Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a oedd yn darparu'r diwygiadau a awgrymwyd i Grŵp Adolygu
Siarter y Cynghorau Cymuned/Tref ac argymhelliad y Fforwm Cynghorau
Cymuned/Tref y dylid mabwysiadu'r diwygiadau.
Nododd hefyd o'r 24 Cyngor Cymuned/Tref yn ardal
Abertawe:
Ø
Roedd 21 wedi
mabwysiadu'r Siarter Ddiwygiedig sef Clydach, Gorseinon, Tre-gŵyr,
Pengelli a Waungron, Llanilltud Gŵyr, Cilâ, Llangyfelach, Llanrhidian
Uchaf, Llanrhidian Isaf, Llwchwr, Mawr, y Mwmbwls, Penllergaer, Pennard,
Pen-rhys, Pontarddulais, Porth Einon, Reynoldston, Rhosili, Y Crwys, Cilâ
Uchaf;
Ø
Byddai 2 yn ystyried y
mater yn eu cyfarfodydd cyngor ym mis Ebrill 2019 sef Llandeilo Ferwallt, a Phontlliw a Thircoed;
Ø
Nid oedd 1 wedi ymateb,
sef Llangynydd, Llanmadog a Cheriton.
Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i
aelodau Grŵp Adolygu Siarter y Cynghorau Cymuned/Tref am eu gwaith a'u
cefnogaeth yn ystod y broses adolygu.
Penderfynwyd:
1)
Mabwysiadu'r diwygiadau awgrymedig i'r siarter rhwng Dinas a Sir Abertawe
a'r Cynghorau Cymuned/Tref o fewn y ffiniau fel a amlinellwyd yn yr atodiadau
i'r adroddiad.