177 Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones PDF 101 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn
ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Alun Wyn Jones.
Ganwyd Alun Wyn
Jones yn Abertawe a chwaraeodd ei gêm rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Bôn-y-maen. Ef
yw capten presennol tîm cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n chwarae dros y
Gweilch ac ef yw'r clo a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau
dros Gymru. Ef yw'r chwaraewr cyntaf i chwarae naw gêm brawf i'r Llewod
Prydeinig yn olynol yn y cyfnod proffesiynol ac mae wedi chwarae dros y Gweilch
yn amlach nag unrhyw chwaraewr arall.
Penderfynwyd:
1)
Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones;
2)
Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 12 Mehefin 2019 i
gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.