94 Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol. PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.
Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn disgrifio'r achos
busnes manwl i gyfeirio'r broses benderfynu ar a ddylid bwrw ymlaen â'r
datblygiad, a dyfarnu contract cam 2 yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol
a'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau.
Penderfynwyd:
1)
Cymeradwyo'r cynllun a'i oblygiadau ariannol, yn benodol
ychwanegu £100,720m at y rhaglen gyfalaf dan Reol 7 y Weithdrefn Ariannol;
2)
Cymeradwyo dyfarnu contract y prif waith adeiladu i Buckingham Group Contracting Ltd
er mwyn iddo gyflwyno'r prosiect;
3)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor, y
Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i
gymeradwyo unrhyw ddogfennaeth ac ymrwymo iddi a chymeradwyo unrhyw gyllid
perthnasol sy'n hanfodol i gyflawni'r cynllun gan gynnwys y Penawdau Telerau ac
unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol er mwyn hwyluso datblygiad gwesty ar y
safle;
4)
Cymeradwyo sefydlu cyllidebau cronfa cynnal a chadw ac
ad-dalu a chaiff y gwariant ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif
Swyddog Cyllid;
5)
Cymeradwyo cyfalafu amser y swyddogion sy'n gweithio ar y
cynllun i gefnogi darparu'r prosiect ymhellach, fel yr awdurdodir gan y
Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid;
6)
Sefydlu rhagdaliad bond i Buckingham
gan ddirprwyo'r telerau a'r swm terfynol i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif
Swyddog Cyllid.
Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.
Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn disgrifio'r achos
busnes manwl i gyfeirio'r broses benderfynu ar a ddylid bwrw ymlaen â'r datblygiad,
a dyfarnu contract cam 2 yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol a'r Rheolau
Gweithdrefnau Contractau.
Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad.