25 Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta Jones PDF 105 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn
ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones.
Ganed Catherine
Zeta-Jones CBE yn Abertawe ac mae'n actores arobryn y mae ei doniau'n amrywio o
fyd y theatr i fyd y ffilmiau.
Dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan yn Llundain cyn dod yn seren deledu yn
yr addasiad poblogaidd o lyfr HE Bates, ’The Darling Buds of May”.
Enillodd Wobr yr Academi am ei phortread o Velma
Kelly yn yr addasiad sgrîn o un o sioeau cerdd Broadway,
Chicago”.
Enwebwyd hefyd am
wobr Golden Globe ac enillodd wobr Dewis y Beirniaid,
Gwobr Urdd yr Actorion Sgrîn a gwobr BAFTA ar gyfer Actores Ategol Gorau am ei
pherfformiad. Mae Catherine hefyd wedi chwarae rhannau yn ffilmiau Ocean's 12, The Mask of Zorro, Entraptment a The
Terminal.
Yn ystod ei gyrfa mae Catherine wedi bod yn
llysgennad dros Abertawe ac mae hi wedi gweithio gyda nifer o elusennau.
Penderfynwyd:
1)
Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones;
2)
Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2019
i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.