Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda.
Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad
i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth
i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw
gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.
Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiadau.