124 Dynodi Cyfarwyddwr Addysg Statudol Dros Dro. PDF 97 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn
gofyn i'r cyngor benodi Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn yn
Gyfarwyddwr Addysg Statudol dros dro.
Penderfynwyd:
1)
Penodi Mark Sheridan, Pennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn
yn Gyfarwyddwr Addysg Statudol y cyngor dros dro. Bydd hyn am gyfnod o dri mis
i ddechrau tra bydd y Cyfarwyddwr Statudol ar absenoldeb salwch;
2)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau i estyn y
cyfnod o dri mis os oes angen.