Toglo gwelededd dewislen symudol

Mater - cyfarfodydd

Revenue Financial Outturn 2018/19.

Cyfarfod: 13/08/2019 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Eitem 19)

19 Alldro Ariannol Refeniw 2018/19 (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Ben Smith, Prif Swyddog Cyllid, adroddiad am 'Alldro Ariannol Refeniw 2018/19'.

 

Tynnodd sylw'n benodol ar orwariant arall mewn perthynas â gwasanaethau na ellid eu cynnal yn y tymor hir.

 

Trafododd y pwyllgor y sefyllfa/cam gweithredu posib o ran gorwariant parhaus ar wasanaethau. Gosodwyd tasg benodol i Gyfarwyddwyr sef dangos eu holl gynlluniau gweithredu llawn i'r pwyllgor, gan fanylu ar sut maent yn bwriadu cyflwyno arbedion credadwy i ailgydbwyso'r gyllideb fel mater brys.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch cyfalafu, y gronfa wrth gefn ac arian wrth gefn.

 

Penderfynwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio'n rhoi gwybod i'r cyngor am y pryderon ynghylch gorwariant a'r angen i gyfarwyddwyr ddangos cynlluniau cyflwyno llawn mewn perthynas ag arbedion.