36 Ail-greu Stryd y Gwynt. PDF 173 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd ac
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn
ceisio rhoi cymeradwyaeth i swyddogion ddatblygu'r broses o roi'r astudiaeth dichonoldeb
ar waith o bosib trwy ddatblygu rhagor o gynlluniau arfaethedig i hwyluso'r
broses o'i chyflwyno, yn enwedig mewn perthynas â chyllideb.
Penderfynwyd:
1) Cymeradwyo egwyddorion astudiaeth dichonoldeb Stryd y Gwynt fel y fframwaith trosgynnol ar gyfer adfywiad ffisegol Stryd y Gwynt, yn amodol ar gael proses dylunio a chymeradwyo fwy manwl;
2)
Cymeradwyo'r cynllun model arian a amlinellwyd yn yr adroddiad gyda'r
uchelgais o symud i'r cynllun model aur os daw'r arian ar gael, symud ymlaen
i'r cam dylunio manwl a chaniatáu i swyddogion gyflwyno ceisiadau am gyllid;
3) Llunio adroddiad arall sy'n nodi'r dyluniadau manwl, y costau, adroddiad Asesiad Effaith Cydraddoldeb manwl gan gynnwys cynllun gweithredu i gynnwys mwy o ymgynghori a chynnwys, a chadarnhau'r trefniadau ariannu cyn penderfynu'n derfynol ar y cynllun.