41 Adroddiad Blynyddol 2017/18 - Prif Swyddog Y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 144 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn rhoi ei gyfrif ef o daith
wella'r cyngor i 2018-2019, a pha mor dda oedd y cyngor yn bodloni ei ofynion
statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd yr adroddiad
hefyd yn edrych yn ôl ar feysydd i'w gwella'r flwyddyn flaenorol, a'r heriau a
wynebwyd ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer 2019-2020. Mae'r adroddiad yn
nodi'r newidiadau a gafwyd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gwneud
cynnydd tuag at ganlyniadau llesiant cenedlaethol.
Penderfynwyd derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
2018-2019.
Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black gwestiwn ynghylch
yr ymateb a gafodd o ran Cwestiwn 10 i'r Cynghorydd. Dywedodd nad oedd yr
ymateb yn ateb ei gwestiwn, ond ei fod yn rhoi manylion contract y cyngor
gyda'r YMCA yn lle. Nid oes gan y YMCA gontract i gynnal asesiadau statudol o
ofalwyr ifanc. Gofynnodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu
ateb diwygiedig a fyddai'n mynd i'r afael â'r holl bwyntiau yn y cwestiwn
gwreiddiol.
Nododd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol y darperir ymateb ysgrifenedig.