Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones.
Cofnodion:
Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd
Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor
ac Alun Wyn Jones i gyfarfod seremonïol y cyngor.
Cyfeiriodd Arweinydd y cyngor at gyfarfod y
cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2019 (cyfeirir ato yng Nghofnod 177) lle
penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn
Jones.
Ganwyd Alun Wyn Jones yn Abertawe a chwaraeodd ei
gêm rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Bôn-y-maen a Chlwb Rygbi’r Mwmbwls. Ef yw capten
presennol tîm rygbi cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n chwarae dros y
Gweilch. Ef yw'r clo a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros
Gymru. Ef yw'r chwaraewr cyntaf i chwarae naw gêm brawf i'r Llewod Prydeinig yn
olynol yn y cyfnod proffesiynol ac mae wedi chwarae dros y Gweilch yn amlach nag unrhyw chwaraewr arall.
Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac
arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.
Penderfynwyd rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn
Jones.
Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl
Rhyddid er Anrhydedd i Alun Wyn Jones gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe
iddo.
Ymatebodd Alun Wyn Jones drwy ddiolch i'r
cyngor am yr anrhydedd.