Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd, a oedd yn darparu
ymateb i Gynigion Drafft Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn
perthynas â'u Hadolygiad o'r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir
Abertawe.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei ystyried gan Weithgor y
Cyfansoddiad ar 4 Medi 2019. Cynghorodd y grŵp hwnnw y dylai'r cyngor
gymeradwyo'r adroddiad i'w gyflwyno fel rhan o'r cyfnod ymgynghori.
Dywedodd y grŵp wrth Bennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gan yr holl Wardiau Etholiadol a'r
Wardiau Cymunedol enw Cymraeg neu ddwyieithog. Amlinellwyd yr enwau arfaethedig
a'r ceisiadau am enwau arfaethedig yn Atodiadau B ac C yr adroddiad.
Penderfynwyd:
1)
Cymeradwyo'r ymateb i'r
Cynigion Drafft fel y nodwyd ym Mharagraff 5 yr adroddiad a'u hanfon i Gomisiwn
Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru;
2)
Argymell yr enwau Cymraeg ar gyfer y Wardiau Etholiadol
fel a awgrymwyd gan yr Awdurdod hwn a'u nodi yn Atodiad B yr adroddiad i
Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn eu gosod ar "Restr Enwau Lleoedd Safonol
Cymru";
3)
Gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ailystyried y defnydd o
"Dynfant" fel ffurf Cymraeg "Dunvant" er mwyn i
"Dyfnant" gael ei ddefnyddio fel yr enw safonol ffurfiol;
4)
Argymell yr enwau Cymraeg ar gyfer y Wardiau Cymunedol
fel yr awgrymwyd gan yr Awdurdod hwn a'u nodi yn Atodiad C yr adroddiad
i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn eu gosod ar "Restr Enwau Lleoedd Safonol
Cymru";
5)
Gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg
ystyried enwau Wardiau Cymunedol Cymraeg neu ddwyieithog addas ar gyfer y
Wardiau Cymunedol hynny fel y'u hamlinellir yn Atodiad C yr adroddiad.
Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones ein bod yn nodi
er iddo gefnogi y rhan fwyaf o'r adroddiad nad oedd yn cefnogi'r argymhellion
mewn perthynas â Dyfnant a De Cilâ.