Arglwydd Faer Sy'n Ymddeol.
Cofnodion:
Penderfynwyd o ran cynnig y Cynghorydd June Burtonshaw,
a eiliwyd gan y Cynghorydd Fiona Gordon, y dylid diolch i'r Cynghorydd David
Phillips am dymor llwyddiannus fel yr Arglwydd Faer a'r Cynghorydd Sybil Crouch
fel yr Arglwydd Faeres.
Cyflwynodd yr Arglwydd Faer fedaliynau ar ran y cyngor i'r Arglwydd Faer
a'r Arglwydd Faeres sy'n ymddeol.
Diolchodd y
Cynghorydd Phillips i'r cyngor am ei gefnogi yn ystod ei dymor mewn ymateb i'r
cynnig o ddiolch. Myfyriodd hefyd am ei
holl ddyletswyddau yn ystod ei dymor fel Arglwydd Faer.