Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r
cyngor am y cyfle i gyflwyno cais am ddynodiad o fewn Cam VII Rhwydwaith
Dinasoedd Iach Sefydliad Iechyd y Byd, amcanion a buddion y rhaglen a'r
gofynion ymgeisio.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais gan Gyngor Dinas Abertawe i’w ddynodi’n aelod o
Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd dan gam VII.
Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Rheoli Isadeiledd rannu gwaith y cyngor â phob cynghorydd mewn perthynas â
buddion diffodd motor cerbyd pan fo’r cerbyd wedi stopio mewn traffig am 10
eiliad neu fwy.
Dywedodd Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai'n rhannu'r gwaith.
Y Diweddaraf am y Rhaglen Waredu
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn cyflwyno
trosolwg o'r ffrydiau gwaith amrywiol sy'n rhan o'r Rhaglen Gwaredu Eiddo ac yn
amlygu rhai o'r ffrydiau gwaith parhaus cyfredol mewn perthynas â gwaredu
eiddo'r cyngor.
Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad.