Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda.
Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad
ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.
Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol.