162 Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - adeilad newydd i Ysgol Gynradd Gorseinon PDF 166 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad i ymrwymo i raglen gyfalaf y prosiect i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon a hynny'n amodol ar ymrwymo i gontract â Llywodraeth Cymru, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol.
Penderfynwyd:
1)
Cymeradwyo'r prosiect cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd
â'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, a hynny'n amodol
ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.
Nodyn: Gohiriwyd y cyfarfod am
5 munud yn ystod yr eitem hon, yn dilyn ffrwydradau llafar dro ar ôl tro o'r
oriel gyhoeddus.