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad ar 4 Medi 2019. Cynghorodd y grŵp hwnnw y dylai'r cyngor gymeradwyo'r adroddiad i'w gyflwyno fel rhan o'r cyfnod ymgynghori.

 

Dywedodd y grŵp wrth Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gan yr holl Wardiau Etholiadol a'r Wardiau Cymunedol enw Cymraeg neu ddwyieithog. Amlinellwyd yr enwau arfaethedig a'r ceisiadau am enwau arfaethedig yn Atodiadau B ac C yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r ymateb i'r Cynigion Drafft fel y nodwyd ym Mharagraff 5 yr adroddiad a'u hanfon i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru;

 

2)            Argymell yr enwau Cymraeg ar gyfer y Wardiau Etholiadol fel a awgrymwyd gan yr Awdurdod hwn a'u nodi yn Atodiad B yr adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn eu gosod ar "Restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru";

 

3)            Gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ailystyried y defnydd o "Dynfant" fel ffurf Cymraeg "Dunvant" er mwyn i "Dyfnant" gael ei ddefnyddio fel yr enw safonol ffurfiol;

 

4)            Argymell yr enwau Cymraeg ar gyfer y Wardiau Cymunedol fel yr awgrymwyd gan yr Awdurdod hwn a'u nodi yn Atodiad C yr adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn eu gosod ar "Restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru";

 

5)            Gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried enwau Wardiau Cymunedol Cymraeg neu ddwyieithog addas ar gyfer y Wardiau Cymunedol hynny fel y'u hamlinellir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones ein bod yn nodi er iddo gefnogi y rhan fwyaf o'r adroddiad nad oedd yn cefnogi'r argymhellion mewn perthynas â Dyfnant a De Cilâ.