Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i 157 (Cymraeg) Catrawd y Corfflu Logisteg Brenhinol.
Cofnodion:
Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd
Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor
a Chatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB) i gyfarfod seremonïol
y cyngor.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod y
cyngor a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018 lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er
Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg
Brenhinol (CLB).
Mae gan Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu
Logisteg Brenhinol (CLB), a elwir ar lafar yn Gatrawd Trafnidiaeth Cymru,
berthynas arbennig â phobl Dinas a Sir Abertawe. Dechreuodd Sgwadron y Gatrawd
yn Abertawe ym Mhencadlys 53ain Cludfintai Adrannol
(Cymru), Corfflu Gwasanaeth y Fyddin sy'n dyddio'n ôl i 1912. Ym mis Awst 1915, cymerodd y 53ain Adran
(Cymru) ran yn y glaniadau yn Gallipoli lle enillodd
ganmoliaeth am ei rhan wrth gyflenwi bwledi a ffrwydron rhyfel i'r 160fed
Frigâd, sef 160fed Brigâd Troedfilwyr a Phencadlys Cymru bellach. Ar ôl ffurfio'r Corfflu Logisteg Brenhinol ar
1 Ebrill 1993, daeth Sgwadron 223 (Cymru), y Corfflu Trafnidiaeth Brenhinol yn
Sgwadron Magnelwyr Cynorthwyol 223 y CLB.
Yn yr Adolygiad Amddiffyniad Strategol ym 1998, daeth Sgwadron Magnelwyr
Cynorthwyol 223 y CLB yn Sgwadron Trafnidiaeth y CLB ac yn 2014, Sgwadron
Trafnidiaeth (Gorllewin Morgannwg) 223 y CLB.
Nid y Sgwadron yn unig a aildrefnwyd
dros y blynyddoedd, yn yr un modd yn 2007, cafodd Catrawd 157 (Cymru a
Chanolbarth Lloegr) y CLB ei ailenwi'n Gatrawd Drafnidiaeth Cymru'r CLB ac yn
2014 daeth yn Gatrawd 157 (Cymru) y CLB fel yr adwaenwn ni hi heddiw.
Er bod teitlau wedi mynd a dod, mae'r
bobl yn y Gatrawd wedi aros yn gadarn; mae cefnogaeth gan Ddinas a Sir Abertawe
hefyd wedi parhau'n gyson, llysgenhadon ar gyfer cymuned ein lluoedd arfog yn
ei chyfanrwydd.
Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf,
arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill, Cynghorydd Hyrwyddo'r Lluoedd Arfog a'r
Cynghorydd J E Burtonshaw o blaid y cynnig.
Penderfynwyd rhoi rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd
157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB).
Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl
Rhyddid er Anrhydedd i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB)
gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddi.
Ymatebodd Is-gyrnol, Marcie
Madams, Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg
Brenhinol (CLB) drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.