Mater - cyfarfodydd

Cydbwyllgor Penodiadau - Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cyfarfod: 25/07/2019 - Y Cyngor (Eitem 43)

43 Cydbwyllgor Penodiadau - Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe i benodi Cyfarwyddwr y Rhaglen.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bydd y Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe;

 

2)              Penodi Arweinydd y Cyngor (y Cynghorydd R C Stewart) a'r Cynghorydd J P Curtice (Aelod Anweithredol) i Gyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe;

 

3)              Dirprwyo'r dasg o greu rhestr fer o ymgeiswyr i Arweinwyr Cyngor y pedwar awdurdod.