176 Adolygiad Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio. PDF 176 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r newidiadau arfaethedig ac i gytuno
ar ymchwiliad pellach i symudiad posibl nifer o leoliadau gorsafoedd
pleidleisio.
Cywirodd ychydig o wallau yn yr adroddiad a
gofynnodd am newid yr wybodaeth a argraffwyd mewn perthynas â'r Adrannau
Etholiadol i ddarllen fel a ganlyn:
Adran Etholiadol Penllergaer
Gorsaf Bleidleisio/Gorsafoedd Pleidleisio: Newid
arfaethedig i Neuadd Llewellyn o neuadd bentref yr Hen Ysgol.
Adran Etholiadol Sgeti
Sylwadau a dderbyniwyd: Does dim newid.
Adran Etholiadol Uplands
Sylwadau a dderbyniwyd: Gweler atodiad 2 yr
adroddiad.
Dywedodd, ers ysgrifennu'r adroddiad, fod
Etholiadau Senedd Ewrop wedi cael eu galw ac arweiniodd hyn at farnu bod
Ystafell Ysgol Capel Hill, Heol North Hill o fewn adran etholiadol y Castell yn
anaddas. Felly, cysylltodd ag Aelodau Ward Etholiadol y Castell a chytunodd i
ddefnyddio Ystafell Ysgol Capel Elim yn lle hynny.
Penderfynwyd:
1)
Nodi'r ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â'r adolygiad o
Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio sy’n cael eu crynhoi yn atodiad
2 yr adroddiad;
2)
Nodi'r cynigion terfynol i'r
Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio fel y'u diwygiwyd ac a amlinellwyd
yn atodiad 1 yr adroddiad yn amodol ar gymeradwyo defnyddio Ystafell Ysgol
Capel Elim yn hytrach nag Ystafell Ysgol Capel Hill;
3)
Mae'r Swyddog Canlyniadau’n
parhau i fonitro Dosbarthau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd
Pleidleisio lle nad oes lleoliad amgen addas ar gael ar hyn o bryd.