Mater - cyfarfodydd

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2019/20-2022/23.

Cyfarfod: 28/02/2019 - Y Cyngor (Eitem 148)

148 Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2019/20-2022/23. pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018/19 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2019/20 - 2022/23.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2018-19.

 

2)       Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2019/20 a 2022/23.

 

3)       Lle caiff cynlluniau unigol Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol.

 


Cyfarfod: 14/02/2019 - Y Cabinet (Eitem 151)

151 Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2019/20-2022/23. pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018-2019 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2019-2020 - 2022-2023.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)         Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2018-2019;

 

2)         Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2019-2020 a 2020-2023;

 

3)         Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol.