Mater - cyfarfodydd

Adolygiad Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio.

Cyfarfod: 25/04/2019 - Y Cyngor (Eitem 176)

176 Adolygiad Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio. pdf eicon PDF 176 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r newidiadau arfaethedig ac i gytuno ar ymchwiliad pellach i symudiad posibl nifer o leoliadau gorsafoedd pleidleisio.

 

Cywirodd ychydig o wallau yn yr adroddiad a gofynnodd am newid yr wybodaeth a argraffwyd mewn perthynas â'r Adrannau Etholiadol i ddarllen fel a ganlyn:

 

Adran Etholiadol Penllergaer

Gorsaf Bleidleisio/Gorsafoedd Pleidleisio: Newid arfaethedig i Neuadd Llewellyn o neuadd bentref yr Hen Ysgol.

 

Adran Etholiadol Sgeti

Sylwadau a dderbyniwyd: Does dim newid.

 

Adran Etholiadol Uplands

Sylwadau a dderbyniwyd: Gweler atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd, ers ysgrifennu'r adroddiad, fod Etholiadau Senedd Ewrop wedi cael eu galw ac arweiniodd hyn at farnu bod Ystafell Ysgol Capel Hill, Heol North Hill o fewn adran etholiadol y Castell yn anaddas. Felly, cysylltodd ag Aelodau Ward Etholiadol y Castell a chytunodd i ddefnyddio Ystafell Ysgol Capel Elim yn lle hynny.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â'r adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio sy’n cael eu crynhoi yn atodiad 2 yr adroddiad;

 

2)              Nodi'r cynigion terfynol i'r Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio fel y'u diwygiwyd ac a amlinellwyd yn atodiad 1 yr adroddiad yn amodol ar gymeradwyo defnyddio Ystafell Ysgol Capel Elim yn hytrach nag Ystafell Ysgol Capel Hill;

 

3)              Mae'r Swyddog Canlyniadau’n parhau i fonitro Dosbarthau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio lle nad oes lleoliad amgen addas ar gael ar hyn o bryd.