Mater - cyfarfodydd

Marchnata Safleoedd Strategol - Cyfle am Fenter ar y Cyd yng Nghanol y Ddinas & FPR7.

Cyfarfod: 21/11/2019 - Y Cabinet (Eitem 98)

98 Marchnata Safleoedd Strategol - Cyfle am Fenter ar y Cyd yng nghanol y ddinas & FPR7. pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn amlinellu opsiynau adfywio ar gyfer y dyfodol gan adeiladu ar effaith gatalytig y prosiectau datblygu presennol yng nghanol y ddinas gan gynnwys marchnata safleoedd strategol i sicrhau partner menter ar y cyd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo gofynion y cyllid refeniw fel y'u hamlinellir ym Mharagraff 5.3 yr adroddiad;

 

2)              Datblygu opsiwn 3 fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad a marchnata a hysbysebu'r Cyfle ar gyfer Menter ar y Cyd ar GwerthwchiGymru;

 

3)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i gymeradwyo'r ddogfennaeth farchnata a thendro gan gynnwys Memorandwm Gwybodaeth a chytundeb cyfreithiol drafft/yr offeryn cyflwyno.