Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad
gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu
a Sgiliau, a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i:
i)
Ddyfarnu contract Cam
Un ar gyfer y gwaith i Dendr
Rhif 4;
ii)
Ceisio caniatâd i ymrwymo
cyfanswm o £551,469 i'r rhaglen gyfalaf i ariannu costau'r
cyfnod cyn adeiladu. Cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol ac awdurdodi cynllun newydd i'r Rhaglen Gyfalaf.
Penderfynwyd:
1)
Penodi contractwr 4 i gynnal y gwasanaeth cyn adeiladu hyd
at £392,000 yn amodol ar gwblhau diwydrwydd
dyladwy ariannol priodol. Ystyrir mai contractwr
4 yw'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd a'r
un sy'n rhoi gwerth gorau i'r
awdurdod”.
2)
Ymrwymo £554,469 i'r Rhaglen Gyfalaf
i ariannu costau'r cyfnod cyn adeiladu, gan
gynnwys gwasanaeth cyn adeiladu contractwyr
a ffïoedd mewnol;
3)
Awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol
i lunio dogfennaeth
angenrheidiol i gwblhau'r contract a chyflawni'r prosiect;
4) Dylid cyflwyno adroddiad pellach ar ddiwedd 2019 i ystyried cymeradwyo dyfarniad contract Cam Dau ac yn amodol ar gadarnhad a derbynioldeb costau adeiladu i ymrwymo cost y prosiect i'r Rhaglen Gyfalaf cyn i unrhyw waith ffisegol gael ei wneud.