Mater - cyfarfodydd

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta Jones

Cyfarfod: 27/06/2019 - Y Cyngor (Eitem 25)

25 Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta Jones pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones.

 

Ganed Catherine Zeta-Jones CBE yn Abertawe ac mae'n actores arobryn y mae ei doniau'n amrywio o fyd y theatr i fyd y ffilmiau.  Dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan yn Llundain cyn dod yn seren deledu yn yr addasiad poblogaidd o lyfr HE Bates, ’The Darling Buds of May”.  Enillodd Wobr yr Academi am ei phortread o Velma Kelly yn yr addasiad sgrîn o un o sioeau cerdd Broadway, Chicago”.

 

Enwebwyd hefyd am wobr Golden Globe ac enillodd wobr Dewis y Beirniaid, Gwobr Urdd yr Actorion Sgrîn a gwobr BAFTA ar gyfer Actores Ategol Gorau am ei pherfformiad. Mae Catherine hefyd wedi chwarae rhannau yn ffilmiau Ocean's 12, The Mask of Zorro, Entraptment a The Terminal.

 

Yn ystod ei gyrfa mae Catherine wedi bod yn llysgennad dros Abertawe ac mae hi wedi gweithio gyda nifer o elusennau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones;

 

2)              Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2019 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.