Mater - cyfarfodydd

Aelodaeth Pwyllgorau.

Cyfarfod: 12/06/2019 - Y Cyngor (Eitem 17)

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor ac Alun Wyn Jones i gyfarfod seremonïol y cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y cyngor at gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2019 (cyfeirir ato yng Nghofnod 177) lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones.

 

Ganwyd Alun Wyn Jones yn Abertawe a chwaraeodd ei gêm rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Bôn-y-maen a Chlwb Rygbi’r Mwmbwls. Ef yw capten presennol tîm rygbi cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n chwarae dros y Gweilch. Ef yw'r clo a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru. Ef yw'r chwaraewr cyntaf i chwarae naw gêm brawf i'r Llewod Prydeinig yn olynol yn y cyfnod proffesiynol ac mae wedi chwarae dros y Gweilch yn amlach nag unrhyw chwaraewr arall.

 

Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones.

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Alun Wyn Jones gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo.

 

Ymatebodd Alun Wyn Jones drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.