43 Cydbwyllgor Penodiadau - Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 110 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y
Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau
Dinas-ranbarth Bae Abertawe i benodi Cyfarwyddwr y Rhaglen.
Penderfynwyd:
1)
Sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae
Abertawe. Bydd y Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar
gyfer Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe;
2)
Penodi Arweinydd y Cyngor (y Cynghorydd R C Stewart) a'r
Cynghorydd J P Curtice (Aelod Anweithredol) i Gyd-bwyllgor Penodiadau
Dinas-ranbarth Bae Abertawe;
3)
Dirprwyo'r dasg o greu rhestr fer o ymgeiswyr i Arweinwyr
Cyngor y pedwar awdurdod.