Mater - cyfarfodydd

Canfyddiadau Adolygiad Comisiynu Tai.

Cyfarfod: 21/11/2019 - Y Cabinet (Eitem 96)

96 Canfyddiadau Adolygiad Comisiynu Tai. pdf eicon PDF 1006 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i roi canfyddiadau'r Adolygiad Comisiynu Tai ar waith ac i gynnal ymgynghoriad tenantiaid ffurfiol ynghylch model Gwasanaeth Swyddfeydd Tai Rhanbarthol y dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo canfyddiadau allweddol yr adolygiad i'w rhoi ar waith;

 

2)              Y bydd y newid arfaethedig i fodel Gwasanaeth Swyddfeydd Tai Rhanbarthol y dyfodol yn destun i ymarfer ymgynghori ffurfiol â thenantiaid a chaiff y canlyniadau eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet cyn ei roi ar waith.