Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta Jones.
Cofnodion:
Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd
Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor
a Catherine Zeta-Jones i gyfarfod seremonïol y cyngor.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod y
cyngor a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019 lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er
Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones.
Ganed Catherine
Zeta-Jones yn Abertawe a dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan yn Llundain cyn dod
yn seren deledu yn yr addasiad poblogaidd o lyfr HE Bates, ’The Darling Buds of May'.
Enillodd
Catherine Wobr yr Academi am ei phortread o Velma
Kelly yn yr addasiad sgrîn o un o sioeau
cerdd Broadway, Chicago. Fe'i henwebwyd hefyd am wobr Golden Globe ac enillodd wobr Dewis y Beirniaid, Gwobr Urdd yr
Actorion Sgrîn a gwobr BAFTA ar gyfer Actores Ategol Gorau am ei pherfformiad.
Yn ystod ei gyrfa
mae Catherine wedi bod yn llysgennad dros Abertawe ac mae hi wedi gweithio gyda
nifer o elusennau. Yn 2010, dyfarnwyd
Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd
y Frenhines am ei gwasanaethau i'r diwydiant ffilm ac elusennau.
Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac
arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.
Penderfynwyd rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i
Catherine Zeta-Jones.
Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl
Rhyddid er Anrhydedd i Catherine Zeta-Jones gan roi Rhyddid Dinas a Sir
Abertawe iddi.
Ymatebodd Catherine Zeta-Jones drwy ddiolch
i'r cyngor am yr anrhydedd.